Skip to main content

Adeiladau'r campwsPartneriaethauPobl

Cartref Arloesedd ôl-bandemig  

4 Mai 2021

Bydd drysau’r cyfleuster arloesedd mwyaf o’i fath yng Nghymru yn agor yr hydref hwn. Mae Campws Arloesedd Caerdydd (CIC) wedi troi hen iard reilffordd yn Gartref Arloesedd, lle bydd meddylwyr yn cwrdd â chydweithredwyr a chyllidwyr i ddod o hyd i atebion i heriau cymdeithas. Dyma Lywydd ac Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd, yr Athro Colin Riordan, yn esbonio sut gall y campws roi hwb i les cymdeithasol ac economaidd yng Nghymru ar ôl Covid-19.  

‘Bydd sbarc | spark yn parhau i ddatblygu yn heulwen y gwanwyn, ac ymwelais â’r safle ar Heol Maendy yn ddiweddar i weld sut mae pethau’n mynd. Erbyn dechrau mis Mai, bydd y contractwyr Bouygues UK wedi dileu’r fframwaith ategol sydd o amgylch y grisiau Oculus canolog ar hyn o bryd y tu mewn i’n hadeilad arloesedd blaenllaw.  

Bydd golygfa ehangach yn dod i’r amlwg, nid yn unig o’r adeilad ei hun, ond hefyd o sgyrsiau dychmygol a allai gael eu cynnal yn y man ‘cymdeithasol’ a rennir wrth droed y grisiau. Mae hwn wedi’i gynllunio fel man hwylus ar gyfer sgyrsiau anffurfiol ymhlith cydweithredwyr, myfyrwyr a’r 400 o ymchwilwyr gwyddorau cymdeithasol fydd yn rhan o SPARC – y Parc Ymchwil Gwyddorau Cymdeithas 

Gall hwyluso hap-gyfleoedd i ryngweithio sbarduno syniadau gwych. Ac yn sbarc | spark – a’r Ganolfan Ymchwil Drosiadol gyfagos – y bydd syniadau ymchwil yn cael eu cynhyrchu a’u trawsnewid yn brosesau, cynhyrchion a gwasanaethau fydd yn gwasanaethu Cymru a’r byd yn yr 21ain Ganrif, wrth i bobl ddychwelyd i weithio ar y cyd ar ôl Covid-19. 

Bydd sbarc | spark yn denu arloesedd ac yn llawn lleoedd trafod syniadau, labordai a mannau cynnal profion i dreialu syniadau newydd. Mae’n rhan o’r gwaith uwchraddio mwyaf ar y Campws ers cenhedlaeth, ac mae eisoes wedi denu arian sylweddol gan gynghorau ymchwil, llywodraethau, cyrff cyllido a busnesau. Ar waelod y blog hwn, mae rhestr o’r sefydliadau sydd wedi ein cefnogi ar ein taith. 

Bydd y Campws yn cael ei gwblhau ar adeg heriol yng nghyd-destun arloesedd yng Nghymru. Yng Nghyllideb ddiweddar y Canghellor, fe wnaeth Llywodraeth y DU addo buddsoddi £93m yng Nghymru i roi hwb sylweddol i adferiad gwyrdd, gan roi cyllid ar unwaith ar gyfer tair bargen Dinas a Thwf. Er gwaethaf y newyddion cadarnhaol hyn, mae pryder ynghylch sut caiff cyllid Ymchwil ac Arloesedd y DU ei ddyrannu yn tymor hir ac a fydd y DU yn cynnal ei statws fel ‘archbwer yn y gwyddorau’.  

Yn nes at adref, mae Cronfa Arloesedd Ymchwil Cymru (RWIF), trwy Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, yn cefnogi gwaith Caerdydd i gynyddu capasiti ym meysydd Ymgysylltu â Busnesau a Phartneriaethau Strategol, Datblygu Masnachol, Cenhadaeth Ddinesig ac Ymgysylltu â’r Cyhoedd. 

Mae paratoi’r polisïau cywir ar gyfer arloesedd yn hollbwysig. Yn ddiweddar, galwodd yr Athrawon Rick Delbridge a Kevin Morgan am Gorff Arloesedd Cenedlaethol newydd i Gymru, i weithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru, ond gweithredu’n annibynnol ar yr un pryd i ysgogi gweithgareddau fydd yn sicrhau cyfleoedd cyllido ym meysydd Ymchwil a Datblygu, yn enwedig cyllid ar gyfer arloesedd 

Rhaid i fodelau arloesedd a arweinir gan heriau a chenhadaeth fod wrth wraidd y newid hwn. Mewn gwirionedd, gall gwell dealltwriaeth ‘economaidd-gymdeithasol’ o arloesedd gryfhau’r cysylltiadau â gwaith canolfannau ymchwil a arweinir gan y gwyddorau cymdeithasol fel y rhai yn SPARC. Bydd cyflwyno Parthau Cydweithio Arloesedd, gan gynnwys gyrwyr Ymchwil a Datblygu ac arloesedd, o ysgogiadau cyllidebol a threth a chymhellion a dadreoleiddio defnydd tir, hyd at gydleoli arbenigedd a chyfleusterau ymchwil, yn helpu i gyflawni’r cenadaethau masnachol o ymchwil hyd at ddatblygiad ac arloesedd. 

Yr angen am leoedd sy’n denu arloesedd, yn ogystal â newidiadau polisi i ddatgloi ymchwil, oedd hanfod yr achos dros fuddsoddi ar Gampws Arloesedd Caerdydd. Bydd y Campws yn cyflawni ein hymrwymiad yr hydref hwn. 

Bydd fy nghyd-Aelod, yr Athro Karen Holford, y Dirprwy Is-Ganghellor a John Boughton, o Bouygues UK, yn rhoi’r newyddion diweddaraf am sut mae Campws Arloesedd Caerdydd yn dod yn ei flaen mewn digwyddiad ar Zoom ar 13 Mai rhwng 3pm a 4pm. Os hoffech chi ymuno â’r digwyddiad a chael gwybod rhagor, cofrestrwch yma. 

Gellir gweld crynodeb ffotograffig o’r cynnydd ar y safle trwy glicio yma. Wrth iddo agosáu at gael ei gwblhau, mae’n amlwg bod llawer i’w wneud o hyd y tu hwnt i’r amgylchedd adeiledig i baratoi cymdeithas ar gyfer yr heriau sydd o’n blaenau.  

Yr Athro Colin Riordan, Llywydd ac Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd 

Hoffem ddiolch i’r canlynol: 

#UKRI #CCAUC #LlywodraethCymru #welcometrust #ESRC #ERDF #EuropeanSocialFund #CSACatapult #EPSRC #wolfsonfdn #DSV_AS #NestaUK  #FutureGenCymru #PublicHealthWales #SocialCareWales #NIHRResearch #CardiffCapitalRegion #MedicalResearchCouncil 

https://campaigns.cardiff.ac.uk/cartref-arloesedd