Skip to main content

PartneriaethauPobl

Hyrwyddo Arloesedd Myfyrwyr

25 Tachwedd 2020

Ydych chi’n fyfyriwr ac oes syniad mawr gyda chi? Mae tîm Menter a Dechrau Busnes Prifysgol Caerdydd yn arwain dau brosiect i hyrwyddo arloesedd myfyrwyr a phrosiectau entrepreneuriaeth ar draws Cymru. Dyma Rhys Pearce-Palmer, Rheolwr Menter Prifysgol Caerdydd yn esbonio mwy….

Mae’n gyfnod anodd, ond nid yw’n ymddangos bod ansicrwydd yn lleihau diddordeb pobl mewn arloesedd a menter. I’r gwrthwyneb. Yn ystod y misoedd diwethaf, fel yr esboniodd fy nghydweithiwr, Claire, mewn neges arall, mae ein cynllun mentora yn denu niferoedd uwch nag erioed o’r blaen.

Mae cyfleoedd ar gael. Eleni, mae staff tîm Menter a Dechrau Busnes Prifysgol Caerdydd yn arwain dau brosiect o bwys mewn arloesedd myfyrwyr ac entrepreneuriaeth ar draws Cymru gyfan yn 2020-21.

Mae Cystadleuaeth SYNIAD yn herio myfyrwyr i ddatblygu a chyflwyno syniadau ar sut i liniaru’r newid yn yr hinsawdd. Mae’r gystadleuaeth yn rhan o’r ymdrech i annog myfyrwyr i ddatblygu meddylfryd entrepreneuraidd ar gyfer byd sy’n newid.

Bellach yn ei hail flwyddyn, mae SYNIAD wedi ehangu i gydweithio gyda phedair Prifysgol ledled Cymru – Prifysgol Abertawe, Prifysgol Bangor, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant a Phrifysgol De Cymru. Gyda’i gilydd, bydd bron i 100,000 o fyfyrwyr yn gallu cyflwyno eu hatebion arloesol.

Mae’r gystadleuaeth yn cael ei harwain gan adran Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd Prifysgol Caerdydd, mewn cydweithrediad â Syniadau Mawr Cymrugan Lywodraeth Cymru a’r Ganolfan Newid Hinsawdd a Thrawsffurfio Cymdeithasol.

Mae’n brosiect gwych. Mae prifysgolion yn ganolfannau ymchwil, arloesedd ac addysg o’r safon uchaf. Mae SYNIAD yn enghraifft o hyn, gan ddwyn rhagoriaeth ynghyd i greu rhywbeth newydd a chyffrous gyda’r potensial i fod yr un mor ysbrydoledig ac aflonyddgar.

Y tu hwnt i SYNIAD, rydym yn arwain lansiad marchnad myfyrwyr fawr ar-lein i Gymru gyfan. Bydd y platfform ar-lein, sydd mewn partneriaeth â 23 o sefydliadau Addysg Bellach ac Addysg Uwch, yn arddangos myfyrwyr sy’n fasnachwyr sy’n methu â masnachu ar y campws yn ôl eu harfer. Mae’n bosibl mai hon yw’r farchnad myfyrwyr ar-lein genedlaethol gyntaf erioed.

Yn wahanol i ddigwyddiad masnachu traddodiadol sy’n cynnwys gwerthwyr sy’n gwerthu nwyddau diriaethol, mae Marchnad Myfyrwyr Cymru (www.walesstudentmarket.co.uk) yn caniatáu i fyfyrwyr rannu gwasanaethau.

Fel y dywedodd fy nghydweithiwr Rifhat Qureshi, Swyddog Menter Prifysgol Caerdydd: “Wrth lansio busnes neu unrhyw brosiect newydd, mae’n rhaid profi eich syniad busnes gyda darpar gwsmeriaid. Mae Marchnad Myfyrwyr Cymru yn rhoi cyfle i fyfyrwyr a graddedigion o bob cwr o Gymru brofi eu syniad. Y dull effeithiol hwn o brofi cyn gwario arian, amser ac ymdrech yw’r ffordd ymlaen ar gyfer unrhyw fusnes newydd yn y dirwedd ansefydlog bresennol.”

Hanfod menter yw meddwl yn greadigol, manteisio ar gyfleoedd a gwneud i bethau ddigwydd. Rydym yn cynnig y gefnogaeth iawn i fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd allu datblygu sgiliau, rhwydweithiau a hyder.

Anfonwch neges atom, cysylltwch â ni. Pan fydd y byd yn taro’n nôl, gallwn newid pethau.”

Rhys Pearce-Palmer, Rheolwr Menter Prifysgol Caerdydd

Cysylltwch â enterprise@caerdydd.ac.uk