Skip to main content

Adeiladau'r campwsPartneriaethauPobl

Ystafell lân newydd ar gyfer technoleg lled-ddargludyddion cyfansawdd

9 Awst 2021

Mae gwyddonwyr a fydd yn gweithio yn ystafell lân fodern Prifysgol Caerdydd ar gyfer lled-ddargludyddion cyfansawdd wedi ymweld â’u darpar gartref.  

Aeth ymchwilwyr o’r Sefydliad Lled-ddargludyddion Cyfansawdd, sy’n cael ei gyllido gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, ar daith o amgylch y cyfleuster, a fydd yn cynnig peiriant cynhyrchu wafferi 8 modfedd i ymdopi â’r galw cynyddol am ddyfeisiau lled-ddargludyddion cyfansawdd. 

Mae’r ystafell lân yn cael ei darparu gan Ardmac – prif ddarparwr ystafelloedd glân llawn technoleg – ac yn rhan allweddol o Gampws Arloesedd newydd Prifysgol Caerdydd sy’n cyfuno ymchwil arloesol, trosglwyddo technoleg, datblygu busnes a mentrau myfyrwyr. 

Mae’r Sefydliad wedi sicrhau cyllid sylweddol ar gyfer ei adeilad a’i gyfarpar newydd, gan gynnwys buddsoddiad o fwy na £30 miliwn yn allanol. Yn ogystal â’r ystafell lan, sy’n 1,500 metr sgwâr, bydd ystafell nodweddu bwrpasol a mannau ôl-brosesu’n galluogi’r Sefydliad i brosesu wafferi hyd at 8 modfedd mewn diamedr ac ehangu ei ystod o wasanaethau sy’n cyrraedd safon y diwydiant. 

Wrth ymateb i’r daith o amgylch y safle, dywedodd Chris Matthews, Rheolwr Prosiect Sefydliad Lled-ddargludyddion Cyfansawdd (Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru): “Dechreuais weithio ar y cynlluniau busnes ddiwedd 2015/dechrau 2016. Felly, mae mynd o weld hyn i gyd ar y bwrdd darlunio i’w gweld yn yr adeilad ei hun yn daith anhygoel mewn gwirionedd. O gymharu hyn â’n cartref presennol yn Adeiladau’r Frenhines, bydd gennym le i ehangu a gwneud pethau mwy a gwell.”  

Bydd y Sefydliad ei hun wedi’i leoli mewn Canolfan Ymchwil Drosiadol bwrpasol wrth ymyl yr ystafell lân. Mae’r Ganolfan Ymchwil Drosiadol yn cynnig swyddfeydd newydd, mannau gweithio rhyngweithiol, labordai a lle ar gyfer gweithio mewn grwpiau bach. Cynlluniwyd iddi ddod ag ymchwilwyr a gweithwyr proffesiynol y diwydiant yn agosach at ei gilydd a chreu amgylchedd gwaith sy’n denu ac yn cadw ymchwilwyr talentog. 

Bydd y Sefydliad yn rhannu’r Campws Arloesedd ar Heol Maendy â Sefydliad Catalysis CaerdyddParc Ymchwil y Gwyddorau Cymdeithasol (sbarc) ac Arloesedd Caerdydd@sbarc, sylfaen greadigol ar gyfer busnesau newydd a chwmnïau deillio.  

Bydd gan y Sefydliad fynediad at gyfleusterau a fydd yn cael eu rhannu â’i gymdogion, gan gynnwys awditoriwm o fath TEDx a labordy cynhyrchu i dreialu technolegau gweithgynhyrchu newydd. 

Mae lled-ddargludyddion cyfansawdd yn sglodion electronig cyflym. A hwythau’n cynnwys elfennau ar bob ochr i’r rhai yng ngrŵp IV o’r tabl cyfnodol (e.e. grwpiau III a V), maent 100 gwaith yn gyflymach na silicon, ac mae ganddynt y gallu i allyrru a synhwyro golau, yr holl ffordd o ran isgoch y sbectrwm, drwy’r rhan weladwy ac i mewn i’r rhan uwchfioled. 

Mae lled-ddargludyddion cyfansawdd eisoes wedi ategu silicon mewn meysydd fel cyfathrebu diwifr, lle mae sglodion a wnaed o gyfuniadau fel galiwm ac arsenig (galiwm arsenid neu GaAs) i’w cael ym mron pob ffôn clyfar, sy’n galluogi cyfathrebu diwifr cyflym iawn ac effeithlon iawn dros rwydweithiau cellog a WiFi.