Skip to main content

Phoenix Project

Rhannu profiadau: Y sefyllfa ieithyddol yn Namibia ac yng Nghymru / Sharing experiences: The linguistic situation in Namibia and in Wales.

18 September 2015

Blog Post Author: Dr Jonathan Morris (from the School of Welsh)

Yn y cofnod blog hwn, mae Dr Jonathan Morris o Ysgol y Gymraeg yn rhannu ei brofiadau o fod yn rhan o daith ddiweddar y Prosiect Phoenix i Windhoek…

In this blog post, Dr Jonathan Morris from the School of Welsh shares his experiences of being part of the Phoenix Project’s recent trip to Namibia (English below)…

 

Ymwelais âPhrifysgol Namibia ddechrau mis Gorffennaf er mwyn trafod prosiect posibl ar ieithoedd lleol. Rwy’n gweithio fel darlithydd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol mewn ieithyddiaeth ac yn arbenigo mewn sosioieithyddiaeth a dwyieithrwydd. Mae hynny’n golygu bod gennyf ddiddordeb mewn sut y cynhyrchir ieithoedd gan grwpiau gwahanol o siaradwyr dwyieithog a sut y defnyddir ieithoedd mewn gwahanol sefyllfaoedd.

Rwyf wedi gweithio ar ddwyieithrwydd yng ngorllewin Ewrop yn gyffredinol, ac ar ddwyieithrwydd Cymraeg-Saesneg yn benodol. Profiad hollol newydd, felly, oedd teithio 5245 milltir i Namibia lle y siaredir dros 20 o ieithoedd lleol! Yn ogystal âhyn, fe ddewiswyd y Saesneg fel yr unig iaith swyddogol ym 1990 ac, ers hynny, mae’r iaith wedi disodli’r Affricaneg mewn nifer o feysydd megis addysg.

Mae llawer o wledydd yn amlieithog yn swyddogol ond nid yw hyn yn golygu bod y boblogaeth yn amlieithog. Syndod mawr, felly, oedd gweld pa mor normal yw amlieithrwydd yn Windhoek. Mae llawer o’r trigolion, o ganlyniad i hanes y wlad a mewnfudo i’r brifddinas, yn gallu siarad iaith Affricanaidd frodorol, yr Affricaneg, y Saesneg ac efallai’r Almaeneg. Yn aml clywais bobl yn trafod eu gwaith âchydweithwyr yn y Saesneg, yn troi i’r Affricaneg yn ystod amser cinio ac wedyn yn cyfarch ffrind o’r un ardal yn Oshiwambo neu Otjiherero.

Er gwaethaf hyn, mae nifer o bobl yn pryderu am ddyfodol yr ieithoedd Affricanaidd. Treuliais yr wythnos yng nghwmni academyddion o UNAM a chynrychiolwyr o wahanol adrannau yn y llywodraeth a’r system addysg sy’n gweithio ar yr ieithoedd hyn. Maent yn pryderu bod shifft i’r Saesneg yn digwydd mewn rhai ardaloedd gan fod pobl yn gweld y Saesneg fel iaith urddasol a chan nad oes digon o adnoddau i gefnogi’r defnydd o’r ieithoedd Affricanaidd. Fe welwyd shifft ieithyddol mewn mannau o Gymru, wrth gwrs, ac roedd diddordeb mawr ganddynt glywed am hanes dwyieithrwydd Cymraeg-Saesneg a sut y cefnogir y Gymraeg ar hyn o bryd.

Yn y dyfodol, byddwn yn parhau i weithio gyda’n gilydd er mwyn rhannu profiadau o hyrwyddo ieithoedd a cheisio deall y sefyllfa ieithyddol yn Namibia’n well. Ceir nifer o ddadleuon dros hyrwyddo unrhyw iaith leiafrifol neu frodorol o safbwynt diwylliannol ond, yn bwysicach fyth, rhaid deall sut y gall ymagweddau negyddol tuag at rai ieithoedd arwain at deimladau o israddoldeb a diffyg hyder ymhlith eu siaradwyr.

I visited UNAM at the start of July in order to discuss a possible project on local languages. I work as a Coleg Cymraeg Cenedlaethol lecturer in linguistics and specialise in sociolinguistics and bilingualism. This means that I have an interest in how languages are produced by different groups of bilingual speakers, and how languages are used in various situations.

I have worked on bilingualism in western Europe in general, and on Welsh-English bilingualism in particular. It was therefore a completely new experience to travel 5245 miles to Namibia where over 20 local languages are spoken! In addition to this, English was chosen as the only official language in 1990 and, since then, the language has replaced Afrikaans in a number of fields such as education.

A lot of countries are multilingual officially but this does not mean that the population is multilingual. It was therefore a great surprise to see how normal multilingualism is in Windhoek. Many of the residents, as a result of the history of the country and migration to the capital, can speak a native African language, Afrikaans, English, and maybe German. I often heard people discussing work with colleagues in English, turning to Afrikaans at lunchtime, and greeting a friend from the same area in Oshiwambo or Otjiherero.

Despite this, a number of people are concerned about the future of the African languages. I spent the week in the company of academics from UNAM and representatives from various departments in the government and education system who work on these languages. They are concerned that a shift to English is happening in some areas as people see English as a prestigious language and as there are not enough resources to support the use of the African languages. A language shift was seen in parts of Wales, of course, and they were very interested to hear about the history of Welsh-English bilingualism and how the Welsh language is supported at the moment.

In the future, we will continue to work together to share experiences of promoting languages and to try to better understand the linguistic situation in Namibia. There are a number of arguments for promoting any minority or native language from a cultural perspective but, more importantly, we have to understand how negative attitudes towards some languages can lead to feelings of inferiority and a lack of confidence among their speakers.

 

Trafod manylion y prosiect (llun gan Paul Crompton)   Discussing the details of the project (photo by Paul Crompton)

Trafod manylion y prosiect (llun gan Paul Crompton)  / Discussing the details of the project (photo by Paul Crompton).

 

Diwrnod braf ar gampws UNAM (llun gan Jon Morris)! - A lovely day on the UNAM campus (photo by Jon Morris)!

Diwrnod braf ar gampws UNAM (llun gan Jon Morris)! / A lovely day on the UNAM campus (photo by Jon Morris)!

 

Ymweliad â NAMCOL lle y cynigir cyrsiau mewn wyth o’r ieithoedd lleol (llun gan Jon Morris) - Visit to NAMCOL where courses are offered in eight of the local languages (photo by Jon Morris).

Ymweliad â NAMCOL lle y cynigir cyrsiau mewn wyth o’r ieithoedd lleol (llun gan Jon Morris) / Visit to NAMCOL where courses are offered in eight of the local languages (photo by Jon Morris).