Skip to main content

Adeiladau'r campws

Dylunio Arloesol

19 Medi 2018

Mae Hawkins/Brown yn falch iawn o fod yn gweithio gyda Phrifysgol Caerdydd er mwyn creu Arloesedd Canolog.

Bydd yr adeilad yn gartref i barc ymchwil cyntaf y byd ym maes y gwyddorau cymdeithasol, gan ddod ag ymchwilwyr, ymarferwyr a llunwyr polisi blaenllaw ynghyd i un lleoliad.

Prif genhadaeth Parc Ymchwil y Gwyddorau Cymdeithasol (SPARK) – sef datblygu atebion arloesol i broblemau cymdeithasol drwy gyfrwng ymchwil ar y cyd – a lywiodd ein dyluniad i raddau helaeth.

Fel y mae’r delweddau’n eu dangos, rydym wedi cydweithio’n agos â staff y Brifysgol i ddatblygu modelau newydd ar gyfer defnyddio lle, yn ogystal ag integreiddio partneriaethau a chydweithio diwydiannol mewn cyd-destun Addysg Uwch.

Ein her oedd dod o hyd i’r ffordd orau o ddod â thenantiaid masnachol ac academyddion y Brifysgol ynghyd i greu lleoliad ysgogol ar gyfer rhyngweithio a chydweithio creadigol.

Rydym wedi gwneud hynny drwy greu’r lle a’r cymorth sy’n angenrheidiol er mwyn cyflymu twf cychwynnol, a chyflawni newid sylweddol wrth hyrwyddo ymchwil ryngddisgyblaethol sy’n cael effaith, a gweithgaredd arloesedd trosiadol.

Bydd yr adeilad 12,000 metr sgwâr yn cynnwys 2,800 metr sgwâr o unedau masnachol ar gyfer busnesau deillio a busnesau newydd, gan gynnwys 500 metr sgwâr ar gyfer labordai gwlyb. Bydd yr adeilad hefyd yn gartref i gyfleuster data diogel, labordy ymddygiad, labordy arloesedd a labordy delweddu.

Bydd y llawr gwaelod yn fan cyhoeddus a ddefnyddir i ddathlu’r weledigaeth, a chyfathrebu amdani. Mae darlithfa hyblyg yn rhan allweddol o’r adeilad, darlithfa ag iddi risiau mawr a chiwbiau eistedd hyblyg i’w tynnu allan, allai gynnal digwyddiadau o fath TEDx.

Yr ‘Oculus’ yw’r syniad mawr wrth wraidd yr adeilad, sy’n cysylltu’r saith llawr. Maent yn risiau agored a cherfluniol sy’n teithio drwy wagle ogwyddol. Nod yr Oculus yw annog dulliau ymgysylltu a phrosiectau cydweithredol rhwng yr amrywiaeth o bobl fydd yn defnyddio’r adeilad. Mae’n dechrau fel ‘grisiau cymdeithasol’ ac yn llunio parthau trafod mewn grwpiau i bob lefel sydd ag iddi arbenigedd gwahanol.

Mae angen amgylcheddau gwahanol iawn ar weithgareddau o fewn yr adeilad – o leoedd tawel ar gyfer y cyfleuster data diogel, i’r llawr gwaelod sy’n llawn bwrlwm. Mae angen i’r adeilad ymateb i hynny, tra’n creu plât llawr hyblyg, y gellir ei ailraglennu. Rydym wedi dylunio’r adeilad fesul gweithgaredd yn hytrach nag adran – gan ddefnyddio ‘gweithio ar sail gweithgaredd’ – gyda’r lleoedd mwy preifat a diogel ymhellach i ffwrdd o’r Oculus, a’r cynllun agored / parthau trafod mewn grwpiau o’i amgylch.

Mae ymchwilwyr eisiau ymgysylltu, cydweithio a hyrwyddo ac mae modd gweld y gweithgarwch yn yr adeilad o’r tu allan, yn enwedig o amgylch yr Oculus, drwy’r ffasâd. Mae’r lle hyblyg ar gyfer y ddarlithfa ar y llawr gwaelod wedi’i wydro i’r eithaf, er mwyn pylu’r ffin rhwng y tu mewn a’r tu allan. Mae bwyty a lle ar gyfer cynnal digwyddiadau’n ei wneud yn fan gwych i staff a’r cyhoedd gwrdd, dysgu a rhyngweithio.

Bydd Arloesedd Canolog yn ganolfan ymchwil, creadigrwydd, gwybodaeth, trafodaeth a dadl o’r radd flaenaf, ac yn fan lle gall arloesedd ffynnu o ddifrif.

Julia Roberts, Pensaer a Phartner y Prosiect, Hawkins/Brown