Skip to main content

Adeiladau'r campws

Trawsnewid gwasanaethau gofal llygaid yng Nghymru

2 Mawrth 2021

Mae partneriaeth arloesol i ddod ag apwyntiadau gofal llygaid critigol yn agosach at gartrefi cleifion wedi helpu i drawsnewid y gwasanaethau yng NghymruYm mis Rhagfyr 2019, roedd bron i 115,000 o gleifion sydd mewn perygl o golli golwg anadferadwy yn aros am apwyntiad llygad mewn ysbyty yng NghymruDyma optometrydd o Brifysgol Caerdydd, Sharon Beatty yn esbonio sut mae optometryddion y Stryd Fawrclinigwyr a Llywodraeth Cymru yn cydweithio i leihau’r baich ar ysbytai. 

“Mae poblogaeth sy’n heneiddio yn ogystal â’r risgiau sy’n gysylltiedig â chlefydau fel diabetes yn rysáit ar gyfer pwysau cynyddol ar wasanaethau gofal llygaidYn ôl yn 2019, roedd rhestrau aros am apwyntiadau llygaid yn cynyddu – gyda thua 38% o’r rhai ar y rhestr eisoes y tu hwnt i’w dyddiad targed ar gyfer apwyntiad. 

Nid oedd modd ehangu capasiti’r ysbytai, felly roedd yn rhaid i ni ddod o hyd i ffyrdd newydd o weithioTrwy Gyflymydd Arloesedd Clinigol Prifysgol Caerdyddbuom yn cydweithio ag Acceleratesy’n helpu arloeswyr yng Nghymru i roi syniadau ar waith ym maes iechyd a gofal. 

Llwyddodd y rhaglen i ddarparu strwythur clirpartneriaid ac amserlen a allai ein helpu i newid pethau – yn grynofe wnaethant ein rhoi mewn cysylltiad â’r bobl iawn a allai gefnogi prosiect i sefydlu model clinigol chwyldroadol. 

Arweinir Accelerate gan Ganolfan Gwyddorau Bywyd Cymru ar y cyd â Phrifysgol Caerdydd (Cyflymydd Arloesedd Caerdydd), Prifysgol Abertawe a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant. 

Yn hytrach na darparu cyllid neu grantiaumae’r rhaglen yn cynnig cyfle i fanteisio ar arbenigedd academaidddealltwriaeth drylwyr o ecosystem y gwyddorau bywyda’r cyfleusterau diweddaraf sydd eu hangen ar arloeswyr ac entrepreneuriaid i wireddu eu syniadau, a dyna’n union roedd ei angen arnom ni. 

Gyda diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cymru, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro wedi datblygu fframwaith gwasanaeth lle mae optometryddion cofrestredig y Stryd Fawr yn cymryd rheolaeth ganiataol dros gleifion golwg risg uchel dynodedig. Mae defnyddio technoleg ddelweddu o’r radd flaenafmeddalwedd bwrpasol a chofnodion cleifion electronig yn caniatáu i gleifion gael profion yn eu practis optometreg lleol. Mae delweddau a chanlyniadau yn cael eu huwchlwytho er mwyn eu hadolygu gan ymgynghorydd 

Mae’r gweithredoedd wedi cael eu mapio a’u monitro gan fy nghydweithiwr Angharad Hobby, optometrydd a chydymaith ymchwil, a fu’n asesu sut i leddfu pwysau ar wasanaethau offthalmoleg trwy ofal cymunedolFel rhan o’r prosiectcynhaliodd Ms Hobby ymchwil ar brofiadau cleifion ac ymarferwyr i lywio penderfyniadau’r dyfodol ynghylch darparu gofal llygaid yng Nghymru. 

Yn ei gyfanrwyddmae Trawsffurfio Gwasanaethau Gofal Llygaid Cymru yn cefnogi cyfres o wasanaethau peilot newydd i reoli hyd at 9,000 o gleifion dynodedig ar draws pum maes gofalGlawcoma (atgyfeiriadau newydd a dilynol); Dirywiad Macwlaidd Gwlyb yn gysylltiedig ag OedRetinopathi Diabetig a Damweiniau Llygaid Brys. 

Mae’r cynllun yn sicrhau cymaint o fanteisionlleihau amseroedd arosmabwysiadu technolegau newyddcynyddu capasiti gofal eilaidd i asesu a rheoli cleifion gofal llygaidsgiliau newydd a hyfforddiant cymhwysedd ar gyfer optometryddion annibynnolcysylltiadau agosach â gofal eilaidd a allai arwain at ddarpariaeth gwasanaethau ychwanegol gan fentrau optometregYn ogystalmae wedi cysylltu arbenigedd Prifysgol Caerdydd yn fwy â gofal llygaid yn y gymuned a bydd yn arwain at gyhoeddiadau a adolygir gan gymheiriaid a cipolwg newydd ar economeg iechyd mewn gofal offthalmig 

Cyfrannodd y Cyflymydd Arloesedd Clinigol at brosiect TECSW trwy helpu i nodi a chefnogi nifer o themâu allweddolMae’r rhain yn cynnwys cwmpas a gallu cynyddol optegwyr y stryd fawrhyrwyddo ehangu’r diwydiant a chyfleoedd cyflogaetharloesi trwy system newydd wedi’i hintegreiddio’n ddigidoldefnyddio adnoddau lleollleihau amseroedd aros ac ymweliadau ag ysbytai a theithioyn ogystal â hyrwyddo setiau sgiliau cynyddol ar draws y proffesiwn optometreggan ddefnyddio’r offer a’r TG diweddaraf 

Yng ngeiriau Sali Davis, Prif Weithredwr Optometreg Cymru, mae’r prosiect cyfan wedi “tynnu sylw at y gwahaniaeth mae cleifion yn gweld pan fydd gofal yn cael ei ddarparu’n agosach at adrefyn y gymuned a sut y gellir defnyddio sgiliau optometryddion gofal sylfaenol orau i geisio rhoi profiad gofal iechyd da i’r claf.”  

Yn y dyfodolcredwn y gallai’r dechnoleg arwain at arallgyfeirio parthau iechyd a gofal cymdeithasol eraill gan ddefnyddio cofnodion e-gleifion i ysgogi cydweithredu yn y dyfodol rhwng partneriaid masnacholacademaiddtrydydd sector a chlinigol gyda’r potensial i gyflwyno ein model ar draws GIG Cymru.” 

Sharon Beatty, Ysgol Optometreg a Gwyddorau’r GolwgPrifysgol Caerdydd