Skip to main content

PartneriaethauPobl

Cwmnïau’n talu’r pris am ddewis parhau i fasnachu yn Rwsia

6 Ebrill 2022

Yn ystod oriau mân dydd Iau, 24 Chwefror 2022, dechreuodd Rwsia ei ymosodiad ar Wcráin. Oherwydd hynny, dewisodd llawer o gwmnïau rhyngwladol roi’r gorau i fasnachu yn Rwsia am y tro. Mae Ysgol Busnes Caerdydd, yr Athro Arman Eshraghi o’r Ganolfan Ymchwil Polisi Arloesedd yn sbarc|spark a Dr Onur Kemal Tosun o Ysgol Busnes Caerdydd wedi bod yn ymchwilio i ymateb marchnadoedd ariannol i’r newyddion am y cwmnïau a anwybyddodd y pwysau arnynt i roi’r gorau i fasnachu yn Rwsia a dewis parhau i wneud hynny yn ystod pythefnos cyntaf y rhyfel. 

Yn dilyn ymosodiad Rwsia ar Wcráin, cafodd sancsiynau digynsail eu gosod arno a fyddai’n cael effaith eang ar feysydd geowleidyddol, milwrol ac economaidd. Oherwydd y sancsiynau hyn, y perygl i’w henw da a’r ffaith y bydd yn fwyfwy anodd cyflawni trafodion bancio, mae llawer o gwmnïau o’r Unol Daleithiau wedi gweld dim opsiwn arall ond rhoi’r gorau i fasnachu yn Rwsia am y tro. Cafodd llawer o frandiau gorllewinol mawr, fel Coca-Cola, McDonald’s a Starbucks, eu gorfodi i gyhoeddi y byddant yn rhoi’r gorau i fasnachu yno, a hynny oherwydd yr ymgyrchoedd ar y cyfryngau cymdeithasol a’r bygythiad gan ddefnyddwyr i’w boicotio.

Er gwaethaf pwysau o’r fath, mae sawl cwmni cyfarwydd iawn o’r Unol Daleithiau wedi dewis parhau i fasnachu yn Rwsia. Ymhlith y cwmnïau hyn mae Mondelez, y cyffeithiwr rhyngwladol a pherchennog Cadbury, Burger King a Marriott. Mae ein papur nesaf yn canolbwyntio ar y cwmnïau hyn ac yn ymchwilio i ymateb marchnadoedd ariannol i’r newyddion amdanynt.

Yn ystod ein hastudiaeth, gwnaethom gymharu 28 o gwmnïau a ddewisodd barhau i fasnachu yno, a hynny o 12 o ddiwydiannau gwahanol, yn erbyn cwmnïau unigol a ddewisodd roi’r gorau i wneud hynny. Roedd y cwmnïau hyn i gyd yn rhan o’r un Dosbarth Diwydiannol Safonol. Yn rhan o’n gwaith dadansoddi, gwnaethom ddewis canolbwyntio ar ddau ddyddiad penodol – 28 Chwefror a 3 Mawrth. Mae’r dyddiadau hyn yn bwysig gan fod rhai cwmnïau wedi cael sylw am gymryd camau yn erbyn Rwsia tra bod eraill wedi’u beirniadu mewn nifer o gyfryngau am aros yn dawel.

Mae ein gwaith dadansoddi’n rhoi darlun cyffredinol o berfformiad stociau’r cwmnïau a ddewisodd barhau i fasnachu yn Rwsia, a hynny yn y dyddiau cyn ac ar ôl yr ymosodiad. Mae hefyd yn dangos gostyngiad rhyfeddol mewn enillion portffolio ar 28 Chwefror a 3 Mawrth. Mae hyn yn dangos effaith y newyddion yn y cyfryngau tua’r un adeg am y cwmnïau a ddewisodd barhau neu roi’r gorau i fasnachu yno.

Mae’r astudiaeth yn dangos bod marchnadoedd wedi ymateb ar y cyd i’r newyddion am y cwmnïau a ddewisodd barhau i fasnachu mewn marchnad ddadleuol. Rydym yn gweld nad yw’r cwmnïau sy’n gwneud hynny’n perfformio cystal â’r cwmnïau a ddewisodd roi’r gorau i fasnachu yn Rwsia. Nid ydynt ychwaith yn cyrraedd meincnod y farchnad. Mae hynny’n gyson â llenyddiaeth flaenorol ar effaith negyddol gwrthdaro milwrol.

Rydym yn gweld hefyd bod buddsoddwyr wedi gosod cosb o bwys ystadegol ac economaidd ar y cwmnïau a ddewisodd barhau i fasnachu mewn marchnad o’r fath. Gellir priodoli hyn i’r teimladau negyddol tuag at y cwmnïau hyn yn dilyn yr ymosodiad. Yn ogystal â hynny, mae’r canfyddiadau’n dangos bod mwy o fuddsoddiadau’n cael eu gwerthu oherwydd y pwysau ar y cwmnïau hynny.

Ar y cyfan, mae’r cwmnïau sydd wedi dewis parhau i fasnachu yn Rwsia, er gwaethaf yr ymosodiad, y sancsiynau a barn y cyhoedd amdanynt, wedi gwneud hynny er anfantais i’w perfformiad yn y farchnad. Bydd angen astudio parhad hirdymor yr anfantais hon ymhellach yn yr wythnosau a’r misoedd yn dilyn yr ymosodiad.

 

Mae’r Ganolfan Ymchwil Polisi Arloesedd wedi’i lleoli ym Mharc Ymchwil y Gwyddorau Cymdeithasol (SPARK), y cyfleuster cyntaf o’i fath yn y byd. Mae’n ceisio gwella dealltwriaeth ar sail tystiolaeth o ddatblygiad, cyflwyniad a chanlyniadau polisi arloesedd sydd wedi’i lunio’n eang ond sy’n canolbwyntio ar weithgarwch ar sail lle.

Agorodd sbarc|spark ar Ddydd Gŵyl Dewi (1 Mawrth). I gael rhagor o wybodaeth am weithio gyda ni, ebostiwch SPARK@caerdydd.ac.uk