Skip to main content

PartneriaethauPobl

Newid i Arloesedd Caerdydd

17 Ionawr 2022

Mae Prifysgol Caerdydd yn helpu busnesau i ffynnu drwy rannu gwybodaeth academaidd ymarferol. Partneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth (KTP) yw un o’r ffyrdd gorau i sefydliadau arloesi a thyfu.   Mae’r Partneriaethau yn creu cysylltiad rhwng byd busnes ac ymchwilydd arbenigol a myfyriwr graddedig, gan helpu i drosglwyddo syniadau a sgiliau gwych. Yma, mae Dr David Bembo, Cyfarwyddwr Tîm Gwasanaethau Ymchwil ac Arloesedd y Brifysgol, yn trafod llwyddiant diweddaraf y Partneriaethau ym Mhrifysgol Caerdydd.

“Mae gan Gaerdydd hanes da o gyflawni Partneriaethau rhagorol ac rwy’n falch iawn o nodi bod ein llwyddiant diweddaraf – a farnwyd yn ‘rhagorol’ gan Innovate UK – yn ymestyn yr enw da hwnnw ymhellach.

Mae’n cynnwys BBaCh sy’n canolbwyntio ar ynni adnewyddadwy, SRS Works Limited, a ymunodd â Phrifysgol Caerdydd i fynd i’r afael ag angen busnes penodol.

Mae’r cwmni o Berkshire yn dylunio, yn cyflenwi ac yn gosod paneli solar ffotofoltäig a Systemau Storio Ynni, gan gynnwys PowerCore – system storio ynni a rheoli ynni clyfar sy’n manteisio i’r eithaf ar hunanddefnydd paneli solar ffotofoltäig yn y cartref drwy storio ynni solar ychwanegol.

Cydnabu’r cwmni fod yr hen system PowerCore yn cael ei gyrru gan drawsnewidydd pŵer silicon anodd ei drin a oedd yn cyfyngu ar ei ymarferoldeb, y gallu i dyfu yn unol â’r anghenion a’i safon, felly ymunodd SRS ag academyddion o Ysgol Peirianneg Caerdydd i ddatblygu trawsnewidydd AC-DC (APC)  o’r radd flaenaf.

Gan gymhwyso arbenigedd a gwybodaeth academaidd y Brifysgol i fyd electroneg a pheirianneg, datblygwyd prototeip trawsnewidydd pŵer AC-DC llai ei faint a modiwlaidd newydd sy’n gweithio’n llawn.

Mae’n seiliedig ar dechnolegau y mae ymchwilwyr Caerdydd yn rhagori arnyn nhw: yn gyntaf, transistorau  effaith maes Galiwm-Nitrid (GaN) sy’n lleihau maint a phŵer y trawsnewidyddion sy’n cael ei golli oherwydd eu gwrthiant isel sy’n newid yn gyflym (50 kHz): ac yn ail, dull amledd uchel newydd sy’n rhoi hwb i dopoleg trawsnewidyddion sydd hefyd yn cynyddu dibynadwyedd a dwysedd pŵer y trawsnewidyddion.

Mae gan y prototeip fanteision allweddol. Mae’n gyflymach, yn llai ei faint, yn ysgafnach ac yn fwy cost-effeithiol, ac mae ganddo’r potensial i sbarduno newid sylweddol yn y farchnad fyd-eang. Ar hyn o bryd mae’r cwmni’n ystyried opsiynau i droi’r prototeip yn gynnyrch masnachol.

Roedd y Bartneriaeth wedi arwain at fanteision eraill hefyd, ac oherwydd y rhain roedd SRS Works Ltd yn gallu ymgorffori gwybodaeth arbenigol ac ymarferol yn rhan o ddatblygiadau dylunio newydd, a hynny’n seiliedig ar gydrannau arloesol.

Dyma Babar Baluch, Cyfarwyddwr, SRS Works Ltd, yn crynhoi’r berthynas.

“Mae’r Bartneriaeth wedi bod yn chwa o awyr iach, gan ganiatáu inni weithio gydag academyddion gorau’r DU i gynhyrchu cynnyrch a chreu gwasanaethau sy’n gwella ein busnes.

Mae SRS yn ymwneud â 3 Partneriaeth ar y cyd â Phrifysgol Caerdydd ar hyn o bryd. Mae gennym feddwl mawr iawn o’r broses yn ei chyfanrwydd, y bobl rydyn ni wedi cwrdd â nhw ac wedi gweithio gyda nhw, yn ogystal â’n partneriaid cyswllt.

“Mae wedi bod yn broses wych o’r dechrau hyd y diwedd un ac mae’r monitro a’r anogaeth wedi bod yn rhagorol. Diben y Partneriaethau heb os nac oni bai yw eu bod yn llwyddo!”

Dechreuodd Cydymaith y Bartneriaeth, Dr Sheng Wang yn ei swydd newydd ym Mhrifysgol Caerdydd tra ei fod yn gweithio ar y prosiect, ond llwyddodd i gefnogi dau gydweithiwr yn wirfoddol, sef Dr Karolina Rucinska a Rajesh Rajamony, ac roedd hyn wedi arwain at lwyddiant a chanlyniadau da.

Effeithiodd COVID-19 ar amserlenni’r prosiectau, ond daeth y tîm i wybod rhagor am brosesau’r gadwyn gyflenwi ryngwladol yn ystod y pandemig ac ymatebon nhw i’r her o gyflawni amcanion y prosiect.

Dyma safbwynt Dr Sheng: “Roedd bod yn Gydymaith yn y Bartneriaeth yn brofiad gwych a chefais i’r cyfle unigryw i weithio ar draws nifer o ddisgyblaethau gan rannu a meithrin dealltwriaeth mewn ystod amrywiol o feysydd.”

Mae’r fenter, a gafodd ei hariannu’n rhannol gan Innovate UK a’r Cyngor Ymchwil Peirianneg a’r Gwyddorau Ffisegol, wedi braenaru’r tir ar gyfer dwy Bartneriaeth ychwanegol ar y cyd rhwng SRS Works Ltd a Phrifysgol Caerdydd.

Mae’r BBaCh wedi datblygu perthynas waith agos â Phrifysgol Caerdydd yn ystod y pum mlynedd ddiwethaf, gan arwain at ystod o geisiadau gan Innovate UK, cyllid ar gyfer myfyriwr PhD yng Nghaerdydd, a sgyrsiau gan siaradwyr gwadd yn y cwmni.

Yn ystod y prosiect, cafodd Dr Wenlong Ming, Goruchwyliwr Academaidd, ei ddyrchafu o fod yn Ddarlithydd i fod yn Uwch-ddarlithydd a dyfarnwyd Uwch-gymrodoriaeth Ymchwil iddo gyda chwmni Compound Semiconductor Applications Catapult.

Wedyn, datblygodd dau gais arall i fod yn brosiectau’r  Bartneriaeth, ac mae un ohonyn nhw eisoes wedi’i ddyfarnu. Mae ei bortffolio ymchwil ac ymgysylltu â byd diwydiant yn tyfu’n gyflym o ganlyniad iddo arwain y prosiect.

Yn adroddiad cryno’r Bartneriaeth, dyma a ddywed Dr Ming: “Partneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth yw un o’r llwybrau mwyaf effeithiol i greu ac atgyfnerthu’r cysylltiadau rhwng prifysgolion a chwmnïau. Mae’n rhoi ystod eang o fanteision i’r ddwy ochr nad yw cynlluniau eraill yn eu cynnig yn aml.

“Bydd cwmnïau’n cael cymorth technegol gan brifysgolion i ddatblygu a masnacheiddio cynnyrch sy’n arwain y farchnad. O ran y prifysgolion, mae prosiectau’r Bartneriaeth yn rhoi’r cyfleoedd i roi deilliannau ymchwil arloesol ar waith i ddatrys heriau go iawn yn y byd. Mae’r Partneriaethau yn helpu staff academaidd i ehangu eu rhwydweithiau, cryfhau eu cysylltiadau â byd diwydiant a meithrin llwybrau gyrfaol cadarn.”

Er gwaethaf helyntion y pandemig, mae’r Partneriaethau yn ffynnu o hyd. Cydnabu Llywodraeth Cymru yr heriau economaidd gan gyhoeddi’n gynharach eleni y byddai’n cyfrannu 75% tuag at gyfanswm costau prosiectau’r Partneriaethau sy’n bodloni’r meini prawf cymhwystra ac a gymeradwyir er mwyn cymryd rhan yn rhaglen y Partneriaethau, a hynny tan ddiwedd mis Chwefror 2022.

I gael rhagor o wybodaeth am weithio gyda Phrifysgol Caerdydd, mae croeso mawr ichi gysylltu â ni am sut y gallwn ni gydweithio i droi syniadau gwych yn brosiectau arloesol newydd.

Cysylltwch â: bep@caerdydd.ac.uk