Skip to main content

PartneriaethauPobl

Modest Trends yn cael effaith fyd-eang

22 Chwefror 2021

Mae busnes Rifhat Qureshi (BSc 1999, Strategaeth Fusnes ac Entrepreneuriaeth 2020-) Modest Trends yn cynnig dillad amrywiol a chynaliadwy i fenywod sy’n gwisgo mewn ffordd sy’n cyd-fynd â’u meddylfryd ysbrydol yn ogystal â’u harddull. Yma, mae’n sôn am ei chenhadaeth i alluogi eraill i fod yn ddinasyddion mentrus, a gwneud yn siŵr bod arferion moesegol a chynaliadwy yn cael eu mabwysiadu.

Mae’r term ‘ffasiwn gymedrol’ neu ‘modest fashion’ yn cyfeirio at fudiad sy’n dewis dillad sy’n gorchuddio. Mae hyn yn gysylltiedig â menywod Mwslimaidd lle mae gorchuddio rhai rhannau o’r corff yn un o hanfodion craidd eu credoau. Mae’r term, a’r dillad mae’n ei ddisgrifio, erbyn hyn yn rhan o farchnad sy’n prysur ehangu ac sydd wedi’i hysgogi gan yr angen cynyddol am gynrychiolaeth o fenywod Mwslimaidd. Mae tystiolaeth hefyd yn awgrymu bod mudiad #MeToo wedi chwarae rhan hollbwysig yn y newid hwn mewn pwyslais wrth i fenywod wisgo drostynt eu hunain ac nid er mwyn bodloni disgwyliadau cymdeithasol yn unig.

Fe wnes i sefydlu Modest Trends yn 2019 ar ôl gweld cynifer o frandiau yn rhuthro i’r farchnad gyda dillad rhad, wedi’i gynhyrchu ar raddfa eang gan weithwyr ar gyflogau pitw, ac sy’n mynd i safleoedd tirlenwi’n fuan iawn. Mae’r ffordd y mae’r farchnad wedi ehangu heb gael ei rheoleiddio wedi golygu nad yw pryderon amgylcheddol a moesegol yn cael eu hystyried gan mai ‘ffasiwn gyflym’ yw rhan helaeth o’r ‘ffasiwn gymedrol’ sydd ar gael.

Mae’r achos busnes dros ffasiwn gymedrol yn glir. Yn ôl pob sôn, mae menywod Mwslimaidd yn gwario dwywaith a hanner yn fwy ar ffasiwn a cholur na menywod nad ydynt yn Fwslimaidd, ond dydw i erioed wedi rhoi’r prif bwyslais ar elw. Gan ddefnyddio grwpiau ffocws, rwy’n ceisio helpu i addysgu’r farchnad ar ddiffygion ffasiwn gyflym, gan fynd i’r afael â phryderon moesegol ynghylch cynhyrchu trwy ddatblygu cynlluniau ar gyfer cadwyn gyflenwi dryloyw.

Fy nod yw defnyddio arloesedd i integreiddio labeli yn rhan o fy ‘nghasgliad capsiwl’ y gellir eu sganio i ddatgelu ffynhonnell dilledyn. Ar hyn o bryd, mae llawer o fy stoc yn dod o wneuthurwyr moesegol o’r Emiraethau Arabaidd Unedig, Twrci a Phacistan ond rwy’n gweithio’n gynyddol gyda chyflenwyr a dylunwyr yn agosach at adref i leihau ôl troed carbon y busnes.

Rwyf yn edrych ar ffyrdd y gall dyluniad leihau gwastraff ffasiwn hefyd. Trwy ddiffiniad, mae ffasiwn gymedrol yn defnyddio mwy o ffabrig na thueddiadau eraill. Os gallaf leihau faint mae angen i fenywod ei brynu trwy ddylunio effeithlon, bydd llai yn mynd i safle tirlenwi yn y pen draw.

Yn ogystal â’m pwyslais ar arferion moesegol ac amgylcheddol, mae galluogi eraill i ddod yn ddinasyddion mentrus yn egwyddor sylfaenol sy’n fy arwain i a fy musnes.

Mae ‘Bras for Everyone’ yn fenter gymdeithasol sy’n ceisio bodloni anghenion menywod mewn rhannau anghysbell o’r byd. Mae dillad isaf yn foethusrwydd nad yw ar gael mewn rhannau helaeth o Bacistan a Bangladesh. Rydym yn helpu trwy fanteisio ar rwydweithiau o gyflenwyr i helpu menywod yn y rhanbarthau hyn i sefydlu busnesau bach sy’n gwerthu dillad isaf. Menywod fydd yn rhedeg y busnesau hyn, a byddant yn cynnig lle i fenywod wisgo bras a siopa gydag urddas. Byddant hefyd yn rhoi swyddi i’r menywod sy’n eu rhedeg yn ogystal â model busnes cynaliadwy.

Mae pandemig Covid wedi cael effaith sylweddol ar farchnad fanwerthu’r DU a bu’n rhaid i ni gau ein siop gyntaf a symud ar-lein. Fodd bynnag, pan oeddwn yn Swyddog Menter ym Mhrifysgol Caerdydd, cefais wybod am  Raglen Cyflymydd Aspect i Fyfyrwyr (ASAP). Mae bod yn rhan o grŵp o gyd-sylfaenwyr wedi rhoi hwb i fy hyder ar adeg pan oeddwn yn teimlo fel rhoi’r ffidil yn y to.

Ochr yn ochr â fy nosbarthiadau meistr, sgyrsiau anffurfiol a mentoriaeth, dechreuais sylweddoli bod fy nyhead i greu brand ffasiwn moesegol gymedrol fydd yn arwain y byd yn bendant yn bosibl.

Ar hyn o bryd rwy’n paratoi ar gyfer fy rownd ariannu gyntaf. Fy nod yw ei defnyddio i ddatblygu tîm a symud ymlaen gyda’r ‘casgliad capsiwl’. Rwyf hefyd yn gweithio gyda dylunwyr ‘pecynnau technoleg’ yn y DU, torwyr patrymau a gweithgynhyrchwyr, cyn chwilio am adnoddau dramor. ”

Rwyf am i Modest Trends arwain y diwydiant gan ddylanwadu ar eraill sy’n ymuno â’r farchnad i wneud hynny mewn modd cydwybodol.”

Rifhat Qureshi, Sylfaenydd a Phrif Swyddog Gweithredol, Modest Trends