Skip to main content

Adeiladau'r campws

Ymagwedd lân at ddiheintio dŵr

26 Gorffennaf 2021

Heb os, bydd rhai o heriau mwyaf y ganrif hon yn ymwneud â darpariaeth ddigonol o ddŵr glân. Amcangyfrifir y bydd 5.7 biliwn o bobl yn byw dan fygythiad prinder dŵr erbyn 2050,1  wedi’i sbarduno’n bennaf gan drefoli cynyddol, twf cyflym yn y boblogaeth a newid yn yr hinsawdd, mae’n hanfodol bod seilwaith a gwasanaethau glanweithdra dŵr yn cael eu haddasu i sicrhau cynaliadwyedd a gwytnwch.

Mewn cymunedau sydd â mynediad cyfyngedig neu ddim mynediad at ddiheintio dŵr, mae hyn o’r pwys mwyaf. Bydd dulliau sy’n hyrwyddo economi gylchol dŵr lleol yn cael eu ffafrio, gan leihau costau ariannol ac amgylcheddol.2,3

Mae pryderon iechyd cynyddol yn gysylltiedig â sgil-gynhyrchion clorineiddio a bydd hyn yn debygol o arwain at drawsnewid sylweddol yn y seilwaith dŵr presennol a symud tuag at ddulliau sy’n osgoi ffurfio gweddillion cemegol niweidiol. Yn ddamcaniaethol, byddai Hydrogen Perocsid (H2O2 ) yn ddewis arall deniadol yn lle clorineiddio, ond byddai defnyddio asiantau sefydlogi gwenwynig a ddyluniwyd i ymestyn oes silff yn atal defnyddio Hydrogen Perocsid a gynhyrchir yn fasnachol wrth drin dŵr.

Mae Grŵp Ymchwil Hutchings, sy’n rhan o Sefydliad Catalysis Caerdydd, wedi bod yn canolbwyntio ar synthesis uniongyrchol Hydrogen Perocsid ers 2002.3 Y nod gwreiddiol oedd datblygu deunyddiau newydd a fyddai’n caniatáu ar gyfer cynhyrchu’r ocsidydd hwn sy’n gyfeillgar i’r amgylchedd ac wedi arwain at ddatblygu casgliad mawr o ddeunyddiau catalytig effeithlon iawn ar gyfer synthesis Hydrogen Perocsid 4,5

Wedi’i ysgogi gan effaith trychinebau yn y Caribî a New Orleans yn 2005, aeth Grŵp Ymchwil Hutchings ati i wella eu dealltwriaeth o synthesis Hydrogen Perocsid, gan ddatblygu technolegau a fyddai’n caniatáu ar gyfer trin dŵr llygredig ar y safle gan ddarparu dŵr glân, sy’n ddiogel i’w yfed i’r cenhedloedd tlotaf ledled y byd.

Mae tîm ymchwil amlddisgyblaethol ac amlwladol sy’n cynnwys cemegwyr, microbiolegydd, gwyddonwyr rhyngwyneb a microsgopyddion o Brifysgol Caerdydd a thu hwnt wedi bod yn gweithio gyda chydweithwyr diwydiannol yn Dŵr Cymru. Maent wedi dangos bod y cynhyrchiad o Hydrogen Perocsid, dros gatalyddion paladiwm aur ac yn bwysicach fyth, rhywogaethau ocsigen adweithiol ar yr wyneb yn gyflymach ac yn well am ladd firysau a bacteria. Darparu dull sydyn o lanhau dŵr sydd 10 miliwn gwaith yn well am ladd y bacteria na’r hydrogen perocsid diwydiannol, a mwy na 100 miliwn gwaith yn fwy effeithiol na’r clorin.

Tra bo’r dechnoleg hon yn ei gamau cynnar, mae’r tîm yn gyffrous am ei botensial i chwyldroi diheintio dŵr, gan hyrwyddo llwybr di-gemegol i ddiheintio a chaniatáu ar gyfer trin dŵr mewn rhanbarthau anghysbell sydd heb seilwaith trin dŵr traddodiadol. Maent yn bwriadu symud tuag at brototeip sy’n fasnachol hyfyw yn y dyfodol agos.

Arweiniwyd yr astudiaeth gan Ysgol Cemeg ac Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol Prifysgol Caerdydd, ar y cyd ag ymchwilwyr o Brifysgol Abertawe, Prifysgol Lehigh, Prifysgol Genedlaethol Singapore a Phrifysgol Caerfaddon, yn ogystal ag arbenigwyr yn Dŵr Cymru.

Bydd Sefydliad Catalysis Caerdydd yn symud i Ganolfan Ymchwil Drosiadol pwrpasol ar Gampws Arloesedd Caerdydd yn 2022, sydd â labordai o’r radd flaenaf, uned microsgopeg a swyddfeydd newydd.

Mae mwy o fanylion ar gael yn