Skip to main content

PartneriaethauPobl

Ysgogi Arloesedd

25 Ionawr 2021

Wythfed gynhadledd flynyddol prif symposiwm Sefydliad Catalysis Caerdydd ar-lein yn parhau i ddenu siaradwyr gorau y byd academaidd a diwydiannolCyfarwyddwr y Sefydliadyr Athro Duncan Wassyn amlinellu llwyddiant y digwyddiad diweddar. 

“Mae wedi bod yn uchafbwynt calendr Sefydliad Catalysis Caerdydd ers amser maith. Mae Cynhadledd Flynyddol CCI yn denu arbenigwyr o bob cwr o’r bydRydyn ni’n cwrdd fel arfer am ddeuddydd, ac yn mwynhau darlithoeddcinio a chyflwyniadau gan ymchwilwyr ym Mhrif Adeilad y Brifysgolynghyd â chinio penodol i ddiolch i’n cydweithwyr am eu cefnogaeth barhaus. 

“Er gwaethaf heriau’r pandemigparhaodd ein digwyddiad yn 2021 i gyfuno arbenigedd academaidd a chymwysiadau diwydiannol. Fe wnaeth tua 120 o westeion fewngofnodi i’n sesiynau ar-lein dros ddau hanner diwrnod 

Ymhlith ein siaradwyr o fri roedd yr Athro Ben Davies FRS, Prifysgol RhydychenAmlinellodd ffocws ei grŵp ymchwil ar ddealltwriaeth gemegol a datblygu swyddogaeth biomoleciwlaiddgyda phwyslais ar garbohydradau a phroteinau. 

Ac roedd yn hyfryd croesawu’r Athro Nora de Leeuw yn ôl i Gaerdydd, er yn rhithiolYn arbenigwr mewn cemeg gyfrifiadurolbu Nora yn Rhag Is-Ganghellor Rhyngwladol ac Ewrop yng Nghaerdyddcyn ymuno â Phrifysgol Leeds fel Deon Gweithredol cyntaf y Gyfadran Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg. 

Rhannodd yr Athro Regius John BowerPrifysgol Lerpwlfewnwelediadau ei grŵp ymchwil i gatalysis synthesis organigtra rhoddodd Dr Alfred Hass gipolwg hynod ddiddorol i ni ar waith HTE – cwmni o’r Almaen sy’n arbenigo mewn arbrofi trwybwn uchel 

Gellir crynhoi’r neges gyffredinoldrawiadol, a mwyaf pleserus o ddigwyddiad eleni mewn un gair: cynnyddYn ystod y cyfnod anodd ymamae gwyddonwyr catalytig yn parhau i wneud cynnydd ac yn awyddus i rannu eu canlyniadauRwy’n credu bod hyn yn dangos gwytnwch ymchwilwyr yn y CCI ac yn ehangachhyd yn oed o dan yr amgylchiadau mwyaf heriol. 

Rydyn ni wrth ein bodd bod cymaint o arbenigwyr wedi dewis ymuno â ni ar-lein elenimae’n dystiolaeth glir nid yn unig o’n statws fel canolfan ryngwladol flaenllaw ar gyfer gwyddoniaeth catalydduond hefyd o ysbryd y diwydiannau a’r sefydliadau academaidd rydyn ni’n gweithio gyda nhw . 

Rydym yn edrych ymlaen at gwrdd wyneb yn wynebysgwyd llaw a rhannu pryd o fwyd yn 2022. Wrth i ni symud i mewn i Hwb Ymchwil Drosiadol pwrpasol ar Gampws Arloesedd Caerdyddynghyd â labordai o’r radd flaenafuned microsgopeg a chyfres o swyddfeydd newyddgobeithiwn y bydd yn flwyddyn nodedig i’r Sefydliad.   

O’r Cartref Arloesedd hwnbydd CCI yn chwarae rhan allweddol yn ein hadferiad trwy ddatblygu technolegau newydd sydd eu hangen i gyflawni nodau sero net carbon y DU. 

Yr Athro Duncan Wass, CyfarwyddwrSefydliad Catalysis Caerdydd.