Skip to main content

PartneriaethauPobl

Clwstwr yn ail-ddychmygu Ymchwil a Datblygu ar gyfer y diwydiannau creadigol

29 Mawrth 2021

Mae Clwstwr yn rhaglen uchelgeisiol i greu cynhyrchion, gwasanaethau a phrofiadau newydd i’r sgrîn a newyddion. Mae Clwstwr yn gosod arloesedd wrth galon cynhyrchu cyfryngol yn ne Cymru i symud sector sgrin ffyniannus Caerdydd o gryfder at arweinyddiaeth. Yma, mae’r Athro Justin Lewis, Cyfarwyddwr Clwstwr, yn trafod y cynnydd hyd yn hyn, hanner ffordd drwy’r rhaglen arloesedd sgrin a newyddion

“Rydyn ni nawr ar bwynt canol y rhaglen Clwstwr a ariennir gan UKRI/Llywodraeth Cymru, sy’n ceisio ymgorffori arloesedd yn sector cyfryngau Cymru. Rydym wedi curadu ac ariannu 73 o brosiectau ymchwil a datblygu hyd yma – wedi eu dewis o gannoedd o geisiadau ac wedi eu datblygu mewn mwy na 500 o gyfarfodydd gyda thîm Clwstwr – ac ar hyn o bryd rydym yng nghanol ein Galwad Agored olaf.

Mae’r prosiectau hyn wedi bod yn eang ac uchelgeisiol. Mae aelodau carfan Clwstwr wedi edrych ar ffurfiau a fformatau newydd ar gyfer adrodd straeon ar draws ystod o genres (o newyddion a dogfen i bodlediadau i ffilm ryngweithiol). Maent hefyd wedi edrych ar addasu technolegau digidol i greu cynhyrchion newydd (megis technoleg ymgolli i reoli lleddfu poen, technolegau AI i wella newyddiaduraeth, a lleoliad daearyddol i greu mathau newydd o dwristiaeth yn y cyfryngau) neu i wella prosesau cynhyrchu (o adeiladu set rithwir i rendro peiriant gemau).

Mae Ymchwil a Datblygu yn broses hir, ond mae rhai prosiectau eisoes wedi dwyn ffrwyth. Er enghraifft, roedd tŷ ôl-gynhyrchu mwyaf Cymru, Gorilla, yn datblygu gallu golygu o bell fel eu prosiect Clwstwr pan darodd y COVID-19. Galluogodd yr arloesedd hwn i’w staff barhau i weithio yn ystod y pandemig.

Mae’r cysyniad o Ymchwil a Datblygu yn dal i fod yn newydd i lawer o bobl sy’n gweithio yn y diwydiannau creadigol, a’n rôl ni oedd nodi pwysigrwydd Ymchwil a Datblygu wrth hybu arloesedd creadigol. Mae hyn, i raddau helaeth, oherwydd bod y rhan fwyaf o’r 1300 o gwmnïau cyfryngau yng nghlwstwr cyfryngau de Cymru yn fach, gydag awydd cryf ond ychydig o allu i arloesi.

I lawer yn y diwydiannau creadigol, roedd Ymchwil a Datblygu bron fel gwlad ac iaith estron yn llawn dynion mewn cotiau gwyn, cyn i’r Clwstwr gael ei sefydlu. Un o’n prif heriau oedd adeiladu diwylliant o arloesedd dan arweiniad Ymchwil a Datblygu.

Y cam cyntaf oedd creu newid diwylliannol, gan greu diwylliant o arloesedd. Roedd hyn yn golygu ymdrech helaeth i ail-drefnu Ymchwil a Datblygu: beth ydoedd, sut roedd yn gweithio a’r geiriau a ddefnyddiwyd i’w ddisgrifio. Yn ystod chwe mis cyntaf Clwstwr, a’n Galwad Agored cyntaf, cynhyrchodd yr ymdrech hon 140 o geisiadau cyllido cam cynnar.

Yr ail gam oedd creu system Ymchwil a Datblygu sy’n gweithio i gwmnïau creadigol bach. Mae ein carfannau a ariennir i gyd yn cael cefnogaeth cofleidiol: sesiynau wedi’u curadu yn seiliedig ar Ddylunio sy’n Canolbwyntio ar y Defnyddiwr, Cynhyrchydd Ymchwil a Datblygu a Chyd-Ymchwilydd academaidd a neilltuwyd i bob prosiect, a chyfres o ddigwyddiadau, hyfforddiant a gweithdai.

I lawer o gwmnïau llai, mae hyn yn golygu dilyniant strwythuredig gyda nifer o fannau cyswllt Clwstwr. Mae Ffigur 1 yn dangos y camau y bydd busnesau bach a chanolig llwyddiannus yn mynd drwyddynt os byddant yn symud ymlaen o syniad yn y cyfnod cynnar i gyllido prosiect Ymchwil a Datblygu llawn.

Ffigur 1: Taith Defnyddiwr Llwyddiannus

Gyda llu o brosiectau wedi’u cwblhau, rydym yn troi ein sylw at y cwestiwn eang sy’n sail i’r Rhaglen Clystyrau’r Diwydiannau Creadigol (ochr yn ochr â’r wyth clwstwr arall a ariennir gan UKRI ledled y DU): sut olwg sydd ar raglen Ymchwil a Datblygu llwyddiannus yn y diwydiannau creadigol, a pha effaith y mae’n ei chael ar dwf economaidd cynaliadwy?

Bydd mynd i’r afael â hyn yn golygu ymdrin ag ystadegau ac adrodd straeon. Byddwn yn dilyn ein cwmnïau a ddechreuodd yn y cam Ymchwil a Datblygu, a chofnodi eu cynnydd wrth iddynt ddod â chynhyrchion, gwasanaethau a phrofiadau newydd i’r farchnad.

Mae ein profiad hyd yn hyn yn awgrymu bod buddsoddiad strategol mewn Ymchwil, Datblygu ac Arloesedd yn hanfodol os yw clwstwr creadigol rhanbarthol fel ein un ni – sy’n cynnwys busnesau bach a chanolig annibynnol a gweithwyr llawrydd – i gystadlu mewn byd lle mae cwmnïau byd-eang yn rheoli. ”

* Bydd ceisiadau am rownd cyllid olaf Clwstwr – Galwad Agored 2021 – yn agor ar 15 Ebrill ac yn cau ar 21 Mai. Gallwch gael rhagor o wybodaeth ar eu gwefan.

Athro Justin Lewis, Cyfarwyddwr Clwstwr