Skip to main content

Adeiladau'r campws

Campws Arloesedd Caerdydd – Safbwynt Myfyriwr

24 Gorffennaf 2019

Mae gwaith yn gwibio ymlaen o hyd ar Gampws Arloesedd Caerdydd. Mae’r contractwr, Bouygues UK, yn gwneud cynnydd da yn nhywydd braf yr haf. Yn ei flog cyntaf, mae Luke Morgan, myfyriwr meddygaeth yn ei drydedd flwyddyn a Llysgennad Myfyrwyr y DU dros Bouygues yn ysgrifennu am ei argraffiadau cyntaf o safle a fydd, erbyn 2021, yn gartref i entrepreneuriaid, ymchwilwyr, cyllidwyr a myfyrwyr llawn syniadau a allai lywio ein byd.

‘Os ydych wedi cymryd yr amser i fwynhau’r awyr las hyfryd dros yr wythnos ddiwethaf, efallai byddwch wedi sylwi ar y craeniau mawr sy’n dominyddu nenlinell Cathays. Mae rhai o’r rhain fymryn ymhellach allan o’r ddinas, ar hyd y rheilffordd tuag at Faendy. I’r rheini nad ydynt yn gwybod, mae’r safle hwn wedi’i leoli oddi ar Heol Maendy, a hwn fydd safle newydd Campws Arloesedd Prifysgol Caerdydd. Yn rhan o Raglen Llysgenhadon Myfyrwyr Bouygues (Bwîg yw’r ynganiad), byddaf yn ymweld â’r safle hwn dros y ddwy flynedd nesaf wrth i’r gwaith adeiladu fynd yn ei flaen i gael syniad gwell o beth sy’n digwydd.

Bu rhai sy’n ymwneud â’r rhaglen yn synnu at pam fyddai myfyriwr meddygaeth yn ymddiddori ynddi, ond mae rhai o’r ystyriaethau a’r dyluniadau gwyddonol blaengar yn arbennig o ddiddorol, a bydd fy niweddariadau’n canolbwyntio ar y rhain dros y blynyddoedd nesaf.

Wrth ymweld â’r safle, cawson ni ein tywys o gwmpas y gwaith adeiladu presennol a gwelon ni gynrychioliad 3D o’r safle gorffenedig. Rydw i wedi atodi delwedd o hyn isod.

Bydd un o’r adeiladau ar yr ochr yn cynnwys microsgop electronau, sydd o ddiddordeb mawr i mi. O ganlyniad, mae’n rhaid i’r adeilad fod yn rhydd rhag dirgryniadau, fel arall byddai delweddau’r microsgop yn dda-i-ddim. Bydd hyn yn gryn her gan fod yr adeilad yn agos i reilffordd. Bydd sôn am rai o’r technegau, yr heriau a’r cynnydd ar hyn yn nes ymlaen.

Mae rhai o’r nodweddion ‘cymdeithasol’ yn yr adeilad yn ddiddorol hefyd. Yn fy marn i, mae gweld sut gall isadeiledd a systemau annog arfer penodol yn esiampl i feysydd iechyd cyhoeddus a chlinigol. Er enghraifft, dyluniwyd y grisiau cymdeithasu (i’w gweld isod) i annog cydweithio rhwng timoedd, wrth iddynt eistedd a sgwrsio ar y grisiau. Mae hyn yn cyfuno symudiadau pobl â chyfleoedd i gyfathrebu ac yn hwyluso amgylchedd gweithio mwy hyblyg a hwylus’.

Gellir gweld mwy o wybodaeth am y dyluniad cymdeithasol hwn yma: http://blogs.cardiff.ac.uk/innovation/2018/09/19/dylunio-arloesol/?lang=cy
O ran y gwaith adeiladu ei hun, yn ystod fy ymweliad olaf tua mis yn ôl, roedd bar dur atgyfnerthu wedi’i osod ar gyfer llawr gwaelod un o’r ddau adeilad, ac roedd gwaith ar y llawr cyntaf yn mynd rhagddo.

Rwy’n edrych ymlaen at wylio’r prosiect yn tyfu a byddaf yn ceisio cyhoeddi diweddariadau pellach dros y ddwy flynedd nesaf.’

Lluniau: Hawkins\Brown/ Hawkins\Brown & Wigwam Visualisation.