Skip to main content

Uncategorized @cy

Pum Peth i’w gwneud yng Nghaerdydd ar ôl graddio

13 Gorffennaf 2016

Fel myfyrwyr ym Mhrifysgol Caerdydd, mae’n debyg i chi adnabod pob twll a chornel o strydoedd Cathays bellach. Rydyn ni oll yn adnabod Cathays er gwell, er gwaeth. Ar y diwrnodau braf, a phawb ar eu ffordd gyda diod yn eu llaw i ymlacio ym Mharc Bute. Ar y diwrnodau diflas o lawiog hynny a ninnau’n ymlwybro i ddarlith ddiflas. Ond un peth sy’n sicr gyda’n cyfnod ni fel myfyrwyr Prifysgol Caerdydd yn dirwyn i ben – faswn i ddim yn newid unrhyw beth am y byd.
Hwyrach y byddwch chi’n dymuno dychwelyd i Gaerdydd yn y dyfodol i ailymweld â dinas eich Prifysgol, neu hwyrach bod gennych frawd neu chwaer sy’n ystyried dod i Gaerdydd. Waeth beth fo’r achlysur, dyma bum peth i’w gwneud sy’n unigryw i brifddinas Cymru:

  1. Castell Caerdydd – Gwnewch yn saff eich bod yn ymweld â chastell Caerdydd o leiaf un waith pan gewch chi gyfle. Mae’r castell wedi bod yn ganolbwynt i ddinas Caerdydd ers canrifoedd, ac mae ffos y castell yn nodweddiadol ym Mharc Bute. A dyna arwain at…
  2. Parc Bute – Mae mwy i Barc Bute na chaeau mawr gwag a gaiff eu llenwi bob hyn a hyn pan fo’r haul yn dangos ei wyneb, a pawb yn heidio yno i dorheulo. Mae’r bont ger Caeau Pontcanna’n werth ei gweld, ac mae’r bwystfil sy’n codi ei ben i sbecian ar drigolion y parc yn ddigon i ddychryn rhywun fin nos a hithau’n tywyllu.
  3. Y Bae – Os ydych chi awydd pryd o fwyd mewn bwyty moethus, neu awydd crwydro o amgylch y dociau, mae Bae Caerdydd yn lle arbennig i gael seibiant oddi wrth bwrlwm a phrysurdeb y ddinas.
  4. Canolfan y Mileniwm – Eto, ym Mae Caerdydd, mae Canolfan y Mileniwm yn adeilad eithriadol o hardd ac os oes gennych eisiau mynd i weld sioe o safon y West End yn Llundain, dyma’r lle.
  5. Stadiwm y Mileniwm – Mae Gwlad y Gân yn enwog am ei chwaraeon, ac mae Cymry’r ddinas oll yn dod ynghyd ar ddiwrnodau rygbi (a phêl-droed yn ddiweddar!). Os ydych am awyrgylch gêm heb orfod talu’r gost, ewch draw i Stryd y Santes Fair gyda’r dydd, a gyda’r hwyr wedyn, ac mi gewch chi flas o’r awyrgylch unigryw anhygoel hwnnw.

Cadwch lygad am fwy o flogiadau maes o law!