Skip to main content

PartneriaethauPobl

Ymchwil arloesol i ynni glân, gwyrdd er mwyn lleddfu tlodi tanwydd a gwella ansawdd aer

13 Chwefror 2019

Nod FLEXIS yw lleihau risgiau datgarboneiddio drwy hwyluso cludiant carbon-isel, integreiddio tanwyddau adnewyddadwy i’r grid a datblygu dull dibynadwy o ddal carbon a’i storio. Mae ei ddull unigryw’n modelu sut mae ynni’n llifo ac yn defnyddio arbenigedd ynghylch y gwyddorau cymdeithasol i ddeall sut mae’r cyhoedd yn gweld technolegau ynni newydd.

Partneriaeth rhwng academyddion, diwydiannau a llywodraeth leol

Mae FLEXIS yn bartneriaeth strategol rhwng pum sefydliad – Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Abertawe, Prifysgol De Cymru, Cyngor Castell-nedd Port Talbot a Tata Steel UK. Mae’r prosiect wedi cael cyllid gwerth £24 miliwn, gydag ychydig dros £15 miliwn gan Gronfa Datblygu Ranbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru. Gweledigaeth y prosiect pum mlynedd yw gwireddu system ynni wydn, fforddiadwy a diogel ar draws Cymru y gellid ei defnyddio ledled y byd.

Ardal arddangos FLEXIS

Mae FLEXIS yn rhoi ei ymchwil ar waith ar safle yng Nghastell-nedd Port Talbot. Caiff data go iawn gan gynhyrchion ynni’r ardal, ynghyd â’r defnyddwyr (gan gynnwys y gymuned leol, Tata Steel Port Talbot a diwydiant lleol, yn ogystal â fferm wynt Pen y Cymoedd) ei fodelu er mwyn datrys sut i integreiddio, storio a chyflenwi ynni glân mewn ffordd ddeallus.

Mae FLEXIS yn cyfrannu ei arbenigedd academaidd at gynllun Cyngor Castell-nedd Port Talbot ar gyfer dyfodol deallus, carbon isel. Mae’r cynlluniau’n cynnwys datblygiad pellach ar gyfer cerbydau allyriadau isel. Bydd hyn yn gwneud Port Talbot yn dref garbon-isel ddeallus. Bydd adeilad arloesol newydd gwerth £7 miliwn ym Mharc Ynni Baglan yn dal ynni gwastraff i gynhyrchu hydrogen er mwyn pweru cludiannau.

“Rydym wrth ein boddau’n gweithio mor agos â Chyngor Castell-nedd Port Talbot ar nifer o brosiectau sy’n cyfrannu at wireddu dyfodol deallus a charbon-isel. Mae creu swyddi, mynd i’r afael â thlodi tanwydd ac ansawdd aer yn ddeilliannau sylfaenol i ymchwil FLEXIS.”
Yr Athro Hywel Thomas, Prif Archwilydd FLEXIS

Oherwydd cwmpas yr ardal arddangos, dyma ranbarth arddangos aml-fector mwyaf y DU.

O ddatblygu i wireddu

Mae cyfleusterau FLEXIS yn cynnwys Canolfan Cynhyrchu a Chyflenwi Ynni Adnewyddadwy Integredig (CIREGS) Prifysgol Caerdydd, sy’n grŵp peirianneg amlddisgyblaethol ag arbenigedd mewn cyflenwi a thrawsyrru ynni, a’i Chanolfan Ymchwil i Dyrbinau Nwy. Mae’r Ganolfan hon yn galluogi ymchwil newydd i systemau, cydrannau a thanwyddau ar gyfer tyrbinau hylosgi nwy.

Mae FLEXIS yn elwa ar Ganolfan Hydrogen Prifysgol De Cymru, sy’n gyfleuster ar gyfer cynhyrchu a storio hydrogen adnewyddadwy, yn ogystal â labordai blaengar y Sefydliad Ymchwil Diogelwch Ynni (ESRI) ar Gampws y Bae, gwerth £450 miliwn, ym Mhrifysgol Abertawe.

Mae ymchwil wedi cael ei throsi’n brosiect gwresogi dŵr pyllau, sef arddangosydd storio-amonia i bŵer gwynt cyntaf y byd a chyswllt Cerrynt Union Foltedd Canolig cyntaf y DU. Mae hyn i gyd yn seiliedig ar bartneriaethau â diwydiant a llywodraeth leol.

www.flexis.wales

@FlexisProject