Skip to main content

PartneriaethauPobl

Partneriaeth yn cyfrannu at effeithlonrwydd cwmni gwin mwyaf y DU

3 Hydref 2019
Accolade Wines, Avonmouth
Accolade Wines, Avonmouth

Mae partneriaeth rhwng Gwneuthurwr y Flwyddyn Accolade Wines, Canolfan Ymchwil Panalpina (PARC) a Phrifysgol Caerdydd wedi helpu’r cwmni diodydd i symleiddio gweithrediadau a chyflawni gostyngiadau sylweddol yn eu lefelau cyflenwi.

Mae awch pencadlys y cwmni o Awstralia am welliant parhaus ac arloesedd wedi’i yrru i greu partneriaeth â PARC a’r Brifysgol i edrych am ffyrdd o wella effeithlonrwydd cynhyrchu.
Accolade Wines yw’r cwmni gwin mwyaf yn y DU ac Awstralia o bell ffordd.

Mae gan Richard Lloyd, Rheolwr Cyffredinol Gweithrediadau a Chadwyn Gyflenwi Ewrop gydag Accolade Wines, radd MSc mewn Rheoli Gweithrediadau Di-wastraff o Ysgol Busnes Caerdydd.

Athro Aris Syntetos

Pan oedd yn edrych am syniadau arloesol i gefnogi ei fusnes, cysylltodd â’r Athro Aris Syntetos a’r Athro Pauline Found; pobl y daeth ar eu traws ym Mhrifysgol Caerdydd.

Maent yn arbenigwyr yn eu priod feysydd o optimeiddio cyflenwadau a gweithgynhyrchu di-wastraff, a dechreuodd y bartneriaeth edrych am ffyrdd o wella’r broses gweithgynhyrchu a’r cadwyni cyflenwi yn Accolade Wine.

Gwnaeth yr Athro Syntetos a’r Athro Found argymell gweithio gyda PARC, grŵp prifysgol a diwydiant newydd ym Mhrifysgol Caerdydd, sy’n dod â busnesau ac ymchwilwyr blaenllaw arloesol at ei gilydd i weithio ar gyflwyno gwelliannau gweithredu cymhleth ym maes logisteg gweithgynhyrchu a stocrestri.

Croesawodd Fevos Charalampidis, y prif ymchwilydd yn PARC, yr her o helpu i ddod ag academyddion a byd diwydiant at ei gilydd i chwilio am welliannau i Accolade Wine.

Fel yr eglurodd Richard Lloyd, “Rhoddodd Fevos a thîm PARC gipolwg newydd ar ein busnes a nodwyd arbedion ariannol a gwelliannau gweithredu go iawn, yn arbennig ym maes rhagfynegi galw a rheoli stocrestrau. Roedd yr arbedion a nodwyd hyd yn oed yn fwy na’r hyn y gobeithiwyd amdano. Yr un mor bwysig, roedd Fevos yn gallu datblygu dull gweithredu a alluogodd swyddogaethau gwahanol, o werthiant, gweithrediadau a chynllunio stocrestrau, i weithio gyda’i gilydd i wella’r busnes yn gyffredinol. Ar gyfer Accolade Wines, mae dull gweithredu PARC wedi cyflymu’r raddfa y gall y timau weithio gyda’i gilydd ac optimeiddio perfformiad y busnes o safbwynt holistig.”

Fevos Charalampidis

Defnyddiodd tîm PARC eu dull perchnogol D2ID (cysylltiad i D2ID yn PARC) i wella effeithiolrwydd gweithredol cyffredinol, cynyddu lefelau gwasanaeth a lleihau lefelau eiddo yn y busnes yn Accolade Wines. Mae tîm cyfunol PARC, Accolade Wines a Phrifysgol Caerdydd eisoes wedi dechrau sicrhau canlyniadau, ond mae’r awydd i wella yn parhau. Dechreuodd y tîm weithio gyda’i gilydd i drosglwyddo gwybodaeth rhwng y timau.

Os yw eich busnes yn chwilio am welliannau ym meysydd rhagfynegi galw a chynllunio, rhagoriaeth weithredol, logisteg neu weithgynhyrchu, a hoffech chi wybod rhagor am sut y gall PARC a Phrifysgol Caerdydd helpu, cliciwch yma: https://www.cardiff.ac.uk/cy/parc-institute-manufacturing-logistics-inventory