Skip to main content

PartneriaethauPobl

Qioptiq – stori llwyddiant KTP

3 Ionawr 2019

Mae arbenigedd Prifysgol Caerdydd wedi helpu cwmni Qioptiq o ogledd Cymru i ennill cytundeb amddiffyn gwerth £82m, gan greu a diogelu swyddi.

Mae arbenigwyr o Ysgol Busnes Caerdydd wedi treulio dwy flynedd yn datblygu cyfarpar i wella gweithrediadau rhagfynegi stocrestrau Qioptiq, sydd wedi’i leoli yn Ninbych.

Roedd yr astudiaeth yn bosibl o ganlyniad i Bartneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth (KTP) a gyd-ariennir gan Lywodraeth Cymru, Cyngor Ymchwil y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg ac Innovate UK.

Arweiniodd y cydweithio a’r arbenigedd at adeiladu warws newydd Qioptiq, gwerth £3.7m, drws nesaf i ffatri bresennol Qioptiq ym Mharc Busnes Llanelwy. At hynny, helpodd y cwmni i gael cytundeb chwe blynedd gyda’r Weinyddiaeth Amddiffyn (MOD) i wasanaethu offer gweld yn y tywyllwch.

Fe wnaeth y KTP, sy’n arbenigo mewn rhagfynegi gweithrediadau busnes di-wastraff, i Gydymaith trosglwyddo gwybodaeth, alluogi Thanos Goltsos, weithio’n uniongyrchol gyda Qioptiq o dan oruchwyliaeth dau o Athrawon Ysgol Busnes Caerdydd – Aris Syntetos a Mohamed Naim.

Mae Busnes Cymru wedi cynnwys astudiaeth achos ar Qioptiq ar eu gwefan. Gallwch ddarllen yr astudiaeth achos yma.

Ffordd well o ragfynegi

Cyn y KTP, nid oedd yn bosibl i Qioptiq, sy’n cyflenwi dyfeisiau ffotonig i’r diwydiannau meddygaeth, gweithgynhyrchu ac amddiffyn, i ragfynegi faint o eitemau byddai’n cael eu harchebu a faint fyddai’n dychwelyd.

Roedd y broblem hon yn effeithio ar ei allu i osod prisiau, ymateb i’r galw, a chynllunio gweithrediadau.

Pan ddechreuodd Thanos weithio gyda’r cwmni, ei flaenoriaeth gyntaf oedd deall sut y mae gweithrediadau Qioptiq yn gweithio.

Dywedodd Thanos:

“Fe wnes i archwilio’r prosesau i weld sut yr oeddent yn rhagfynegi’r galw a threfnu ymlaen llaw. Roedd yn rhaid i Qioptiq ragfynegi beth fyddai’n cael ei ddychwelyd o fewn yr ychydig fisoedd nesaf, yn ogystal â gweld patrymau galw’r cwsmeriaid.

Fe gynigiais symud at ffordd fwy hyblyg o weithredu er mwyn gwella lefel y gwasanaeth a phrisio.”

O ganlyniad, lleihaodd Qioptiq ei stocrestr o 25%, gan arwain at arbedion ariannol mawr ar gyfer y cwmni.

Diogelu contract gwerth £82 miliwn gyda’r Weinyddiaeth Amddiffyn (MoD)

Llwyddodd system Thanos nid yn unig i gynnig manteision ariannol anferth, ond hefyd arweiniodd at gontract mwyaf erioed y cwmni.

Bydd y contract yn gwneud yn siŵr bod gan luoedd arfog y DU ledled y byd fynediad at offer hanfodol ar gyfer gweld yn y tywyllwch. Rhagwelir y bydd MoD yn arbed £47 miliwn gyda chefnogaeth Qioptiq.

Dywedodd Thanos:

“Dyma’r contract mwyaf y mae Qioptiq a’r rhiant gwmni erioed wedi ei ennill. Gwnaethon nhw adeiladu ffatri newydd, gwerth tua £2 miliwn, cadw 10 o bobl, a recriwtio 7 arall.”

“Mae’r cwmni wedi bod yn hynod hael eu clod wrth ddweud bod y gwaith a wnaethom iddo wedi chwarae rhan fawr yn ei lwyddiant yn ennill y contract.

Datblygiad personol i Thanos

Trwy ei brofiad fel unigolyn cyswllt KTP, mae Thanos wedi elwa o ddatblygiad personol a phroffesiynol.

Dywedodd:

“Cefais oruchwyliaeth dda gan academyddion blaenllaw yn y maes – mae gennych fynediad at yr hyfforddiant, cynadleddau, gweithdai ac ymarferwyr academaidd gorau.

Fe wnes i hefyd ddatblygu agwedd gadarnhaol ac rydw i bellach yn gallu mynd i’r afael â phroblemau amrywiol.”

Rhagor o wybodaeth am KTPs

 Nod y cynllun KTP yw helpu busnesau’r DU i arloesi a thyfu trwy eu cysylltu gydag ymchwil neu’r byd academaidd.

Caiff myfyriwr graddedig ei recriwtio gan yr academydd neu bartner ymchwil. Bydd y myfyriwr yn gweithio gyda’r cwmni am gyfnod rhwng 12 a 36 mis, yn edrych ar brosiect arloesi strategaethol penodol.

Dywedodd Thanos:

“Fy nghyngor i fusnesau fyddai edrych ar lwyddiant prosiectau eraill.

“Os oes gennych broblem, gallwch gael mynediad dan nawdd at arbenigwyr ac academyddion o’r radd flaenaf, rydych yn recriwtio person sy’n addas i’r cwmni i ymdrin â’r broblem, rydych yn trosglwyddo’r wybodaeth yn fewnol ac mae gennych y cyfle i gadw’r person. Mae’r manteision yn amlwg.”

Rhagor o wybodaeth am KTPs gan gynnwys sut i wneud cais.

 

Cafodd y bartneriaeth gefnogaeth ariannol gan raglen Partneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth (KTP).

Nod Partneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth yw helpu busnesau i wella eu cystadleurwydd a’u cynhyrchiant trwy wneud defnydd gwell o’r wybodaeth, technoleg a sgiliau o fewn sylfaen wybodaeth y DU.

Mae’r KTP, sydd wedi ariannu gan Ymchwil ac Arloesedd y DU trwy Arloesedd y DU, yn rhan o Strategaeth Ddiwydiannol y llywodraeth.