Skip to main content

Adeiladau'r campwsPartneriaethauPobl

Adeilad sbarc|spark yn agor drysau newydd

8 Mawrth 2022
Cardiff University Spark Building

WALES NEWS SERVICE
Cardiff University Spark Building WALES NEWS SERVICE

Mae canolfan flaenllaw newydd lle mae syniadau’n tanio broses o ddyfeisio wedi agor ei drysau.sbarc|spark – mae cartref arloesedd Caerdydd – yn dwyn ynghyd ymchwilwyr, entrepreneuriaid, busnesau newydd i fyfyrwyr a chwmnïau deillio academaidd mewn adeilad o’r radd flaenaf sydd wrth galon Campws Arloesedd Caerdydd.

Mae’r ganolfan, sy’n cynnwys unedau cydweithio, canolfan ddelweddu, awditoriwm a labordy saernïo, yn cynnig rhywle lle gall Cymru feithrin a datblygu syniadau mawr y dyfodol wrth i’r DU ffynnu o’r newydd ar ôl pandemig COVID-19, a cheir lleoedd penodol i fyfyrwyr sy’n entrepreneuriaid yno. Yma, mae ymchwilwyr o grwpiau Parc Ymchwil y Gwyddorau Cymdeithasol (SPARK) yn rhannu eu meddyliau am symud i gartref newydd.

Dyma a ddywedodd yr Athro Sally Power, WISERD

“Mae WISERD wedi cyffroi drwyddi draw am symud i sbarc|spark. A hithau’n bartneriaeth rhwng pum prifysgol – Aberystwyth, Bangor, Caerdydd, De Cymru ac Abertawe – mae WISERD eisoes yn dangos manteision gweithio’n rhyngddisgyblaethol.

“Bydd SBARC yn dangos ffordd arall rydyn ni’n cydweithio â’n gilydd. Bydd yn golygu y gallwn ni ddatblygu ffyrdd newydd o weithio gydag ymchwilwyr gwahanol sydd ag arbenigeddau gwahanol, a hynny mewn meysydd gwahanol. Bydd cyfleusterau o’r radd flaenaf a fydd yn cefnogi casglu a dadansoddi data, yn ogystal â’r gallu i gyrchu rhwydweithiau dylanwad a fydd yn manteisio i’r eithaf ar gyrhaeddiad ac effaith ein hymchwil. Yn fyr, bydd SPARK yn golygu y bydd Cymru ar flaen y gad ym maes gwyddoniaeth gymdeithasol.”

Dr Jeremy Segrott, Uwch-Ddarlithydd, DECIPHER.

“Ar wahân i’r adeilad rhagorol newydd a’r caffi (!), yr hyn rwy’n edrych ymlaen ato fwyaf yw’r cyfle i wneud cysylltiadau a chydweithio gyda phobl yn y canolfannau gwahanol a fydd yn rhan o SBARC. Er enghraifft, mae’r canolfannau gwahanol yn dod â phrofiad cyfoethog ac amrywiol o ran cynnwys y cyhoedd. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at y cyfle i ddysgu gan bobl eraill am sut maen nhw’n gwneud y gwaith hwn yn ogystal â datblygu ffyrdd o weithio sy’n manteisio ar y gwaith hwn o rannu profiadau.

“Efallai bod y disgwyliadau sydd gen i ar gyfer SBARC yn debyg i fanteision mynd i gynadleddau academaidd – rydych chi’n cwrdd â phobl ac yn dysgu pethau na fyddech chi fel arall wedi’u gwneud. Mae’n eich helpu i ddatblygu arferion ymchwil ac yn cynnig safbwyntiau newydd ar eich gwaith.”

Dr Stuart Capstick, Dirprwy Gyfarwyddwr, CAST.

“Mae’r rhan fwyaf o waith CAST yn drawsddisgyblaethol ac yn canolbwyntio ar ddatblygu ystod eang o ymatebion i argyfwng yr hinsawdd. Am y rheswm hwn, mae symud i SBARC yn golygu amrywiaeth eang o gyfleoedd.

Rydyn ni eisoes wedi dechrau cydweithio â’r Academi Gwyddor Data, i astudio ffyrdd newydd o ddadansoddi, deall a delweddu data o arolygon canfyddiadau’r cyhoedd. Rydyn ni wedi bod yn trafod gyda DECIPHER am sut y gallwn ni elwa ar rannu’r adnoddau a’r safbwyntiau gan eu panel cynghori sy’n cynnwys pobl ifanc, er mwyn i raglen ymchwil ac allgymorth CAST adlewyrchu eu diddordebau, ac rydyn ni hefyd yn edrych ar sut y gallai CAST a’r Lab gydweithio a rhannu syniadau mewn perthynas â gweithredu ar lefel dinasoedd ar bwnc datgarboneiddio.

Bydd y cyfle i holl staff CAST yng Nghaerdydd gydweithio mewn lle cyffredin yn adeilad SBARC hefyd yn golygu y gall ein grŵp ymchwil barhau i ddatblygu amcanion pendant a hunaniaeth gyffredin, ac i elwa ar y cyfleusterau a’r hyn y bydd yr adeilad yn arloesi ynddo.”

Yr Athro Alun Preece Cyd-Gyfarwyddwr, Sefydliad Ymchwil Troseddu a Diogelwch

“Ar ôl bod yn rhan o fenter SBARC ers ei sefydlu bron iawn, mae’n anodd credu y byddwn ni’n symud i’n cartref corfforol newydd o’r diwedd! A minnau’n wyddonydd cyfrifiadurol sydd wedi gweithio’n agos gyda gwyddonwyr cymdeithasol ers mwy na 15 mlynedd, rwy’n gweld bod y potensial i gydweithio ar draws y disgyblaethau yn y lleoedd newydd yn sbarc yn wirioneddol drawsnewidiol.

“Rydyn ni’n gwybod ers amser maith fod angen atebion rhyngddisgyblaethol ar gyfer problemau anoddaf y byd. Yn fy maes i, mae’n amlwg bod gan dechnoleg lawer i’w gynnig – gan gynnwys y datblygiadau diweddaraf ym maes gwyddoniaeth data a dysgu peirianyddol – ond mae angen cyfuno a harneisio technoleg sy’n cynnwys safbwyntiau ac arbenigedd dynol. Mae rhannu gwybodaeth a chyd-greu yn allweddol i beri i hyn ddigwydd, ac mae llawer ohonon ni sy’n symud i SBARC o’r farn bod y cyfleusterau a’r gweithle hwn yn golygu ein bod yn gallu cydweithio ar ddatblygu’r rhain.

“Bydd y genhedlaeth newydd o ymchwilwyr a ddaw i SBARC – gan gynnwys ein myfyrwyr talentog a’n hymchwilwyr gyrfa gynnar – yn “tyfu i fyny” gyda gwerthfawrogiad dwfn o fanteision gweithio ar draws ffiniau disgyblu a’u bod yn gwybod pwy sy’n berchen ar y problemau. Rwy’n edrych ymlaen yn arw at ddatblygu’r hyn sydd wedi gweithio’n dda inni yn CSRI wrth inni symud i mewn i SBARC sy’n adeilad llawer mwy wrth gwrs!

Os hoffech chi ymweld â ni i gael gwybod rhagor, cysylltwch â ni.

Mae sbarc|spark ar Gampws Arloesedd Caerdydd, Heol Maendy, Caerdydd, CF24 4HQ.

Ebost: SPARK@Caerdydd.ac.uk

Ffôn: +44 (0)29 225 12360