Skip to main content

PartneriaethauPobl

Y wyddoniaeth y tu ôl i sganiwr technoleg arloesol ym maes awyr Caerdydd

20 Rhagfyr 2018

Mae sganiwr teithwyr tra-sensitif, sy’n datgelu bygythiadau cuddiedig, wedi’i dreialu ym Maes Awyr Caerdydd. Mae’r ddyfais, y gellir cerdded drwyddi, yn defnyddio technoleg y gofod i greu delwedd o wres corff dynol. Ffrwyth partneriaeth rhwng Sequestim Ltd a gwyddonwyr Prifysgol Caerdydd yw’r ddyfais. Gall wahaniaethu rhwng yr hyn sy’n fygythiad ai peidio, a hynny heb fod angen i deithwyr gadw’n llonydd neu dynnu eu dillad uchaf.

Dyma esboniad Ken Wood, Cyfarwyddwr Gwerthiant a Marchnata Sequestim, am y wyddoniaeth arloesol y tu-ôl i’r sganiwr. 

“Rydym i gyd yn gwybod sut beth yw hi mewn meysydd awyr y dyddiau hyn, sefyll mewn ciw hir, tynnu cotiau a siacedi, gwregysau, watshis, ffonau, cyn cael ein stopio a’n chwilio yn aml wedyn, wrth i ni fynd drwy’r sganiwr. Mae’n brofiad araf ac, i fod yn onest, yn un eithaf annifyr hefyd, ond rydym yn goddef y fath brofiad gan ein bod yn gwybod pa mor bwysig yw hyn yn yr oes sydd ohoni. Rydym o’r farn y bydd y ddyfais newydd yn newid hynny.

“Mae ein camera yn datgelu ymbelydredd ton-milimetr (sy’n cael ei alw hefyd yn terahertz). Mae hyn yr un peth â golau ond â thonfedd milwaith yn fwy na’r math a welwn gyda’n llygaid.

“Yr hyn sy’n ddiddorol am “olau” terahertz yw ei fod yn symud yn effeithlon drwy ddeunydd fel papur, plastig a chardfwrdd. Yn ogystal, mae’n symud drwy holl ddeunydd dillad cyffredin, sy’n ein galluogi i weld golau terahertz a allyrrir gan haenen groen y corff dynol. Bydd unrhyw eitemau sydd wedi’u cuddio o dan y dillad, ni waeth beth yw eu deunydd, i’w weld yn glir fel cysgod. Felly, mae’r corff dynol yn gweithredu fel bwlb gan ei fod ychydig cynhesach na’r hyn sydd o’i amgylch.

“Mae ein camera yn arbennig o sensitif – gall ddatgelu llai nag un mil miliwn miliynfed Watt o bŵer mewn un eiliad!

“Mae ein picseli camera yn ddyfeisiau gor-ddargludo sy’n gweithredu ar dymheredd oerach nag y gellir ei ddychmygu – dim ond chwarter gradd uwchlaw sero absoliwt (felly, minws 272.9C.) Fe’u dyfeisiwyd gan aelod o’n tîm, yn wreiddiol i’w defnyddio ym maes seryddiaeth. Mae eu sensitifrwydd uchel yn golygu eu bod yn amhrisiadwy wrth arsylwi ar rai o’r gwrthrychau mwyaf pellennig yn y bydysawd y gellir eu gweld, gwrthrychau â signal hynod o wan.

“Mae gan ein tîm ym Mhrifysgol Caerdydd hefyd ffyrdd unigryw o greu’r amodau perffaith ar gyfer sensitifrwydd y synhwyrydd. Rydym yn defnyddio ein technoleg hidlo ein hunain sydd o’r radd flaenaf, ac mae’n gwneud yn siŵr nad yw’r synwyryddion yn cael eu dallu gan ymbelydredd ar donfeddi nas dymunir.

“Yn ogystal, mae’r camera’n defnyddio technoleg oeri a gafodd ei datblygu hefyd gan ein tîm, er mwyn cynnal tymheredd hynod isel y datgelydd yn barhaus gan beiriant sydd arno angen pŵer trydanol yn unig. Nid yw ein camera’n defnyddio cryogenau hylif megis nitrogen a heliwm wrth ei ddefnyddio. At hynny, gallwn reoli’r camera o bell ar y rhyngrwyd. I ddefnyddio ymadrodd cyfoes, mae hi’n ddyfais ‘plygio a chwarae’ go iawn.

“Mae pobl i weld yn ddisglair iawn ar donfeddi milimetr. Nid yw hynny’n beth amlwg, oherwydd ni all y llygad dynol weld y math hwnnw o ymbelydredd. Nid oedd yn amlwg i’n tîm ychwaith y gallai’r synwyryddion hyn fod yn effeithiol wrth edrych ar wrthrychau ar dymereddau ystafell fel pobl, sydd tua miliwn gwaith yn fwy llachar na’r gwrthrychau gwan y cawsant eu dylunio i arsylwi arnynt yn y lle cyntaf.

“Tra bod y synwyryddion wedi cyflawni llawer o waith da ym maes ymchwil seryddiaeth, nid oedd eu gwerth at ddibenion eraill yn glir yn y lle cyntaf.

“Fodd bynnag, pan oeddwn yn mwynhau socian yn y bath un noson, cofiais fod nodwedd arall ddiddorol i’r synwyryddion. Dydyn nhw nid yn unig yn arbennig o sensitif, maen nhw hefyd yn gweithio’n eithaf cyflym, gan ddatgelu newidiadau mewn signalau degau o filoedd o weithiau bob eiliad. Roedd yn ddichonadwy y byddai camera a wnaed o ychydig gannoedd o bicseli yn gallu creu delwedd o wrthrych mawr drwy sganio drosto gyda drych symudol. Galwais nifer o gydweithwyr ynghyd un diwrnod yn 2012 a chyflwyno’r broblem iddynt; a fyddai modd i ni greu delweddau o unigolyn (yn ei gyfanrwydd) o ychydig fetrau i ffwrdd yn unig?

Bu cryn dipyn o grafu pen i ddechrau, ond yn y pen draw penderfynodd y tîm y gallai hynny weithio, a chytunwyd i roi cynnig arni. Gwnaethom greu ein delweddau cyntaf, digon isel o ran safon, ddwy flynedd yn hwyrach yn 2014.

“Roedd pethau wedi gwella ychydig erbyn 2015 ac fe wnaethom ddechrau gwahodd gwyddonwyr y llywodraeth i Brifysgol Caerdydd, er mwyn iddynt weld beth oeddem yn gallu ei wneud. Rhoddodd eu sylwadau a’u hymateb gryn anogaeth i ni.

“Yn 2016, gwnaethom gyflwyno cynnig i wneud astudiaeth fer mewn ymateb i alwad gan lywodraeth y DU am dechnoleg newydd ar gyfer sgrinio teithwyr mewn meysydd awyr. Roeddem yn un o 17 o gynigion y dyfarnwyd cyfnod astudio o chwe mis iddynt (daeth dros 50 o geisiadau i law.)

“Ymhlith yr 17 hynny, rydym yn un o 8 prosiect yn unig i’w ariannu ymhellach ar gyfer prosiectau blwyddyn o hyd i adeiladau a phrofi’r hyn yr oeddem wedi’i ddylunio’n unig yn flaenorol.

“Ein harddangosiadau ym Maes Awyr Caerdydd oedd penllanw’r gwaith hwn, ac wedi dangos nid yn unig y gallwn ddatgelu bygythiadau cuddiedig, ond y gellir gwneud hynny’n effeithiol y tu allan i amgylchedd a reolir mewn labordy.

“Rydym wedi dod ymhell ers fy moment Eureka yn y bath.”