Skip to main content

Adeiladau'r campws

Prifysgol Arloesi Caerdydd – helpu myfyrwyr i adeiladu busnesau yfory

24 Chwefror 2020

Caiff arloesi ei seilio ar ymddiriedaeth dros amser. Entrepreneuriaid yfory yw myfyrwyr heddiw. Drwy weithio gyda Menter Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd, gall israddedigion ddatblygu syniadau am fusnesau a mentrau cymdeithasol newydd a all ddod â ffyniant cymdeithasol i Gymru. Yma mae Rhys Pearce-Palmer, Rheolwr Menter, yn edrych ar lwyddiannau diweddar.

“Wrth ystyried busnesau newydd gan fyfyrwyr, mae gennym ni record ragorol ym Mhrifysgol Caerdydd. Ers 2016, mae 127 o fyfyrwyr wedi gwireddu eu syniadau a chofrestru busnes.

Mae hyn am ein bod yn gwneud mwy i gefnogi myfyrwyr drwy gynnig ecosystem o gefnogaeth lawn i helpu syniadau i ffynnu.

Mae coetsio a mentora’n rhan fawr o’r hyn rydym ni’n ei wneud. Mae angen i fyfyrwyr ddeall sut mae busnesau’n gweithio. Dechrau’n fach, breuddwydio’n fawr. Rydym yn cynnig taith tri cham i fynd â myfyrwyr o gael syniad i lansio menter. Trwy orffen pob cam, gall myfyrwyr fanteisio ar fwy o gymorth i’w busnes: arian, cystadlaethau a gweithle.

Mae’r daith yn gymysgedd o gymorth digidol a chymorth wyneb yn wyneb. Gall myfyrwyr barhau i ddatblygu eu syniadau y tu hwnt i oriau a phan fyddant oddi ar y campws ar wyliau neu ar leoliad gwaith.

Mae prosiect nodweddiadol yn dechrau gyda chyfarfod rhagarweiniol i fusnesau newydd. Dyma gyfle i gwrdd ag aelod o’r tîm, i glywed am y cymorth sydd ar gael a sut i ddechrau arni. Yn semester yr hydref 2019, aeth 88 o fyfyrwyr i gyfarfodydd rhagarweiniol o’i gymharu â 45 yn 2018 – cynnydd o 95%.

Ymhlith llwyddiannau’r pum mlynedd ddiwethaf mae CAUKIN Studio, menter gymdeithasol yn gweithio ar adeiladu a dylunio mewn cymunedau ar draws y byd i fynd i’r afael â phroblemau cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd. Hefyd, mae Bula Batiki Coconut Oil sy’n cynhyrchu olew cnau coco ac yn darparu incwm sefydlog i gymuned ynys Batiki, Fiji. A Route Konnect, sy’n datblygu rhwydweithiau synwyryddion Rhyngrwyd Pethau i helpu i adeiladu seilwaith ffyrdd y dyfodol.

Gallwn ni ond wneud hyn gyda chymorth ein cefnogwyr. Rhwng 2019 a 2021, mae’r Tîm Menter a Dechrau Busnes yn yr adran Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd yn arwain nifer o weithgareddau i fyfyrwyr a staff a ariennir gan Syniadau Mawr Cymru yn Llywodraeth Cymru. Darperir cyllid i ddatblygu a meithrin pobl entrepreneuraidd hunangynhaliol a fydd yn cyfrannu’n gadarnhaol at lwyddiant economaidd a chymdeithasol.

Helpodd cyllid Syniadau Mawr Cymru i ehangu ein cynllun YMLAEN sy’n cynnig cyfle i fyfyrwyr entrepreneraidd weithio mewn cymunedau cydweithio proffesiynol, gyda mentor penodol a chyflog i wneud y cynllun yn hygyrch i bawb. (Gwela YouTube)

Hefyd rydym ni wedi lansio cystadleuaeth syniadau newydd o’r enw SYNIAD a grëwyd i helpu myfyrwyr arloesol i fagu eu syniadau a’u hyder drwy ddatblygu syniadau sy’n herio’r arferol. Yn y gystadleuaeth a noddwyd gan Brifysgolion Santander dyfarnwyd gwobrau ar draws pedair thema: bwyd a diet, defnyddio deunyddiau, trafnidiaeth a symudedd, ac aerdymheru. Yr enillydd oedd Callum Hughes, myfyriwr BSc Cyfrifiadureg gyda Diogelwch a Fforenseg ar ei drydedd flwyddyn, gyda’i syniad ar gyfer rhestr bwyd oergell glyfar, er mwyn lleihau gwastraff bwyd.

Yn ein Hadolygiad o Effaith 2019, gwnaethom gefnogi 34 o gwmnïau cofrestredig i ddechrau a datblygu. Mae’r cwmnïau’n bennaf yng Nghaerdydd ac yn ne Cymru.

Darllenwch yr adroddiad llawn:

Adroddiad o Effaith Menter 2019 ENGLISH (dolen)
Adroddiad o Effaith Menter 2019 CYMRAEG (dolen)

Bydd cyflenwi sbarc – a gaiff ei gwblhau ym mis Ebrill – a’i fannau arloesi, swyddfeydd, labordai a mannau cymunedol yn cynnig lle i raddedigion greu, arbrofi a thyfu eu mentrau yn y degawdau nesaf. Bydd sbarc yn gartref i Barc Ymchwil y Gwyddorau Cymdeithasol, fydd yn cydleoli ymchwilwyr gyda rhanddeiliaid allweddol i gefnogi a datblygu datrysiadau effeithiol i heriau cymdeithasol. Bydd ymchwilwyr yn gweithio gydag eraill i gynyddu effaith a gwerth eu hymchwil i gymdeithas a gwella cyswllt y cyhoedd gyda gwyddoniaeth.

Daw dros 97 y cant o’r holl eiddo deallusol a gynhyrchir gan holl sefydliadau Addysg Uwch Cymru o Brifysgol Caerdydd. Dyna pam ein bod yn falch o’n llwyddiannau eleni ac yn edrych ymlaen at helpu ein cymuned o fyfyrwyr a graddedigion i wireddu eu syniadau.”

I gael rhagor o wybodaeth am fusnesau newydd myfyrwyr, cysylltwch â Rhys Pearce-Palmer, Rheolwr Menter, PearceR5@cardiff.ac.uk