Skip to main content

PartneriaethauPobl

Cynnwys Astudiaeth – Qioptiq

11 Hydref 2018

Mae arbenigedd Prifysgol Caerdydd wedi helpu cwmni yng ngogledd Cymru i ennill cytundeb amddiffyn gwerth £82m, gan greu a diogelu swyddi.

Mae arbenigwyr o Ysgol Busnes Caerdydd wedi treulio dwy flynedd yn datblygu cyfarpar i wella gweithrediadau rhagfynegi stocrestrau Qioptiq, sydd wedi’i leoli yn Ninbych.

Bu’r cydweithio a’r arbenigedd yn help i’r cwmni i sicrhau cytundeb chwe blynedd gyda’r Weinyddiaeth Amddiffyn (MOD) i roi gwasanaeth i offer gweld yn y tywyllwch.

Ac mae hyn wedi arwain at adeiladu warws newydd Qioptiq, gwerth £3.7m y drws nesaf i ffatri bresennol Qioptiq ym Mharc Busnes Llanelwy.

Roedd yr astudiaeth yn bosibl o ganlyniad i Bartneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth (KTP) a gyd-ariennir gan Lywodraeth CymruCyngor Ymchwil y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg ac Innovate UK.

Galluogodd y KTP, sy’n arbenigo mewn rhagfynegi gweithrediadau busnes di-wastraff, i Gydymaith trosglwyddo gwybodaeth, Thanos Goltsos, weithio’n uniongyrchol gyda Qioptiq o dan oruchwyliaeth dau o Athrawon Ysgol Busnes Caerdydd – Aris Syntetos a Mohamed Naim.

Mae Busnes Cymru wedi cynnwys astudiaeth achos ar Qioptiq ar eu gwefan. Gallwch ddarllen yr astudiaeth achos yma.