Skip to main content

Adeiladau'r campwsPartneriaethauPobl

Cynnydd y Campws Arloesedd

13 Medi 2018

Mae hanesion poblogaidd yn tueddu i esbonio arloesedd yn nhermau entrepreneuriaid arwrol – fel Bill Gates, Steve Jobs, James Dyson a’u math – sy’n llwyddo er gwaethaf y rhwystrau o’u blaenau. Er bod rhywfaint o wirionedd yn yr hanesion hynny, maent hefyd yn cyfleu darlun cwbl camarweiniol o’r broses arloesedd. Gan bwyll bach, mae arloesedd yn cael ei gydnabod am yr hyn ydyw – ymdrech cymdeithasol ar y cyd lle mae timau clyfar ac unigolion arwrol yn dod ynghyd. Caiff gwaith tîm clyfar ei gyflawni rhwng gweithwyr a rheolwyr cwmni, drwy gyfrwng cadwyni cyflenwi corfforaethol ac mewn ecosystemau arloesedd rhanbarthol y mae gan brifysgolion rôl allweddol ynddynt.

Mae Walter Isaacson wedi cyfleu’r realiti yn ei lyfr diweddar, The Innovators, lle mae’n dangos mai “creadigrwydd cydweithredol” yw sylfaen arloesedd llwyddiannus. “Mae cydweithio’n hanfodol oherwydd ni all yr un sefydliad obeithio amsugno’r holl wybodaeth sydd ei hangen i greu technolegau, cynnyrch neu wasanaethau newydd. Mae angen ymddiriedaeth i feithrin cydweithrediad, ased anniriaethol a gwerthfawr, ond sy’n rhad ac am ddim. Rhaid ennill ymddiriedaeth drwy gyflawni ymrwymiadau i bartneriaid, ac mae hynny’n cymryd amser, amynedd a dealltwriaeth.

Yn syml, mae cysylltiadau lle ceir ymddiriedaeth lwyr yn amhrisiadwy. Maent yn arbed amser ac arian, ac mae’n galluogi dysgu cyflym, am fod partneriaid ymddiriedaeth uchel yn fwy parod i rannu gwybodaeth a dealltwriaeth.”

Go debyg fod creadigrwydd cydweithredol ac ymddiriedolaeth gymdeithasol yn ymddangos fel gosodiadau disylwedd, ond maent yn ganolog i’r feddylfryd wnaeth esgor ar Arbenigo Craff – polisi arloesedd rhanbarthol newydd yr UE – sy’n hyrwyddo arloesedd fel ymdrech gymdeithasol ar y cyd. Mae’n ofynnol i bob rhanbarth sy’n gobeithio defnyddio Cronfeydd Strwythurol Ewrop gael strategaeth Arbenigo Craff, ac nid yw Cymru’n eithriad.

“Mae Arbenigo Craff yn galw ar brifysgolion, y gymuned fusnes a sefydliadau cymdeithas sifil i fod ar yr un lefel â llywodraethau rhanbarthol wrth gynllunio a darparu prosiectau arloesedd. Sut mae Arbenigo Craff yn mynd rhagddo yng Nghymru? Er ei bod yn rhy gynnar o hyd i ddweud, mae’r cwestiwn yn hanfodol am fod prifysgolion yn ddiweddar wedi lansio ffrwd o gampysau arloesedd i oresgyn y broblem draddodiadol o “seilos gwyddoniaeth”, lle mae canlyniadau ymchwil yn parhau i gael eu cadw mewn labordai prifysgol, heb gael eu trosi’n gynnyrch ac yn wasanaethau arloesol.

Un o’r prosiectau campws cyntaf i’w ariannu gan y rhaglen Cronfeydd Strwythurol bresennol yng Nghymru oedd Campws Arloesedd a Thrylediad Prifysgol Aberystwyth yng Ngogerddan a gostiodd £35m. Fe gyfrannodd yr UE £20m o’r arian hwn. Mae Prifysgol Bangor wedi buddsoddi tua £45 miliwn yn Pontio, ei Chanolfan Celfyddydau ac Arloesedd newydd; tra bod Prifysgol Abertawe, yn ôl pob sôn, yn buddsoddi £450 miliwn yng Nghampws y Bae er mwyn lansio cydweithrediadau â chwmnïau o fri fel Rolls Royce, Tata a BP.

O dan faner System Arloesedd Caerdydd, mae Prifysgol Caerdydd wedi lansio’r strategaeth ymchwil ac arloesedd fwyaf uchelgeisiol yn ei hanes. Yn dilyn lansiad llwyddiannus Canolfan Ymchwil Delweddu’r Ymennydd Prifysgol Caerdydd (CUBRIC), mae prosiectau arloesedd ychwanegol yn mynd rhagddynt, gan gynnwys: Canolfan Arloesedd newydd i hyrwyddo creadigrwydd cydweithredol sy’n cadw at ysbryd Arbenigo Craff. Bydd y Cyfleuster Ymchwil Drosiadol yn cynnwys cenhedlaeth newydd o sefydliadau ymchwil y Brifysgol: Sefydliad Catalysis Caerdydd, sy’n datblygu prosesau catalytig newydd â byd diwydiant ac yn hybu defnydd o gatalysis fel technoleg gynaliadwy ar gyfer y 21ain ganrif; a’r Sefydliad Lled-ddargludyddion Cyfansawdd, sydd â’r nod o sicrhau bod Caerdydd yn arwain Ewrop ym maes lled-ddargludyddion cyfansawdd, ac yn cynnig cyfleusterau o’r radd flaenaf sy’n helpu ymchwilwyr a byd diwydiant i gydweithio. Yn SPARK, parc gwyddorau cymdeithasol cyntaf y byd, bydd ymchwilwyr yn gweithio ar yr un safle â phartneriaid yn y sectorau cyhoeddus a phreifat a’r trydydd sector i archwilio arloesedd technolegol a chymdeithasol.

Mae System Arloesedd Caerdydd – buddsoddiad o £300 miliwn i gyd – yn adnodd ar gyfer Cymru a thu hwnt. Mae’n denu talent rhyngwladol a buddsoddiadau Ymchwil a Datblygu fel Horizon 2020 a’i olynydd, Horizon Europe. Nod y campws yw adeiladu pontydd rhwng Ysgolion a disgyblaethau o fewn y Brifysgol, gan ddarparu lleoedd i ymchwilwyr ymgysylltu’n rheolaidd â busnes a chymdeithas sifil. Gallai creadigrwydd cydweithredol fod yn arwyddair da ar ei gyfer.

Canolfan Arloesedd Clwyfau Cymru yw’r enghraifft orau o greadigrwydd ar y cyd yng Nghymru. Hon yw canolfan iacháu clwyfau gyntaf y byd ac mae wedi deillio o’r Uned Ymchwil Iacháu Clwyfau ym Mhrifysgol Caerdydd o dan arweiniad yr Athro Keith Harding. Nid oes gwell enghraifft o greadigrwydd cydweithredol yng Nghymru na’r Ganolfan Arloesedd Clwyfau Cymru, y ganolfan genedlaethol gyntaf yn y byd ar gyfer gwella clwyfau. Cafodd y Ganolfan ei chreu yn 2014 i ddarparu arweinyddiaeth ar gyfer atal a gwella clwyfau yng Nghymru, ac mae wedi bod o werth diamheuol i Gymru ac i’r GIG nid yn unig drwy gyfrwng ei chyfraniadau clinigol, ond hefyd yn sgîl buddsoddiad mewnol sydd eisoes wedi creu dros 80 o swyddi newydd. Fel sefydliad sydd ar flaen y gad o ran arloesedd clinigol yng Nghymru, y Ganolfan yw’r unig gorff sy’n cysylltu’r GIG, ymchwilwyr academaidd ym Mhrifysgolion Caerdydd ac Abertawe, a sefydliadau masnachol.

At ei gilydd, mae hyd at £1 biliwn yn cael ei fuddsoddi yng nghampysau arloesedd Cymru. Petai buddsoddwr o dramor yn buddsoddi’r swm hwn, byddai’n cael cryn sylw gan y BBC ac eraill. Efallai ei bod yn bryd i’r cyfryngau ddeffro a sylweddoli bod campws y brifysgol ymhell o fod yn dŵr ifori, ond yn hytrach yn ymwneud i raddau helaeth â mynd i’r afael ag arloesedd cymdeithasol yn ogystal â thechnolegol.

Mae Kevin Morgan yn Athro Llywodraethu a Datblygu yn yr Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio, Prifysgol Caerdydd, lle mae’n Ddeon Ymgysylltu.