Skip to main content

Adeiladau'r campws

Datblygiad proffesiynol wrth wraidd twf clwstwr Lled-Ddargludyddion yn y dyfodol.

8 Ebrill 2021

Wrth i’r DU baratoi ar gyfer dod drwy’r pandemig yn raddol, mae tystiolaeth yn awgrymu y bydd technoleg yn parhau i ffynnu. Disgwylir i’r marchnadoedd byd-eang sy’n dod i’r amlwg ym meysydd cysylltedd 5G, cerbydau trydan, technolegau gofal iechyd, roboteg a Deallusrwydd Artiffisial arwain y galw am led-ddargludyddion hyd at 2025 a thu hwnt. Mae Prifysgol Caerdydd yn gartref i arloesedd mewn Lled-ddargludyddion Cyfansawdd (CS) – y deunyddiau galluogi sydd y tu ôl i dechnolegau’r genhedlaeth nesaf.

Ond mae angen gwella datblygiad proffesiynol cannoedd o staff a recriwtiaid newydd sy’n gweithio ar draws clwstwr CSconnected yn ne Cymru i allu datblygu cynhyrchion a phrosesau CS newydd. Yma, mae Kate Sunderland, sydd newydd ei phenodi’n Rheolwr Prosiect Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) – CSconnected ym Mhrifysgol Caerdydd, yn esbonio pam y bydd datblygiad proffesiynol wrth wraidd twf y clwstwr yn y dyfodol.  

“Ar hyn o bryd mae ecosystem CS yn ne Cymru yn cynnal tua 1500 o swyddi gweithgynhyrchu gwerth uchel. Fodd bynnag, mae CSconnected yn rhagweld y bydd rhwng 3,000 a 5,000 o swyddi newydd yn cael eu creu erbyn 2024. Mae angen creu ffynhonnell o dalent ar frys drwy uwchsgilio ac ailsgilio o sectorau eraill er mwyn cefnogi’r twf a ddisgwylir yn y clwstwr. Mae gweithgareddau datblygu proffesiynol a chyrsiau byr yn ffordd ddelfrydol o gyflwyno’r ymyriadau sgiliau critigol sy’n gyfyngiadau tymor byr i dymor canolig i’r clwstwr.”

Mae Cynllun Cyflogaeth a Sgiliau Rhanbarth Prifddinas Caerdydd (2019-22) yn nodi bod lled-ddargludyddion cyfansawdd yn un o’i chwe maes sector blaenoriaeth. Gyda chefnogaeth grant o Gronfa Cryfder mewn Lleoedd UKRI (SIPF), bydd Uned DPP Prifysgol Caerdydd yn cymryd rhan flaenllaw yn yr agenda sgiliau ar gyfer CSconnected, trwy gydlynu cefnogaeth DPP i’r clwstwr yn ogystal ag ar gyfer sefydliadau uwch-gadwyn ac is-gadwyn.

Byddwn yn gweithio gyda’r deuddeg partner yn y consortiwm, gan gynnwys Prifysgol Abertawe a Cholegau AB lleol i ddatblygu a chyflwyno cwricwlwm DPP ehangach a dyfnach sy’n adeiladu ar y cwrs peilot byr a gyflwynwyd yn flaenorol gan Sefydliad Lled-ddargludyddion Cyfansawdd Prifysgol Caerdydd. Trwy weithgareddau DPP ein nod yw cyrraedd dros 25% o’r gweithlu estynedig erbyn 2025. Y bwriad hefyd yw datblygu’r sylfeini ar gyfer ymyrraeth lawer mwy, a thymor hwy o amgylch yr agenda sgiliau, ymhell y tu hwnt i’r grant 55 mis a ddarperir gan Gronfa Cryfder mewn Lleoedd UKRI.

Byddwn hefyd yn gweithio’n agos gyda CSconnected Ltd fydd yn arwain ar elfennau eraill o’r agenda sgiliau, gan gynnwys rhaglen Prentisiaeth Gradd yn ogystal â gweithgareddau cynhwysiant, allgymorth ac ymgysylltu â’r gymuned ehangach yn y rhanbarth lleol. Byddwn hefyd yn cydweithio â’r Grŵp Addysg CS presennol sy’n cydlynu sgiliau ar gyfer y clwstwr ac yn datblygu llwybr sgiliau ar bob lefel, ar gyfer disgyblion sy’n gadael yr ysgol i raddedigion ôl-ddoethurol. Bydd y grant trwy SIPF yn cyflymu’r gweithgareddau sgiliau sydd wedi’u cynnal hyd yma

Mae’r agenda sgiliau yn rhan o ddyfarniad SIPF llawer mwy o £44m, a arweinir gan Brifysgol Caerdydd, i ddatblygu pwerdy CS yn ne Cymru. Yn ogystal â sgiliau ategol, mae’r buddsoddiad gan SIPF UKRI a chyllid ychwanegol gan bartneriaid yn galluogi rhaglen Ymchwil a Datblygu gydweithredol, cartref â rôl ‘blaen y tŷ’ ar gyfer CSconnected, a buddsoddiad mewn cefnogaeth adeiladu clwstwr CSconnected ar gyfer gweithgareddau marchnata, brandio ac ymgysylltu. Mae’r wobr yn ategu gweithgareddau eraill sy’n cefnogi CSconnected, gan gynnwys gwaith y Ganolfan Lled-ddargludyddion Cyfansawdd, y Ganolfan Deunyddiau Lled-ddargludyddion Integreiddiol, Catapwlt Ceisiadau CS, y rhaglenni MSc a gynigir gan brifysgolion Caerdydd ac Abertawe, rhaglen PhD trwy’r Ganolfan Hyfforddiant 

Doethurol mewn Gweithgynhyrchu CS, ac ymchwil arloesol a gynhaliwyd trwy Ganolfan Gweithgynhyrchu Lled-ddargludyddion Cyfansawdd y 

Dyfodol.

Sefydliad nid-er-elw yw CSconnected, sef canolfan ragoriaeth fyd-eang cyntaf y byd ar gyfer Lled-ddargludyddion Cyfansawdd. Cafodd ei sefydlu yn 2017 ac mae’n gartref i eco-system unigryw o allu uchel o ran technoleg sy’n arwain y ffordd ym maes ymchwil gymhwysol, uwch geisiadau a gwaith arloesi ar y cyd gan roi Cymru a’r DU ar flaen y gad o ran deunyddiau a dyfeisiau newydd y farchnad a’r rhai sy’n dod i’r amlwg.

Rydym yn adeiladu canolfan bwrpasol newydd ar gyfer ymchwil Lled-ddargludyddion Cyfansawdd. Y Ganolfan Ymchwil Drosiadol – mae disgwyl iddo agor yng Ngwanwyn 2022. Bydd yn gartref i’r Sefydliad Lled-ddargludyddion Cyfansawdd, sy’n ceisio sefydlu Caerdydd fel arweinydd Ewrop ym maes lled-ddargludyddion cyfansawdd, gan ddarparu cyfleusterau o’r radd flaenaf sy’n helpu ymchwilwyr a diwydiant i gydweithio.

Mae’n amser hynod gyffrous, ac rydym yn falch iawn o allu darparu sgiliau newydd i helpu’r clwstwr i ffynnu.

Kate Sunderland, Rheolwr Prosiect DPP – CSconnected

Ewch i www.csconnected.com i gael gwybod mwy, a chysylltwch â ni ar LinkedIn a Twitter.

I gael gwybod mwy am DPP yng Nghaerdydd, ewch i Hafan yr Uned