Skip to main content

PartneriaethauPobl

Gwneud y mwyaf o ddata yn cynnig manteision busnes

4 Hydref 2021

Prifysgol Caerdydd yn helpu Virtus Tech i wella eu galluoedd data a sicrhau mwy o fuddion i gleientiaid. Mae’r cwmni, sydd wedi’i leoli ym man cydweithio Tramshed Tech Caerdydd, yn arbenigo mewn creu a chynnal teithiau digidol 360 gradd. Mae’r cyd-sylfaenwyr Robin Davies a George Bellwood yn egluro mwy.

“Mae Virtus Tech yn arbenigo mewn creu a chynnal teithiau digidol gan ddefnyddio cyfuniad o nodweddion rhithwir a digidol. Mae ein harbenigedd mewn ffotograffiaeth ddigidol a mewnwelediadau data allweddol yn caniatáu i’n cwsmeriaid fynd i mewn i’r gofod rhithwir sy’n tyfu’n gyflym.

Business booms for graduate's tech tour start-up – Home of Innovation - Cardiff UniversityMae ein Teithiau DIGI a mewnwelediadau Data DIGI y gellir eu haddasu yn adnoddau sy’n arwain y farchnad er mwyn helpu busnesau i dyfu drwy ddarparu ymgysylltiad mwy effeithiol â chwsmeriaid a’u helpu i’w deall yn well. Mae ein nodweddion rhithwir a digidol wedi cael eu defnyddio gan brifysgolion, manwerthwyr ac asiantaethau eiddo tirol, ymhlith eraill.

Drwy rwydweithio, fe wnaethon ni ddarganfod y gallai Caerdydd gynnig cefnogaeth gwyddor data. Felly, gwnaethon ni ymuno â Chyflymydd Arloesedd Data’r Brifysgol. Caniataodd y prosiect 4 mis i ni wella ein profiad rhithwir cyfredol, gan sicrhau mwy o fuddion drwy’r dechneg o ‘fodelu priodoli’ – gan ein helpu i ddeall yn well sut roeddem yn datblygu arweinwyr busnes.

Mae’r ddau ohonom yn gynfyfyrwyr Prifysgol Caerdydd, ac roeddem yn falch iawn o weithio gydag arbenigwyr data’r DIA, a nododd y cyfle i ddeall a gwella ein galluoedd yn well.

Roeddem yn gyffrous am y posibiliadau o esblygu ein platfform dadansoddeg data ‘Data DIGI’ a rhyddhau fersiwn 2.0.

Darparodd y DIA adroddiad manwl, ynghyd â graffiau a siartiau rhyngweithiol sy’n rhagori, a chreu dangosfwrdd newydd i gynhyrchu mewnwelediadau newydd sy’n cael eu gyrru gan ddata a gwella penderfyniadau cwsmeriaid ar wella eu profiad o’r daith.

Fe wnaeth y gwaith hefyd wella gwybodaeth Virtus Tech am dechnegau delweddu data i’w hymgorffori yn eu dangosfwrdd cleientiaid.

Mae cynnyrch Taith DIGI y cwmni nawr yn darparu taith rithwir bwrpasol i gleientiaid, gan gyfuno realiti rhithiwr a nodweddion digidol integredig i arddangos gwasanaethau a chyfleusterau. Gan ddefnyddio’r dull arddangos arloesol hwn, gall cleientiaid greu profiad newydd sbon ar gyfer eu cwsmeriaid ar-lein a rhoi hwb i werthiannau.

Diolch i gymorth arbenigol y DIA, mae gennym bellach syniad cadarn o sut y gallwn symud Platfform Data DIGI ymlaen i greu cynnyrch llawer gwell i’n cwsmeriaid.

Mae’r Cyflymydd wedi rhoi cyngor trawsnewidiol ac wedi ein galluogi i godi uwchlaw’r gystadleuaeth. Oni bai am gymorth y DIA, ni fyddai gan Virtus Tech ddarlun mor glir ynghylch beth i’w wneud â’r data yr ydym yn ei gasglu na sut i’w arddangos.

Roedd yn brosiect hawdd, cefnogol a difyr dros ben gydag adroddiad cadarn a manwl iawn, a oedd yn hynod ddefnyddiol.

Ein nod yw parhau i ddatblygu ein platfform Data DIGI gan ddefnyddio’r dyluniad a’r cysyniadau a gafodd eu creu gan y DIA yn ystod y prosiect, ac mae gennym obeithion uchel am lwyddiannau yn y dyfodol o ganlyniad iddo.

Hoffem ni ddiolch i’r DIA am eu holl ymdrechion i sicrhau bod y cydweithrediad hwn yn llwyddiant.”

George Bellwood a Robin Davies

Virtus Tech

info@virtustech.co.uk

I gael rhagor o wybodaeth am gydweithio ag arbenigwyr arloesedd data Caerdydd, cysylltwch â business@caerdydd.ac.uk