Skip to main content

PartneriaethauPobl

Neges gan Ysgrifennwr Gwadd – Newyddion Bula Batiki

4 Hydref 2018

Mae Callum Drummond yn un o raddedigion Prifysgol Caerdydd a sylfaenydd Bula Batiki, olew cnau coco Ffijieg.

Sefydlodd Callum, ynghyd â’r cyd-sylfaenydd, Ellis Williams y busnes ar ôl gweld pa mor anodd yw cynhyrchu ffrwd incwm ar ynys anghysbell Batiki, tra ar daith wirfoddoli gyda Think Pacific.

Roeddent am wneud rhywbeth a allai helpu’r teuluoedd oedd yn eu cynnal, ac o les i’r ynys gyfan. Ar ôl gweld bod Batiki’n gallu cynhyrchu olew cnau coco, ac yn ymwybodol bod galw mawr am olew cnau coco yn y DU, dechreuodd weithio ar gynlluniau busnes ar unwaith.

Enillodd eu cynllun i gynhyrchu olew cnau coco coeth Wobr Menter Sparks Prifysgol Caerdydd yn 2016, a roddodd £2,000 iddyn nhw allu dechrau’r fenter.

Wrth i mi ysgrifennu hwn, rwyf ar y ffordd i arddangosfa Bwyd Da Awstralia (Fine Food Australia) yn Melbourne i adrodd hanes Bula Batiki yn y gobaith o gynyddu gwerthiant ac agor drysau i farchnad Awstralia.

Rydym wedi bod yn ynys brysur iawn dros y misoedd diwethaf. Er ein bod y treulio’r rhan fwyaf o’n hamser ar yr ynys yn pysgota a ffermio, rydym hefyd wedi bod yn datblygu’n busnes ar yr ynys.

Yn ddiweddar, rydym wedi cael grant sy’n caniatáu inni gael tystysgrifau Organig yr UE a HACCP (Diogelwch Bwyd), a fyddai’n golygu mai ni fydd yr ynys gyntaf nad yw’n breifat yn y Môr Tawel i gael y lefel hon o ardystio. Maent yn cynnal yr archwiliad ar gyfer ein hardystiad yn Batiki yr wythnos hon, felly dylem gael cadarnhad yn fuan ar ôl hynny. Ni yw’r pentref cyntaf yn Fiji gyda chyfleuster prosesu i gael tystysgrif diogelwch bwyd, felly rydym yn ynys hynod falch i gyflawni hyn.

Gan ein bod nawr yn creu pob cam o’r broses olew cnau coco yn Batiki (megis rhoi’r olew mewn jariau ac yna eu labelu, yr oeddem yn arfer gwneud hyn yn y DU), rydym wedi gallu dechrau gwerthu yn Fiji. Mae hyn yn cael effaith enfawr ar ein cymuned gan nad oes raid i ni boeni am gostau morgludo ac amser. Ar ôl cwrdd â hyfforddwr medal aur Olympaidd Fiji, Ben Ryan, a dangos fideo ohono yn cymeradwyo ein jar ar y cyfryngau cymdeithasol, cysylltodd un o brif fanwerthwyr y Môr Tawel (Jack’s of Fiji) â ni er mwyn gwerthu ein cynnyrch ar draws yr ynys. Felly, mae Bula Batiki nawr ar werth yn llawer o gyrchfannau gwyliau gorau Fiji!

Wrth edrych i’r dyfodol, rydym yn gweithio’n agos iawn gyda sefydliad o’r enw ‘Asiantaeth Gofal y Ddaear’ er mwyn datblygu ein sgiliau busnes ar yr ynys, megis rheoli arian a chyfrifeg. Yn ogystal rydym yn gweithio ar ychwanegu cynhyrchion organig ychwanegol (ar hyn o bryd rydym yn ystyried blawd cnau coco, fanila a mêl, o bosibl).

Rydym hefyd wedi derbyn grant i adeiladu cyfleuster prosesu newydd yn Batiki y flwyddyn nesaf, a fydd yn caniatáu i ni gael cyfleusterau cynhyrchu priodol, felly bydd gennym le i gynhyrchu cynhyrchion eraill yn y dyfodol. Er mwyn cael gafael ar yr arian ar gyfer y cyfleuster, roedd yn rhaid inni roi cyflwyniad a dangos lluniadau o’r cyfleuster prosesu yr ydym eisiau ei adeiladu.

Cynhyrchodd ein ffrindiau yn Caukin (enillwyr eraill Spark!) y lluniau anhygoel ar ein cyfer. Roedd yn wych gallu gweithio gyda’n gilydd gan i’r ddau brosiect ddechrau ym Mhrifysgol Caerdydd, ac rydym yn hynod ddiolchgar am yr holl gefnogaeth a gawsom gan Caukin. Rydyn ni nawr yn gobeithio gwneud prosiect cydweithredol i adeiladu’r cyfleuster y flwyddyn nesaf, sy’n hynod o gyffrous!