Skip to main content

Adeiladau'r campws

Gwobr am system sy’n helpu i sylwi ar awtistiaeth mewn plant

4 Mehefin 2019

Partneriaeth yw ‘Dewis y Bobl’

Mae system sy’n helpu gweithwyr proffesiynol i sylwi ar arwyddion awtistiaeth mewn plant wedi ennill ‘Dewis y Bobl’ yng Ngwobrau Arloesedd ac Effaith Prifysgol Caerdydd.

Gweithiodd ymchwilwyr o’r Ysgol Seicoleg gyda Llywodraeth Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru i ddatblygu SIGNS – acronym i helpu arbenigwyr i adnabod ymddygiad awtistig mewn plant.

Cafodd y bartneriaeth 209 o 460 o bleidleisiau ‘Dewis y Bobl’ yng nghystadleuaeth flynyddol y Brifysgol ar y cyfryngau cymdeithasol, sy’n golygu y cafodd 45% o’r bleidlais.

Bu ymchwilwyr o Brifysgol Caerdydd, o dan arweiniad yr Athro Sue Leekam a Dr Catherine Jones, yn cydweithio â’r Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol (Tîm Datblygu Cenedlaethol ASD, yn flaenorol) yn ogystal ag Iechyd Cyhoeddus Cymru. Llywodraeth Cymru sy’n ariannu’r Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol a leolir yng Nghymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WGLA).

Yn wreiddiol, nododd a chyhoeddodd yr Athro Sue Leekam a Dr Sarah Carrington o’r Ysgol Seicoleg gyfres o eitemau cyfeirio hanfodol o asesiad sy’n cael ei alw’n Gyfweliad Diagnostig ar gyfer Anhwylderau Cymdeithasol a Chyfathrebu (y Diagnostic Interview for Social and Communication DisordersDISCO).

Arweiniodd ymchwil pellach ar ran tîm Caerdydd at greu SIGNS – modd i weithwyr proffesiynol ar lawr gwlad nodi a deall ymddygiad awtistaidd mewn plant yn y meysydd canlynol:

Rhyngweithio cymdeithasol a chyfathrebu ar lafar

Dychymyg

Ystumiau neu cyfathrebu heb fod ar lafar

Ystod gul o ddiddordebau, arferion ac ymddygiad ailadroddus

Ymatebion synhwyrus

Datblygodd y tîm ddau adnodd allweddol y mae Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol WLGA yn ei rhoi i weithwyr proffesiynol clinigol ac addysgol: posteri yn nodi arwyddion awtistiaeth, a ffilm 18 munud mewn hyd, The Birthday Party’, yn seiliedig ar SIGNS. Gwnaeth llwyddiant y ffilm arwain at geisiadau i’w ddefnyddio mewn hyfforddiant awtistiaeth ar draws y byd.

Cynhaliwyd y seremoni wobrwyo yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru, Caerdydd ar 3 Mehefin.

Wrth groesawu anrhydedd Dewis y Bobl, dywedodd yr Athro Leekam a Dr Jones: “Rydym wrth ein bodd ein bod wedi ennill y wobr hon a chafodd gefnogaeth helaeth gan y cyhoedd. Helpodd mwy na mil o weithwyr proffesiynol a rhieni i lunio’r deunyddiau a gynhyrchwyd gennym. Rydym yn diolch iddyn nhw, ac i’n partneriaid yn y llywodraeth, byd busnes, elusennau a’r Brifysgol fu’n gweithio gyda ni ar draws pum gwlad. Rydym eisiau i bob sector o’r gymdeithas adnabod arwyddion awtistiaeth, ac ymateb iddynt, ac mae ennill y wobr hon yn ein symud yn agosach at y nod hwnnw.”

Am y tro cyntaf, aelod o staff Prifysgol Caerdydd oedd â’r bleidlais i benderfynu ar enillydd Dewis y Bobl. Dr Cassy Ashman, B.R.A.I.N. (Uned Cyweirio’r Ymennydd a Niwrotherapiwteg Mewngreuanol) Rheolwr Uned yn y Sefydliad Ymchwil Niwrowyddoniaeth ac Iechyd Meddwl, sydd wedi ennill Mini iPad.

Dywedodd cais buddugol Dr Ashman: “Mae gen i frawd iau ag Awtistiaeth ac rydw i wedi gweithio gydag elusennau awtistiaeth gan gynnwys Resources for Autism. Mae hwn yn bwnc sy’n agos at fy nghalon ac rwy’n ymwybodol iawn o’r anawsterau wrth wneud diagnosis, sy’n gallu cymryd blynyddoedd. Ac eto, mae’n hanfodol er mwyn i’r plentyn gael gofal gan y gwasanaethau priodol sy’n gallu newid bywyd. Bydd unrhyw beth fydd yn helpu i adnabod arwyddion awtistiaeth mewn plant yn siŵr o olygu y bydd plant a’u teuluoedd yn cael cymorth yn gynt.”

Yn ôl yr Athro Colin Riordan, Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd: “Mae ehangder a dyfnder yr ymchwil a helpodd i lunio SIGNS, yn ogystal â’i hyrwyddo a’i fabwysiadu’n rhyngwladol, yn golygu ei fod yn enillydd addas yn yr 21ain arddangosiad o arloesedd rhagorol sy’n cael effaith fyd-eang. Mae’r gwobrau yn dangos ansawdd, dyfeisgarwch a phenderfynoldeb ymchwilwyr Prifysgol Caerdydd wrth ddatblygu partneriaethau o’r radd flaenaf.”

Enillodd Dr Bethany Keenan, Cydymaith Ymchwil Ôl-ddoethurol Pennaeth yr Ysgol Peirianneg, wobr fwyaf newydd y noson: Arweinydd Arloesedd y Dyfodol. Mae’r anrhydedd yn dathlu sêr newydd Prifysgol Caerdydd ym maes arloesedd ac mae’n cydnabod unigolion sydd wedi cymryd rhan flaenllaw yn natblygiad effaith eu hymchwil.

Dywedodd Bethany “Rydw i’n falch iawn o ennill y wobr hon, sydd wedi cael ei chyflawni gyda chymorth fy nghydweithwyr yn CUBRIC yn bennaf a thrwy gydweithio â phartneriaid clinigol ac yn y diwydiant. “Rydw i’n mwynhau troi ymchwil yn gynhyrchion a phrosesau sy’n gallu bod o fudd i gymdeithas Rydw i’n falch iawn bod y wobr hon wedi cydnabod fy ngwaith. Drwy fynd ar drywydd rhagoriaeth yn fy ymchwil, rwy’n gobeithio ysbrydoli eraill i wneud yr un peth.”

Fe gyflwynwyd tair gwobr arall yn y Gwobrau Arloesedd ac Effaith:

Trefnir y Gwobrau Arloesedd ac Effaith gan Rwydwaith Arloesedd Prifysgol Caerdydd, ac maent wedi bod yn hyrwyddo’r partneriaethau rhwng y Brifysgol â busnesau ers dros ugain mlynedd.

LLUNIAU:

  1. Enillwyr Dewis y Bobl 2019: (o’r chwith i’r dde) Sara Harvey, Arweinydd Strategol Cenedlaethol ar gyfer Awtistiaeth, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru; Dr Catherine Jones a’r Athro Susan Leekham, Ysgol Seicoleg, gyda’r Gweinidog Addysg Kirsty Williams.
  2. Y Fonesig Shan Morgan, Ysgrifennydd Parhaol, Llywodraeth Cymru gyda Dr Bethany Keenan.