Skip to main content

Adeiladau'r campwsPartneriaethauPobl

Arloesedd Trefol

8 Hydref 2018

Aeth yr Athro Rick Delbridge a’r Athro Kevin Morgan ar ymweliad â Chanada i archwilio rôl newidiol prifysgolion a dinasoedd mewn rhwydweithiau arloesedd trefol.

Mae dinasoedd Ottawa a Toronto yn ceisio datblygu ‘platfform arloesedd trefol’, sy’n cynnwys amrywiaeth o sefydliadau yn gweithio gyda’i gilydd i greu ‘ecosystem arloesedd’ lleol.

Mae ecosystem arloesedd yn disgrifio’r nifer fawr o gyfranogwyr ac adnoddau sydd eu hangen i arloesi, a’u natur amrywiol.

Ewch draw i flog yr Ysgol Busnes i ddarllen am ymweliad Rick a Kevin a systemau arloesedd.

Arloesedd trefol yng Nghanada: rhai gwersi

Yr Athro Rick Delbridge yw Deon Ymchwil, Arloesedd a Menter y Brifysgol ac Arweinydd Academaidd y Parc Ymchwil Gwyddorau Cymdeithasol arfaethedig.

Yr Athro Kevin Morgan yw Deon Ymgysylltu’r Brifysgol.