Skip to main content

PartneriaethauPobl

Busnes Myfyriwr Graddedig yn helpu BBaChau lleol drwy’r pandemig

4 Tachwedd 2020

Sefydlodd Steph Locke (BA 2008), myfyriwr graddedig mewn Athroniaeth o Brifysgol Caerdydd, Bencadlys Nightingale, sef platfform digidol i fabwysiadu Deallusrwydd Artiffisial (DA) yn 2018. Ysbrydolwyd yr enw gan nyrs o Ryfel y Crimea, Florence Nightingale. Nod Steph oedd cael effaith gadarnhaol ar fusnesau lleol, gan helpu eu Parodrwydd DA a rhoi adnoddau iddynt dyfu, gyrru llwyddiant ac arloesi.

Mae’r model busnes wedi newid ychydig, gyda heriau sylweddol Brexit i farchnad buddsoddi fewnol y DU ac argyfwng Covid-19 byd-eang. Fodd bynnag, mae’r syniad allweddol yn aros yn gyson. Mae Steph yn ein tywys drwy eu taith isod.

‘Gyda help gan grant Innovate UK, gwnaethom lansio GoSmarter ym mis Medi 2020. Datblygodd y prosiect hwn becyn adnoddau DA ac awtomeiddio o 6 adnodd, a gwnaethom sicrhau eu bod ar gael yn rhwydd i’r holl BBaChau ledled y DU. Mae’r prosiect yn crynhoi gwerth ein busnes craidd sef grymuso busnesau drwy eu helpu i fabwysiadu DA ac awtomeiddio. Rydym yn credu’n gryf nad yw’r galluoedd hyn ar gyfer y chwaraewyr mawr yn unig, felly roedd y prosiect hwn yn gyfle gwych i ni helpu i sicrhau bod awtomeiddio a DA ar gael i fusnesau bach a chanolig.’

“Gwnaeth y pandemig greu newid gwerthfawr mewn meddylfryd tuag at DA, gan roi llawer mwy o bwyslais nawr ar ei ddefnyddio i wella gwasanaeth cwsmeriaid a chynyddu cynhyrchiant. Maw cwmnïau o bob maint yn dod yn fwy ymwybodol y gall DA eu helpu i raddio, arloesi a dod yn fwy hyblyg.”

“Wrth i’r DU ddechrau dychwelyd i’r arfer ar ôl y pandemig ac mae busnesau am ailadeiladu ac atgyfnerthu eu prosesau, bydd Pencadlys Nightingale yn canolbwyntio ar helpu gweithgynhyrchwyr i arloesi drwy DA.”

“Rydym am helpu gweithgynhyrchwyr ledled y DU i arbed arian ac arloesi’n gynt drwy feithrin galluoedd digidol ac AI. Bydd ein marchnad cynhyrchion a gwasanaethau AI ac awtomeiddio yn eu helpu i gael yr uwchsgilio, yr arbenigedd, a’r adnoddau cywir i wneud hyn. Mae’r busnes newydd wedi dechrau’n barod gyda chwsmeriaid yn defnyddio prototeipiau ac rydym yn awyddus i gael mwy o weithgynhyrchwyr yn rhan o’r cam profi hwn.”

“Mae ein llwyfan yn helpu gweithgynhyrchwyr i arbed arian ac arloesi’n gynt na’u cystadleuaeth drwy adnoddau strategaeth, cyrsiau ar-lein, a marchnad cynhyrchion a gwasanaethau DA ac awtomeiddio. Gan ddefnyddio’r ecosystem DA hwn, gall gweithgynhyrchwyr feistroli agweddau allweddol a chysylltu â’n partneriaid sydd wedi’u fetio i gynnig atebion personol sy’n cyflawni gwerth go iawn yn gyflym.”

Gyda dyfodol ansicr o’n blaenau, mae Nightingale UK yn helpu BBaChau i oresgyn yr heriau hyn.