Skip to main content

PartneriaethauPobl

Y dyfodol ar gyfer bwyd cynaliadwy

6 Ionawr 2021

Mae arbenigwyr o Sefydliad Ymchwil Mannau Cynaliadwy (PLACE), Prifysgol Caerdydd yn dweud bod systemau bwyd cynaliadwy a chyfiawn yn bwysicach nag erioed yn ystod pandemig COVID-19. Ymunodd academyddion o’r Sefydliad â Digwyddiad Blynyddol ASPECT 2020 i nodi eu gweledigaeth ar gyfer y dyfodol. Gyda chefnogaeth Cronfa Gallu Cyswllt Research England, mae Aspect yn brosiect gwerth £5 Miliwn sy’n cael ei gynnal yn y DU i ddarparu cefnogaeth arbenigol i sefydliadau sy’n ceisio manteisio i’r eithaf ar gyfleoedd masnachol a busnes o gymdeithasol o ymchwil y gwyddorau cymdeithasol. Yma mae’r Cymrodyr Ymchwil Hannah Pitt, Angelina Sanderson Bellamy, a’r Cydymaith Ymchwil Poppy Nicol yn amlinellu’r materion sydd yn y fantol.

“Roeddem yn falch iawn o drafod dyfodol systemau bwyd cyfiawn yn Nigwyddiad Blynyddol ASPECT. Mae’n bwnc sy’n fwy perthnasol nag erioed o’r blaen.

Mae Covid-19 yn tynnu sylw at wendidau niferus y system fwyd. Mae ffactorau hirdymor wedi rhoi straen ar systemau bwyd ac wedi gwanhau gwydnwch y systemau, ac o ganlyniad, eu gwneud yn agored i niwed gan ysgytiadau tymor byr fel pandemigau.

Mae’r pandemig wedi tynnu sylw at nifer o wendidau, gan gynnwys goruchafiaeth cronfa fach o fanwerthwyr a chynhyrchwyr, dibyniaeth ar gadwyni cyflenwi mewn pryd a dibyniaeth ar fwyd a llafur sy’n cael ei fewnforio.

Yn ogystal ag ysgytiadau tymor byr fel Covid-19, mae’r cynnydd yn y gefnogaeth i Black Lives Matter yn ystod y pandemig yn tynnu sylw at yr angen i fynd i’r afael ag anghyfiawnderau gan gynnwys hiliaeth wrth fynd i’r afael ag anghymesureddau pŵer o fewn y systemau bwyd cyfredol.

Ond mewn cyfnod o argyfwng, gallai’r brys ddiystyru pryderon eraill, sy’n golygu bod gwneud penderfyniadau yn sefydlu anghyfiawnder ac yn methu â chynnwys lleisiau sydd ar yr ymylon.

Er mai effeithiau dros dro bydd dylanwad COVID-19 gobeithio, bydd argyfyngau eraill fel digwyddiadau hinsoddol eithafol yn debygol o gynyddu mewn difrifoldeb ac amlder, gan achosi effeithiau cymdeithasol tebyg.

Felly mae’n hanfodol deall sut mae’r argyfwng byd-eang presennol yn effeithio ar systemau bwyd a dysgu o’r ymatebion – cadarnhaol a negyddol – fel y gall ymatebion i argyfyngau yn y dyfodol hyrwyddo canlyniadau cynaliadwy, cyfiawn.”

Mae PLACE yn ceisio datblygu cynllun gweithredu i hyrwyddo rôl ymchwil fel cyswllt rhwng ymarfer a pholisi. Mae hyn yn ategu nod ASPECT o unioni’r cydbwysedd masnacheiddio ymchwil o blaid y gwyddorau cymdeithasol trwy gysylltu prifysgolion, busnesau, academyddion ac arweinwyr diwydiant i droi syniadau yn atebion masnachol a datrys heriau cymdeithasol dybryd.

Mae’r Sefydliad Ymchwil Mannau Cynaliadwy (PLACE) yn un o 12’r grwpiau ymchwil gwyddorau cymdeithasol sy’n rhan o Barc Ymchwil Gwyddorau Cymdeithasol Prifysgol Caerdydd (SPARK). Bydd SPARK yn symud i gartref newydd ar Gampws Arloesi Caerdydd yn 2022. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â SPARK@cf.ac.uk neu i wylio’r gweminar yn ei chyfanrwydd ewch i dudalen Digwyddiad Blynyddol ASPECT 2020 .