Skip to main content

Adeiladau'r campwsPartneriaethauPobl

Ymchwil, Arloesedd a Menter

13 Medi 2018

Arloesedd – y broses o ddatblygu atebion newydd i broblemau heriol – yw hanfod ymchwil Prifysgol Caerdydd.  Ym mhob adeilad a labordy, mae ein hymchwilwyr yn arloesi ac yn creu dulliau, gwybodaeth ac atebion newydd ar gyfer mynd i’r afael ag anghenion cymdeithasol. Mae’r rhain yn cynnwys tyfu’n hŷn yn iachach, ynni a systemau trafnidiaeth glân, diogelwch bwyd a dŵr, a chymdeithasau iach.

Mae blog newydd ein Cartref Arloesedd yn ein galluogi i roi gwybod mwy i chi am y prosiectau cyffrous hyn, er enghraifft, y Ganolfan Ragoriaeth mewn Ymchwil Seibr-ddiogelwch a ddyfarnwyd i ni yn ddiweddar. Drwy gydweithio ag Airbus a chefnogi staff y Brifysgol i fynd ar secondiadau a gweithio’n uniongyrchol gyda busnesau, rydym wedi gallu datblygu ffyrdd arloesol newydd o fynd i’r afael â seibr-ymosodiadau a gwarchod sefydliadau rhagddynt. Neu ein cwmni deillio – TeloNostiX – a ddatblygodd ddull newydd o helpu cleifion canser a’u meddygon i benderfynu ynghylch pa driniaeth sydd orau.

Mae’r ddwy enghraifft hon yn dangos thema ganolog a ddaw i’r amlwg wrth i’r blog ddatblygu: y gwerth a’r pwyslais a roddwn ar gydweithio yn y Brifysgol, boed hynny gyda busnesau, y GIG, diwydiant, llywodraeth, elusennau a’r cyhoedd.  Rydym yn cydnabod pa mor bwysig yw deall anghenion y rhai fydd yn elwa o’n hymchwil, gan wneud yn siŵr y gallwn ddatblygu atebion newydd yn gyflym sydd o fudd mawr i gymdeithas. Yn ogystal, rydym yn chwilio am atebion sy’n helpu busnesau’r DU i dyfu’n fwy llwyddiannus ar draws y byd gan greu swyddi tra medrus ar gyfer ein cymunedau.

Mae Campws Arloesedd Caerdydd yn cefnogi’r nod hwn drwy ddod â rhai o’n grwpiau ymchwil arloesol ar un safle a chynnig cyfleusterau rhagorol a chyffrous ar eu cyfer. Bydd y buddsoddiad ychwanegol mewn Canolfan Arloesedd yn galluogi busnesau a rhanddeiliaid eraill i weithio’n gyda ein staff a’n myfyrwyr yn uniongyrchol. Mae’r dull hwn yn gwneud yn siŵr ein bod yn gallu cyfrannu at ddatblygu economi uchelgeisiol a blaengar yng Nghymru a’r DU. Edrychwn ymlaen at roi gwybod rhagor i chi am hynny ym mlog y Cartref Arloesedd dros y blynyddoedd nesaf.

Mae Kim Graham yn niwrowyddonydd gwybyddol blaenllaw ac yn Ddirprwy Is-Ganghellor Ymchwil, Arloesedd a Menter ym Mhrifysgol Caerdydd.