Skip to main content

Uncategorized @cy

Ein diogelu ni: syniadau, Endeavr ac arloesedd ym maes seiberddiogelwch y DU

13 Tachwedd 2019
In the System Control Room Operator and Administrator Sitting at Their Workstations with Multiple Displays Showing Graphics and Logistics Information.
In the System Control Room Operator and Administrator Sitting at Their Workstations with Multiple Displays Showing Graphics and Logistics Information.

Gofynnwch i bobl yn y stryd am seiberddiogelwch, a bydd eu eu hatebion yn amrywio’n sylweddol. Tra bod rhai’n wybodus o ran technoleg, mae rhai eraill wedi’u drysu.

Mae arolwg gafodd ei gynnwys yn Nhrydydd Arolygiad Blynyddol y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol (NSCS) yn ddiweddar, yn dangos bod y rhan fwyaf yn poeni, ac i ryw raddau, yn dyngedfyneddol y byddant yn dioddef o seiberdroseddu.

Yn rhagair ei adroddiad, mae’r Prif Weithredwr Ciaran Martin a ymwelodd â Phrifysgol Caerdydd yn gynharach eleni, yn nodi bod 70% o’r 2,700 o bobl a gafodd eu cwestiynu’n credu y byddant yn dioddef o un math penodol o seiberdroseddu o leiaf dros y ddwy flynedd nesaf. Mae’r rhan fwyaf yn credu y byddai hyn yn cael effaith bersonol fawr.

Ond y newyddion cadarnhaol allwn ni ei gasglu o’r rhifau hyn yw bod 30 y cant ar y trywydd iawn. Yma yng Nghanolfan Rhagoriaeth Dadansoddeg Seiberddiogelwch Airbus, ein nod yw helpu i brofi bod y rhai sy’n cynnal arolygon barn yn anghywir.

Wrth i ymddiriedaeth fyd-eang yn y rhyngrwyd gwympo, ni all ein perthynas â’r Ganolfan hon ond helpu i fagu hyder.

Rydym yn gwneud hyn drwy arloesedd di-baid, gan bartneru â chefnogwyr diwydiannol, llywodraethau a chyllidwyr i drosglwyddo gwybodaeth arbenigol o academyddion uwch a’r rhai ar ddechrau eu gyrfaoedd, PhDs ac ymchwilwyr ôl-ddoethurol i mewn i gynhyrchion a gwasanaethau all ein gwneud yn fwy seiberddiogel.

Yn ddiweddar, bues i’n ddigon ffodus i gael mynd i ddathliad arbennig ar gyfer degfed pen-blwydd Airbus Endeavr Wales.

Athro Pete Burnap

Mae’r prosiect yn dod â’r cwmni gweithgynhyrchu byd-eang ynghyd â Llywodraeth Cymru, Prifysgol Caerdydd ac academyddion a busnesau bach eraill er mwyn helpu i wireddu syniadau arloesol, ac ar ben hynny, cyllido ymchwil cam cynnar i’r pwynt lle gellir cael gwerth masnachol amdani.

Mae Endeavr yn angerddol dros arloesedd, cydweithio a chefnogi pobl eraill i greu cynhyrchion ar gyfer y dyfodol. Rydw i’n gwybod hyn achos, ychydig o flynyddoedd yn ôl, bues i’n ddigon ffodus i gymryd rhan mewn prosiect a ariannwyd gan Endeavr, sydd wedi chwyldroi sut rydym yn meddwl am reoli risg i systemau diogelwch hanfodol – y math sy’n cynnal safleoedd gweithgynhyrchu ar waith a’r goleuadau ynghynn ar draws y wlad.

Ffynnodd yr hyn ddechreuodd fel prosiect ymchwil cychwynnol yn bartneriaeth strategol hirdymor ag Airbus – gan gynnwys lansio Canolfan Rhagoriaeth Dadansoddeg Seiberddiogelwch Airbus ym Mhrifysgol Caerdydd yn 2017 – yr unig ganolfan o’r fath yn Ewrop.

Diolch i’r twf hwn, ym mis Awst 2018, cafodd y Brifysgol ei henwi’n swyddogol yn Ganolfan Ragoriaeth Academaidd mewn Ymchwil Seiberddiogelwch gan y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol, y sefydliad cyntaf yng Nghymru i ennill y statws hwn.

Rydym yn rhan o rwydwaith o Ganolfannau Rhagoriaeth Academaidd ar draws y DU, sy’n gweithio gyda’i gilydd mewn meysydd ymchwil seiberddiogelwch gwahanol. Yma yng Nghaerdydd, ym maes dadansoddeg seiberddiogelwch y mae ein harbenigedd dwys, sef ymasiad o Ddeallusrwydd Artiffisial (AI), seiberddiogelwch a risg.

Rydym wedi’n cydnabod am ein gwybodaeth gan y Ganolfan Seibrddiogelwch Genedlaethol, Airbus ac yn rhyngwladol, yn rhannol o ganlyniad i gefnogaeth Endeavr. Mae ein pwyslais ar ddiwydiant a’n cysylltiadau ag e’n sail i’n holl agwedd ni tuag at ymchwil.

Myfyrwyr seiberddiogelwch, Prifysgol Caerdydd.

Wrth i ni ddathlu carreg filltir Endeavr, fe ddangoswyd arloesiadau y dyfodol ar draws Cymru i ni. Mae’r rhain yn syniadau sy’n cael eu gwireddu diolch i ddegawd o gyllid a chydweithio gan Lywodraeth Cymru.

Pobl sgilgar sydd wrth galon ein dyfodolau seiber. Fel Canolfan Rhagoriaeth, rydym yn meithrin talent ifanc ac yn datblygu llwybr ar gyfer y genhedlaeth nesaf o weithwyr proffesiynol seiberddiogelwch, fel peirianwyr meddalwedd, gwyddonwyr data ac arbenigwyr seiberddiogelwch dirfawr eu hangen.

Rydym yn gobeithio y bydd Caerdydd, Airbus Endeavr Wales a’n cronfa o fyfyrwyr a staff talentog yn parhau i ysbrydoli hyder dros y blynyddoedd o’n blaenau.

Mae tystiolaeth yn dangos bod y Ganolfan Seibrddiogelwch Genedlaethol wedi llwyddo i gynyddu nifer y dangosyddion o fygythiad y mae’n eu rhannu ddegwaith i fwy na 1,000 y mis – ac yn gallu eu prosesu mewn eiliadau.

Yn yr hirdymor, mae cymaint i’w ddathlu. Mae adroddiad blynyddol y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol yn nodi mai’r DU gafodd y sgôr uchaf ym Mynegai Seiberddiogelwch y Byd a gyhoeddwyd gan yr Undeb Telathrebu Rhyngwladol (ITU).

Drwy weithio ynghyd dros y degawdau i ddod, efallai fe wnawn i argyhoeddi’r rhai sy’n cynnal arolygon barn fel arall.

Pete Burnap yw’r Athro Gwyddor Data a Seiberddiogelwch yn yr Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg

BurnapP@caerdydd.ac.uk