Skip to main content

PartneriaethauPobl

Diwylliant arloesi Copner Biotech

10 Ionawr 2022

Mae cwmni biotechnoleg a sefydlodd Jordan (BSc 2018) ac Alan Copner (BSc 1983) , graddedigion Prifysgol Caerdydd, yn ymchwilio i brosiectau cydweithio newydd ar ôl iddyn nhw gyflwyno patentau newydd.

Sefydlodd Jordan Copner Biotech Cyf yn 2020, gyda’r nod o ymchwilio i gynnyrch a gwasanaethau newydd ym marchnad celloedd meithrin 3D yn ogystal â’u datblygu.

Dywedodd Jordan fod meithrin celloedd ar strwythur tri dimensiwn, yn hytrach nag ar ddysgl petri gwastad, yn dwyn nifer o fanteision.

“Nid yw’r dasg o feithrin celloedd mewn dysgl petri heb ei anfanteision, ac mae’r rheiny a dyfir ar ffurf 3D yn dangos nodweddion sy’n fwy perthnasol o ran eu ffisioleg,” meddai.

Enillodd eu technoleg creu sgaffaldwaith meithrin celloedd wobr Arloesedd Gwyddorau Bywyd Rhyngwladol GHP eleni.

Yn ddiweddar, cyflwynodd y cwmni batentau ar gyfer ei sgaffaldwaith meithrin celloedd 3D a’r Argraffydd Chwistrell Gofodau Negyddol, ac mae ei gynnyrch arloesol bellach ar y porth gwerthu bio-dechnoleg blaenllaw, 2B.

Dangoswyd bod eu cynnyrch yn manteisio i’r eithaf ar ymlyniad ac amlhad celloedd a bod biofarcwyr cellog pwysig yn cael eu cadw er eu bod yn defnyddio crynodiadau isel o hadu celloedd.

Treuliodd Jordan bedair blynedd ym Mhrifysgol Caerdydd yn astudio biocemeg tra bod ei dad Alan wedi treulio tair blynedd yn astudio ffiseg.

Mae Alan, sy’n beiriannydd meddalwedd, wedi dyfeisio rhaglenni arloesol ym maes bioargraffu’r strwythurau ar ffurf 3D, ac mae hyn wedi arwain at fanteision sylweddol o ran cywirdeb y canlyniadau a lleihau’r angen i brofi cyffuriau a thriniaethau newydd ar anifeiliaid.

“Y prif ddefnydd a wneir o fioargraffu yw cynhyrchu strwythurau sy’n debyg i feinweoedd at ddibenion profi cyffuriau, ac mae mwy byth o gwmnïau mawr yn ystyried y dechnoleg hon yn hytrach na chynnal profion ar anifeiliaid,” meddai Alan.

Mae Copner Biotech, yng Nghanolfan Arloesedd Tata Steel yng Nglyn Ebwy, wedi creu partneriaethau gyda Phrifysgol Abertawe yn ogystal â’r cwmni biotechnoleg blaenllaw o Gymru, Jellagen, sydd wedi arloesi yn y defnydd o golagen sglefrod môr, sef y deunydd crai ar gyfer sgaffaldwaith meithrin celloedd.

Dyfarnodd SMART Cymru £123,724 i’r gwaith ar y cyd rhwng y ddau gwmni, a bydd y bartneriaeth yn cyfuno’r bio-inciau sy’n deillio o sglefrod môr gan ddefnyddio uwch-feddalwedd Copner Biotech.

Bwriad y cwmni bellach yw cydweithio ar brosiectau ymchwil ar lefel uwch i archwilio technolegau a chymwysiadau bioargraffu eraill.