Skip to main content

Adeiladau'r campwsPartneriaethauPobl

SETsquared a Chaerdydd i feithrin llwyddiant

27 Medi 2021

Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymuno â SETsquared – deorydd busnesau prifysgol gorau’r byd Bydd y cydweithrediad yn helpu i droi ymchwil, cwmnïau deillio a busnesau newydd yn fusnesau ffyniannus. Yma, mae Simon Bond, Cyfarwyddwr Arloesedd yn SETsquared a Dr David Bembo, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Ymchwil ac Arloesedd Caerdydd, yn trafod y bartneriaeth a’i manteision i’r ddwy ochr.

Beth sy’n eich cyffroi fwyaf am y cydweithrediad hwn?

Dr David Bembo

DB: SETsquared yw Deorydd Busnes gorau’r Byd, ac ystyrir bod ei raglenni cymorth a’i gymunedau ymarfer proffesiynol yn arwain y sector o ran gweithwyr proffesiynol cyfnewid gwybodaeth ledled y DU a thu hwnt. Mae’r gweithgareddau y mae’n eu darparu yn uchel eu canmoliaeth ar gyfer cynnig presennol Caerdydd i’n staff a’n myfyrwyr mentrus. Mae’r cyfle hwn i ddod ynghyd yn amserol iawn, drwy gyd-fynd â’n buddsoddiad mewn cyfleusterau deorydd newydd mawr – Arloesedd Caerdydd @Sbarc – sy’n mynd yn fyw eleni. Mae bron fel ein bod wedi cynllunio hyn!

SB: Mae Prifysgol Caerdydd yn ymuno â SETsquared gyda hanes gwirioneddol wych mewn menter ac arloesedd ac mae Dinas-Ranbarth Caerdydd yn gartref i ecosystem anhygoel o gwmnïau a buddsoddwyr twf uchel. Rwy’n gyffrous am gysylltu ecosystem Caerdydd â SETsquared. Mae’n gwneud cyfuniad pwerus – fel partneriaeth o chwe sefydliad, bydd SETsquared yn helpu ein prifysgolion i wneud cyfraniad hyd yn oed yn fwy at ein heconomi ranbarthol.

Simon Bond

Sut gwnaeth Caerdydd a SETsquared gwrdd yn wreiddiol – a sut mae’r bartneriaeth wedi blodeuo?

DB: O safbwynt Caerdydd rydym wedi bod yn ymwybodol o SETsquared a’i henw da a’i hanes cynyddol ers blynyddoedd lawer ac rydym wedi cael cysylltiadau ymchwil ac arloesedd hirsefydlog â phob un o aelodau unigol y brifysgol.

Yn 2018, ariannwyd Rhaglen Uwchraddio SETsquared drwy’r rownd gyntaf o Gronfa Gallu Cyswllt (CCF) Ymchwil Lloegr. Gallem ni weld manteision i SETsquared a Chaerdydd pe gallem ehangu gweithgareddau’r rhaglen i Gymru ac yn ffodus roedd CCAUC yn deall y cyfle ac ariannwyd ein cyfraniad fel partner llawn. Mae’r Rhaglen Uwchraddio wedi bod yn llwyddiant mawr ac mae’r berthynas wedi blodeuo wrth i ni ddatblygu cyfleoedd cydweithredol llwyddiannus i’n hymchwilwyr weithio gyda busnesau bach a chanolig ac mewn consortia gyda phartneriaid eraill. Yn ogystal â hyn mae’n rhoi’r cymorth i gwmnïau sy’n aelodau ddatblygu eu busnesau drwy fynediad at arbenigedd ym maes buddsoddi, ymchwil ac arloesedd.

SB: Partneriaeth o brifysgolion yw SETsquared, ond, fel pob sefydliad, mae’n cael ei redeg gan bobl, a rhaid i mi ddweud bod ein timau wedi ‘clicio’ o’r diwrnod cyntaf. Mae cynnal rhaglen newydd fawr fel Uwchraddio yn cymryd egni, proffesiynoldeb, ac agwedd gadarnhaol. Yng Nghaerdydd, daeth SETsquared o hyd i sefydliad tebyg!

Sut bydd eich sefydliad chi’n cryfhau’r llall?

DB: Bydd Caerdydd yn cryfhau safle SETsquared yn y ‘pwerdy’ Porth Gorllewinol sy’n dod i’r amlwg, rhanbarth â sectorau diwydiannol allweddol sy’n cyd-fynd yn dda â chryfderau ymchwil ac arloesedd y partneriaid eu hunain. Fel partner, mae Caerdydd hefyd yn darparu lle yng Nghymru fel cenedl ddatganoledig gyda mynediad at gyfleoedd ariannu penodol. Yn olaf, cydnabyddir y byddai ychwanegu prifysgol ymchwil-ddwys fawr fel Caerdydd yn darparu graddfa ychwanegol i SETsquared y gellid ei ysgogi i godi buddsoddiad ar gyfer ei uchelgeisiau masnacheiddio.

SB: Ni allaf gytuno fwy. Fel partneriaeth o chwech o brifysgolion ymchwil-ddwys mwyaf blaenllaw’r DU, mae’r ystadegau’n drawiadol ar bob cyfrif. Peth arall hoffwn ei ychwanegu yw bod Caerdydd, fel Prifddinas, ‘yn gydnabyddedig’ yn fyd-eang. Rydw i wedi cael cryn dipyn o negeseuon gan aelodau rhyngwladol o’n rhwydwaith ers y cyhoeddiad yn dweud faint maen nhw’n ‘caru Caerdydd a Chymru’!

Pa fathau o brosiectau y bydd y rhwydwaith yn eu datblygu?

DB: Rydym am gefnogi’r gwaith o greu mwy o fusnesau newydd a chwmnïau deilliannol gwerth uchel, uwch-dechnoleg a fydd yn dod â budd economaidd i’r rhanbarth a’r genedl. Mae hyn yn cynnwys cymorth i’n myfyrwyr a graddedigion sy’n entrepreneuriaid.

Mae ymuno â’r bartneriaeth yn amserol iawn wrth i Gaerdydd baratoi i symud i’r adeilad sbarc|spark newydd sbarc ar y Campws Arloesedd. Mae deoryddion SETsquared yn fyd-enwog am eu cefnogaeth a’u gwaith o gyflymu busnesau newydd a chwmnïau deilliannol. Bydd ymuno â’r bartneriaeth yn golygu y gallwn ddarparu cyfleusterau, arbenigedd a chymorth buddsoddi gyda’i gilydd mewn un pecyn – gan ddod â deorydd SETsquared newydd i ganol Caerdydd.

SB: Gallwn gynnig ystod eang o weithgareddau drwy’r bartneriaeth gan gynnwys:

  • Y Rhaglen Ymchwil i Arloeswyr sy’n helpu i ddatblygu meddylfryd entrepreneuraidd staff ymchwil;
  • Y Rhaglen ICURe sy’n dod â thimau ymchwil i leoliad gwersyll ymarfer er mwyn deall potensial masnachol eu hymchwil yn well a datblygu gwell ddealltwriaeth o fusnes;
  • Mae’r Rhaglen Cyflymu Busnes yn cefnogi cyflymu busnesau uwch-dechnoleg cyfnod cynnar cyfranogwyr a sicrhau buddsoddiad priodol o ‘hadau’ i ‘uwchraddio’;
  • Mae’r Rhaglen Entrepreneur yn caniatáu i gyfranogwyr ddatblygu a phrofi eu model busnes a nodi’r camau nesaf;
  • Mae’r Rhaglen Fuddsoddi yn datblygu cynigion buddsoddi aelodau er mwyn codi buddsoddiad ar gyfer twf;
  • Mae hyn i gyd yn seiliedig ar sefydlu cronfa fuddsoddi newydd ar gyfer twf cyflym, cwmnïau arloesol-ddwys a ddatblygwyd gan SETsquared sydd wedi tarddu o’r prifysgolion partner a/neu gydweithio â nhw.

Sut ydych chi’n bwriadu adeiladu eich cydweithrediad dros amser?

DB: Mae llwyddiant yn arwain at fwy o lwyddiant, a’n bwriad yw denu mwy o gyllid o ffynonellau preifat a chyhoeddus i gefnogi twf diwydiannau unigryw yn y dyfodol a sicrhau ffyniant ledled y rhanbarth.

SB: Fel y mae Dave yn ei ddweud, rhaid i ffyniant ledled ein rhanbarth yrru ein cynllun. A bod yn rhaid i ffyniant fod yn gynhwysol – mae strategaethau cenedlaethol ar gyfer Arloesedd, Lefelu i fyny ac yn y blaen yn rhoi cyfeiriad clir i ni o ran teithio. Fodd bynnag, ein cyfrifoldeb ni yw sicrhau bod buddion y strategaethau hyn yn llifo i’r cymunedau rydym yn rhan ohonynt ac yn cael eu cadw’n eang ynddynt.

Pa fuddion cyffredin bydd y bartneriaeth hon yn eu cynnig?

DB: Partneriaeth a chydweithrediad, yn ogystal â rhannu arbenigedd ac arferion da.

SB: Rwy’n edrych ymlaen at Dave yn ymuno â’r Bwrdd Rheoli a’i gydweithwyr yn ymuno â grwpiau ymarferwyr SETsquared gan rannu’r safbwyntiau newydd y byddwn yn eu cyflwyno i’n gilydd. Mae’r Bartneriaeth SETsquared yn cael ei harwain gan bobl – gweithwyr proffesiynol uchelgeisiol, gofalgar ac angerddol KE. Cael tîm Caerdydd fel rhan o’n partneriaeth yw’r fantais orau.

Sut mae ymchwilwyr, myfyrwyr a busnesau prifysgol yn cymryd rhan yn SETsquared?

DB: Cadwch lygad allan am raglenni a fydd yn cael eu lansio!

SB: Rydym yn trefnu cyfarfodydd ar gyfer ein cydweithwyr newydd yng Nghaerdydd gyda grwpiau ymarfer SETsquared i ddechrau’r gwaith. Gallwch gael y newyddion, digwyddiadau a rhaglenni diweddaraf am SETsquared drwy danysgrifio i’n cylchlythyr misol yma.

Hefyd, dyddiad ar gyfer y dyddiadur – bydd ein digwyddiad blynyddol i ymarferwyr, Cynhadledd SETsquared, ar yr wythnos sy’n dechrau ar 24 Ionawr (mae dal angen cadarnhau a fydd ar-lein neu wyneb yn wyneb!) –– dyma Gynhadledd SETsquared 2021 i roi blas o’r hyn y bydd yn ei chynnwys. Cofiwch ddod draw!