Skip to main content

PartneriaethauPobl

Ffyniant mewn busnesau newydd gan fyfyrwyr yn ystod pandemig Covid-19?

11 Tachwedd 2020

Rydym yn byw mewn cyfnod digynsail ac ansicr. Er gwaethaf y problemau economaidd, mae’r galw am fentor busnes un i un gan dîm Mentro a Dechrau Busnesau Prifysgol Caerdydd wedi cynyddu’n aruthrol ers mis Mawrth 2020, ac wedi arwain at drefnu 73% yn rhagor o gyfarfodydd mentora un i un. Pam? Dyma Claire Parry-Witchell, ein Mentor Busnes a Menter Myfyrwyr, yn rhannu ei barn ar yr hanes y tu ôl i ystadegau’r busnesau newydd. 

“Gallaf ond dybio dros yr haf, gyda digonedd o amser ar gael, a gyda chymaint o ansicrwydd o ran y farchnad swyddi yn gyffredinol bod cwestiynau fel “beth allaf wneud gyda fy nyfodol” wedi codi ym meddyliau llawer o bobl. Efallai mai’r casgliad oedd meddwl am ddechrau busnes. 

Fel tîm, addasu ac ymateb i’r sefyllfa bresennol oherwydd COVID19 oedd y flaenoriaeth er mwyn sicrhau ein bod yn gallu parhau i gefnogi ein myfyrwyr a’n graddedigion. Mae’r holl wasanaeth gyrfaoedd bellach ar-lein ac mae cyfleoedd i gael swyddi a lleoliadau gwaith yn rhithwir ar hyn o bryd, sy’n anhygoel.  

Yma yn Enterprise gwnaethom ddatblygu adnoddau ar-lein ar ffurf gweithdai a recordiwyd ymlaen llaw ar Daith eich Gyrfa, ac rydym yn parhau i gyflwyno ein hamserlen o weithdai’n fyw ar-lein. Hefyd, gwnaethom lansio’r cynllun rhithwir newydd, YMLAEN, sydd bellach yn ei ail garfan.   

Mae’n wir bod entrepreneuriaid yn wynebu cyfnodau heriol a do, rwyf wedi cael cyfarfodydd mentora anodd gyda rhai myfyrwyr pryderus, ond ar y cyfan rwyf wedi gweld bod y mwyafrif wedi dod i hyd i ffordd o newid eu syniadau a’u haddasu er mwyn diwallu anghenion eu cwsmeriaid. 

Mae busnesau newydd ein myfyrwyr wedi dangos gwydnwch a chreadigrwydd hyfryd, fel Mohamed Binesmael a’i gwmni, Route Konnect.     

Mae busnesau newydd ein myfyrwyr yn parhau i fy ysbrydoli a fy synnu gyda’u creadigrwydd ac yn fy marn i mae’r ffaith bod myfyrwyr wedi bod yn ystyried y syniad o weithio i’w hunain yn ystod y cyfnodau hyn yn golygu y daw eto haul ar fryn. 

Mae gan fy ffrind Lauren Ellse, Swyddog Menter Prifysgol Bryste, stori debyg i’w hadrodd. Pan gynhaliwyd eu cystadleuaeth cyflwyno busnes gyntaf ar 20 Mawrth (dechrau’r Cyfnod Clo rhan 1), roedd yr holl 12 myfyriwr eisoes wedi newid model eu busnes neu wedi manteisio i’r eithaf ar eu sefyllfa bresennol.  

Ffrwydrodd podlediadau entrepreneuraidd myfyrwyr, yn ôl Ellse. Dechreuwyd wyth ohonynt i gefnogi eu busnesau, eu helpu i gadw eu pwyll ac i greu cymuned, dechrau trafodaethau ac ysbrydoli eraill. A ffynnodd busnes blog teithio myfyriwr er y diffyg teithio, gan godi £5,000 drwy ddefnyddio ariannu torfol ac ennill £6,000 o Wobrau Entrepreneuriaeth Santander.  

Mae yna anfanteision. Mewn digwyddiadau ar-lein, nid yw pawb yn awyddus i droi eu camerâu na’u meicroffonau ymlaen i ofyn cwestiynau. Gofynnir y rhan fwyaf o gwestiynau drwy eu teipio yn y man sgwrsio. Er y gallai hyn agor ein digwyddiadau i fyfyrwyr na fyddai fel arfer yn mynd iddynt, mae anfanteision o ran delio â thorf, neu gwestiynu siaradwr yn uniongyrchol o flaen cynulleidfa agored.  

Hefyd, mae myfyrwyr yn cael eu boddi gan ebyst! Mwy na’r arfer. Mae rhannu’r neges am y cymorth sydd ar gael yn anoddach fyth.  

Rydym yn gwerthfawrogi bod y cyfnod hwn yn anodd ond rydym yma i wrando, rhoi cyngor a helpu myfyrwyr Prifysgol Caerdydd i greu busnes. Pan fydd y pandemig yn dod i ben, gallai arwain at ddyfodol disglair a chynhyrchiol.” 

Claire Parry-Witchell 

Hyfforddwr Bywyd, Swyddog Prosiectau Menter ym Mhrifysgol Caerdydd a Mentor Busnes ym Musnes Cymru. 

I gael rhagor o wybodaeth am dîm Menter a Dechrau Busnes Prifysgol Caerdydd, ebostiwch enterprise@caerdydd.ac.uk