Skip to main content

PartneriaethauPobl

Digwyddiad: Yīn a Yáng: Buddsoddi Heddiw ar gyfer Gwell Yfory – Yr Arglwydd John Bird MBE

22 Tachwedd 2018

Dydd Iau 6 Rhagfyr 2018

18:30 – 20:15

Mae’n bleser gan Sophie Howe, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru groesawu sefydlydd The Big Issue ac aelod o’r meinciau croes, yr Arglwydd Bird MBE, i gyflwyno Darlith Flynyddol Gyntaf Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru.

Fel ymgyrchydd blaengar dros wrthdlodi a chefnogydd brwdfrydig gwaith Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru cyntaf, bydd yr Arglwydd Bird yn siarad am bwysigrwydd mynd i’r afael ag argyfyngau heddiw, yn ogystal â gweithio i atal argyfyngau yfory. Yn seiliedig ar brofiadau bywyd yn amrywio o dlodi i fod yn entrepreneur busnes llwyddiannus, ac o garchar i’r Senedd, bydd yr Arglwydd Bird yn galw am fuddsoddi hirdymor mewn rhaglenni ymyrraeth gynnar ac atal, fel rhan o flaenoriaethau cenedlaethau’r dyfodol ar draws pob maes llunio polisi yn y DU.

Bydd lluniaeth ar gael. Darlith i ddechrau am 19:00.

Cadwch eich lle am ddim nawr