Skip to main content

25 January 2021

Ysgogi Arloesedd

Ysgogi Arloesedd

Posted on 25 January 2021 by Peter Rawlinson

Wythfed gynhadledd flynyddol prif symposiwm Sefydliad Catalysis Caerdydd ar-lein yn parhau i ddenu siaradwyr gorau y byd academaidd a diwydiannol. Cyfarwyddwr y Sefydliad, yr Athro Duncan Wass, yn amlinellu llwyddiant y digwyddiad diweddar.  “Mae wedi bod yn uchafbwynt calendr Sefydliad Catalysis Caerdydd ers amser maith. Mae Cynhadledd Flynyddol CCI yn denu arbenigwyr o bob cwr o'r byd. Rydyn ni'n cwrdd fel arfer am ddeuddydd, ac yn mwynhau darlithoedd, cinio a chyflwyniadau gan ymchwilwyr ym Mhrif Adeilad y Brifysgol, ynghyd â chinio penodol i ddiolch i'n cydweithwyr am eu cefnogaeth barhaus.  “Er gwaethaf heriau’r pandemig, parhaodd ein digwyddiad yn 2021 i gyfuno arbenigedd academaidd a chymwysiadau diwydiannol. Fe wnaeth tua 120 o westeion fewngofnodi i'n sesiynau ar-lein dros ddau hanner diwrnod.   Ymhlith ein siaradwyr o fri roedd yr Athro Ben Davies FRS, Prifysgol Rhydychen. Amlinellodd ffocws ei grŵp ymchwil ar ddealltwriaeth gemegol a datblygu swyddogaeth biomoleciwlaidd, gyda phwyslais ar garbohydradau a phroteinau.  Ac roedd yn hyfryd croesawu’r Athro Nora de Leeuw yn ôl i Gaerdydd, er yn rhithiol. Yn arbenigwr mewn cemeg gyfrifiadurol, bu Nora yn Rhag Is-Ganghellor Rhyngwladol ac Ewrop yng Nghaerdydd, cyn ymuno â Phrifysgol Leeds fel Deon Gweithredol cyntaf y Gyfadran Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg.  Rhannodd yr Athro Regius John Bower, Prifysgol Lerpwl, fewnwelediadau ei grŵp ymchwil i gatalysis synthesis organig, tra rhoddodd Dr Alfred Hass gipolwg hynod ddiddorol i ni ar waith HTE - cwmni o'r Almaen sy'n arbenigo mewn arbrofi trwybwn uchel.   Gellir crynhoi'r neges gyffredinol, drawiadol, a mwyaf pleserus o ddigwyddiad eleni mewn un gair: cynnydd. Yn ystod y cyfnod anodd yma, mae gwyddonwyr catalytig yn parhau i wneud cynnydd ac yn awyddus i rannu eu canlyniadau. Rwy'n credu bod hyn yn dangos gwytnwch ymchwilwyr yn y CCI ac yn ehangach, hyd yn oed o dan yr amgylchiadau mwyaf heriol.  Rydyn ni wrth ein bodd bod cymaint o arbenigwyr wedi dewis ymuno â ni ar-lein eleni: mae'n dystiolaeth glir nid yn unig o'n statws fel canolfan ryngwladol flaenllaw ar gyfer gwyddoniaeth catalyddu, ond hefyd o ysbryd y diwydiannau a'r sefydliadau academaidd rydyn ni'n gweithio gyda nhw .  Rydym yn edrych ymlaen at gwrdd wyneb yn wyneb, ysgwyd llaw a rhannu pryd o fwyd yn 2022. Wrth i ni symud i mewn i Hwb Ymchwil Drosiadol pwrpasol ar Gampws Arloesedd Caerdydd, ynghyd â labordai o'r radd flaenaf, uned microsgopeg a chyfres o swyddfeydd newydd, gobeithiwn y bydd yn flwyddyn nodedig i'r Sefydliad.    O'r Cartref Arloesedd hwn, bydd CCI yn chwarae rhan allweddol yn ein hadferiad trwy ddatblygu technolegau newydd sydd eu hangen i gyflawni nodau sero net […]