Skip to main content

Adeiladau'r campws

Gall arloesedd data helpu busnesau i ffynnu

9 Gorffennaf 2019

Sefydlwyd Canolfan Arloesedd Data (DIA) Caerdydd er mwyn ymateb i’r galw gan gwmnïau bach yng Nghymru i gael gafael ar arbenigedd y Brifysgol ym maes ymchwil gwyddoniaeth ddata. Lansiodd staff y Cyflymydd y prosiect ym mis Mehefin. Mae Catherine Roderick, Rheolwr Prosiect DIA yn yr Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg, yn esbonio sut mae’r Cyflymydd yn gweithio.

“Sut rydym yn helpu busnesau i fanteisio’n llawn ar eu data? Y llynedd, llwyddodd ein Cyfarwyddwyr, Peter Burnap a Roger Whitaker, i ennill grant £1.8 miliwn gan Gronfa Datblygu Ranbarthol Ewrop (ERDF) drwy Lywodraeth Cymru, sy’n cyd-fynd â buddsoddiad gan y Brifysgol i ariannu’r Cyflymydd dros y ddwy flynedd a hanner nesaf.

Mae’r ERDF wedi buddsoddi gan fod Llywodraeth Cymru o blaid y syniad bod defnyddio gwyddoniaeth ddata i ategu arloesedd ymysg busnesau bach – er enghraifft, i ddatblygu cynnyrch newydd a allai gael ei werthu i gwsmeriaid, neu wella effeithlonrwydd proses fewnol – yn llwybr diogel ac addawol tuag at gryfhau busnesau, ac o ganlyniad, economi Cymru.

I gwmnïau, rydym yn cynnig ‘gwiriad iechyd arloesedd data’, sy’n dangos sut gallai technegau gwyddoniaeth ddata gael eu defnyddio er mwyn gwneud rhywbeth newydd â’r data neu wella rhywbeth y mae’r data’n ei wneud yn barod.

Hefyd, mae’r gwiriad iechyd yn dangos beth yw lefel datblygiad y cwmni o ran gwyddoniaeth ddata, a beth yw’r camau nesaf gorau ar gyfer y dyfodol. Efallai bydd hyn yn rhywbeth mor syml â chasglu mwy o ddata neu ystod ehangach o fath penodol ohono, neu argymhelliad am brosiect ymchwil a datblygu gyda ni.

I’r cwmnïau yr ydym yn gweithio ar brosiect gyda nhw, dyma gyfle i chwarae rôl weithredol mewn prosiect ymchwil (ac ni ddylai hyn godi braw ar gwmnïau os nad oes ganddynt ‘adran ymchwil a datblygu’ neu unrhyw staff ag ‘ymchwil’ yn nheitl eu swydd!) sy’n mynd i’r afael â her i’r cwmni, neu sy’n diwallu un o anghenion y busnes yn uniongyrchol.

Mae’n ddigon i godi ias: prosiectau cyflym sy’n manteisio ar holl sgiliau amrywiol tîm gwyddoniaeth ddata’r Cyflymydd ac arbenigedd staff academaidd ehangach Prifysgol Caerdydd, ar gyfer anghenion a buddiannau’r cwmni.

Gallai’r rhain gynnwys, dod o hyd i ffyrdd gwell o dargedu cynnwys marchnata at gwsmeriaid posibl, dadansoddeg ragfynegi ar gyfer rhagolygu gwerthiant a dod o hyd i gwsmeriaid posibl, dangosfyrddau pwrpasol a delweddu data cwsmeriaid mewn amser real, neu un o’r doreth o bosibiliadau eraill.

Mae’r Cyflymydd yn rhan o gymuned gwyddoniaeth ddata sy’n tyfu yn y Brifysgol, sy’n gweithio ochr yn ochr â’r Academi Gwyddor Data newydd, y Sefydliad Ymchwil Arloesedd Data ac Uwchgyfrifiadura Cymru, ymhlith llu o rai eraill.

Rydym yn agored am fusnes ac yn dymuno siarad â chwmnïau sy’n gweithio yn un o’n meysydd targed. Beth am fwrw golwg ar ein gwefan i gael rhagor o fanylion a chysylltu â ni? Rydym yma i helpu.”

https://www.cardiff.ac.uk/cy/data-innovation-accelerator