Skip to main content

PartneriaethauPobl

Neges gan Ysgrifennwr Gwadd: Linda Hazzard – Fy siwrnai bersonol o fyw gyda Lewcemia Lymffosytig Cronig (CLL)

8 Tachwedd 2018

Clywais am y Gwobrau Arloesedd ac Effaith gan gymuned ar-lein y Gymdeithas Cefnogaeth ar gyfer Lewcemia Lymffosytig Cronig (CLLSA). Mae’r gymdeithas ar-lein yn rhan o wefan HealthUnlocked.

Fe wnaeth un o’n gweinyddwyr rannu gwybodaeth am y Gwobrau a’n cyfle i bleidleisio dros y prosiect anhygoel hwn ar-lein. Does gen i ddim cysylltiadau â’r Brifysgol, heblaw am y ffaith fy mod i’n nabod sawl un astudiodd yno, ond mae cymhelliant cryf i mi gefnogi TeloNostiX.

Mae cymuned CLLSA wedi bod yn ffynhonnell amhrisiadwy o wybodaeth a chefnogaeth ers i mi ei darganfod sawl blwyddyn yn ôl. Rwy’n difaru i mi beidio â dod o hyd iddi’n gynharach.

Ces i ddiagnosis o CLL ar ddechrau mis Ionawr 2011. Bryd hynny, doeddwn i erioed wedi clywed am y math hwn o ganser.

“Daeth cyfnod brawychus iawn yn sgîl hynny. Dywedon nhw fod gen i ffurf anwelladwy ar Lymffoma nad yw’n Hodgkins. Hefyd, dywedon nhw wrtha i y byddai’r driniaeth yn cynnwys cemotherapi, fyddai’n rhoi rhywfaint o wellhad dros dro, a thrawsblaniad bôn-gelloedd o bosib. Mae’n gam eithafol, ond gallai bron â gwella’r salwch. Gallai fod wedi bod yn addas i mi achos roeddwn i’n gymharol ifanc ac iach ar gyfer y math hwn o glefyd (56 oed oeddwn i ar y pryd).

Roeddwn i’n tybio y byddai’r driniaeth yn dechrau cyn gynted â phosibl, fel sy’n digwydd ar gyfer mathau eraill o ganser. Ond ces i ar ddeall nad dyna’r hyn sy’n digwydd ar gyfer CLL. Dyw’r arbenigwyr ddim yn ystyried triniaeth gynnar yn fuddiol achos ei bod yn disbyddu’r nifer cyfyngedig o opsiynau triniaeth yn rhy fuan.

Dywedodd y haematolegydd nad oedd modd gwybod pryd y byddai’n rhaid i mi ddechrau’r driniaeth, gan fod datblygiad y clefyd yn wahanol i bob person. Mae rhai pobl yn marw gyda’r clefyd yn hytrach nag o’i herwydd.

Felly, ‘Gwylio ac Aros’ oedd y cynllun, gydag apwyntiadau haematoleg bob tri mis er mwyn monitro fy ngwaed a fy nodau lymff. Hefyd, ces i fiopsi o fêr fy esgyrn er mwyn gweld y lefel ymdreiddiad i’r mêr.

Ar ôl sawl blwyddyn gydag apwyntiadau bob tri mis, gwelodd y meddygon fod datblygiad y clefyd wedi arafu rywfaint. Felly ces i apwyntiadau bob chwe mis a bellach rwy’n cael apwyntiad unwaith y flwyddyn, sy’n wych.

Ond ar ddiwedd pob apwyntiad, mae’r ymgynghorydd wastad yn dweud: ‘os oes unrhyw beth yn newid (nodau lymff mwy, chwysu yn y nos, colli pwysau’n anfwriadol, ac ati) cysylltwch â ni’n syth. Peidiwch ag oedi tan yr apwyntiad nesaf sydd wedi’i drefnu.’

Felly, er fy mod yn berson positif a hapus iawn, mae pryder yng nghefn fy meddwl y gallai’r clefyd droi’n falaen unrhyw bryd.

Yn y diwrnodau cynnar, llawn pryder, ar ôl cael y diagnosis, roeddwn i’n teimlo bod yn rhaid i mi wneud rhai penderfyniadau pwysig ynglŷn â fy ffordd o fyw a gweithio, yn y gobaith o wella’r tebygolrwydd o fyw’n hirach.

Treuliais i gryn amser ar Google, yn arbennig yn chwilio am wybodaeth ynghylch disgwyliad oes. Mae pawb yn gwneud hyn wrth gwrs, dw i wedi dod i ddeall.  Roedd yn frawychus i’w ddarllen. Felly bryd hynny, fyddwn i byth wedi dychmygu fy hun yn gymharol iach, saith mlynedd yn hwyrach!  Rwy’n credu bod y newidiadau a wnes i o ran fy ffordd o fyw wedi fy helpu, mwy na thebyg.

Ond byddai popeth wedi bod cymaint, cymaint gwell pe gallwn i fod wedi cael gwybodaeth fwy cywir ynghylch fy mhrognosis o’r dechrau cyntaf, fel mae’n ymddangos y gallai’r prosiect TeloNostiX ei gynnig yn y dyfodol.

Gall y prawf ragweld canlyniadau mathau cyffredin o ganser, fel canser y fron a Lewcemia Lymffositig Cronig (CLL). Mae’n seiliedig ar ddadansoddi hyd telomerau – capiau sydd ym mhennau cromosomau sy’n amddiffyn gwybodaeth genetig rhag niwed.

Pe gallwn i fod wedi gwybod canlyniad y canser ar y pryd, ni fyddai’n rhaid i mi fod wedi pryderu am saith mlynedd o leiaf. Felly, roeddwn i wrth fy modd i TeloNostiX ennill ‘Dewis y Bobl’, ac i mi ennill gwobr hefyd yn y gystadleuaeth cyfryngau cymdeithasol. Yn wir, mae’r cyhoeddusrwydd yn amlygu gwaith pwysig Prifysgol Caerdydd i wella bywydau pobl yn y dyfodol.