{"id":2166,"date":"2017-05-17T01:21:31","date_gmt":"2017-05-17T01:21:31","guid":{"rendered":"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/globetrotters\/?p=2166"},"modified":"2022-04-13T15:42:49","modified_gmt":"2022-04-13T15:42:49","slug":"quebec-teithio-a-chludiant","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/globetrotters\/quebec-teithio-a-chludiant\/","title":{"rendered":"Qu\u00e9bec: Teithio a Chludiant"},"content":{"rendered":"<p>Bonjour o Qu\u00e9bec,<\/p>\n<p>C\u2019est Elin! Blog mis Mawrth oedd hwn i fod ond rhaid imi gyfaddef, yr oedd mis Mawrth yn brysur iawn imi, a\u2019r rheswm pennaf am hynny oedd oherwydd imi DEITHIO llawer! Felly maddeuwch imi, teitl y blog sydd wedi achosi imi fod yn hwyr yn ei ysgrifennu.<\/p>\n<p>Dyma\u2019r ffyrdd yr ydym ni\u2019n teithio yn Qu\u00e9bec\u00a0:<\/p>\n<ul>\n<li><strong>Co-voiturage :<\/strong> os nad oes gennych chi gar, mi allwch ddefnyddio grwpiau Facebook\/Amigo Express i ddod o hyn i lift. Nid yw fel arfer yn ddrud, a heb gar dyma\u2019r unig ffordd rad o deithio.<\/li>\n<li><strong>Hedfan :<\/strong> y mae pellter yn rhywbeth y mae\u2019n rhaid delio ag o yng Nghanada, y mae dinasoedd ac ardaloedd yn bell o\u2019i gilydd. Y mae Toronto, er enghraifft , 10 awr i ffwrdd o Qu\u00e9bec City. Felly y mae modd hedfan, ond mae hyn yn ddrud. Y mae modd hedfan adref yn rhatach na hedfan o ddinas i ddinas yma weithiau!<\/li>\n<li><strong>Bysys Cyhoeddus :<\/strong> ni ellir ond eu cael mewn dinasoedd fel Montr\u00e9al lle y mae modd hefyd dal y metro.<\/li>\n<li><strong>Tr\u00ean :<\/strong> Y mae dal tr\u00ean yn bosibl. Fodd bynnag, ni ellir ond ei ddefnyddio i fynd o ddinas i ddinas. Yn debyg i Gymru, os nad ydych chi\u2019n archebu tocyn wythnosau o flaen llaw, y mae\u2019r pris yn rhy ddrud.<\/li>\n<li><strong>Taxi-Bws :<\/strong> Cyfuniad o fws a taxi y gellir ei ddarganfod mewn trefi. Y syniad yw eich bod yn galw\u2019r gwasanaeth er mwyn archebu taxi, ond y mae\u2019n rhatach oherwydd eich bod yn rhannu\u2019r taxi ag eraill. Felly, er ei fod yn gyfleus, y mae hefyd yn niwsans gan fod rhaid mynd o amgylch y byd cyn cyrraedd pen eich taith.<\/li>\n<\/ul>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>\u2026.Felly, pam oeddwn i \u2018n hwyr yn \u2018sgwennu\u2019r blog?\u00a0 Wel, ym mis Ionawr mi wnes i brynu car oherwydd wedi darllen yr uchod, gallwch dybio bod bywyd reit anodd heb gar. Wedi edrych ar sawl gar, ffonio amryw arejis a bron a rhoi\u2019r ffidl yn y to, mi ddes i o hyd i\u2019m Honda Civic coch. Dyma rai o hanesion anturiaethau\u2019r car bach :<\/p>\n<ul>\n<li><strong>`faire de la raquette\u2019<\/strong>: Gyrru i Mont-M\u00e9gantic\u00a0 er mwyn \u2018faire de la raquette\u2019 i gyrraedd copa\u2019r mynydd. Yn anffodus, oherwydd yr eira a\u2019r ffaith ei bod hi\u2019n -25, doedd fawr ddim golygfa.<\/li>\n<\/ul>\n<figure id=\"attachment_2167\" aria-describedby=\"caption-attachment-2167\" style=\"width: 321px\" class=\"wp-caption alignnone\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"size-medium wp-image-2167\" src=\"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/globetrotters\/wp-content\/uploads\/sites\/281\/2017\/05\/WA1-321x450.jpg\" alt=\"Mont-M\u00e9gantic\" width=\"321\" height=\"450\" srcset=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/globetrotters\/wp-content\/uploads\/sites\/281\/2017\/05\/WA1-321x450.jpg 321w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/globetrotters\/wp-content\/uploads\/sites\/281\/2017\/05\/WA1-768x1076.jpg 768w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/globetrotters\/wp-content\/uploads\/sites\/281\/2017\/05\/WA1-731x1024.jpg 731w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/globetrotters\/wp-content\/uploads\/sites\/281\/2017\/05\/WA1.jpg 821w\" sizes=\"auto, (max-width: 321px) 100vw, 321px\" \/><figcaption id=\"caption-attachment-2167\" class=\"wp-caption-text\">Mont-M\u00e9gantic<\/figcaption><\/figure>\n<ul>\n<li><strong>UDA\u00a0:<\/strong> Mae fy nhref i 30 munud i ffwrdd o\u2019r UDA, felly un prynhawn pan oeddwn i a\u2019m ffrind yn gwneud fawr ddim mi benderfynasom ni i neidio yn y car a chroesi i Maine\u00a0: anhygoel!<\/li>\n<\/ul>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<ul>\n<li><strong>Parciau Cenedlaethol a Sg\u00efo<\/strong> : edrychwch ar Parc national de la Jacques-Cartier, un o\u2019m hoff lefydd yn y byd.<\/li>\n<\/ul>\n<figure id=\"attachment_2169\" aria-describedby=\"caption-attachment-2169\" style=\"width: 450px\" class=\"wp-caption alignnone\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"size-medium wp-image-2169\" src=\"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/globetrotters\/wp-content\/uploads\/sites\/281\/2017\/05\/WA-2-450x405.jpg\" alt=\"Parc national de la Jacques-Cartier\" width=\"450\" height=\"405\" srcset=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/globetrotters\/wp-content\/uploads\/sites\/281\/2017\/05\/WA-2-450x405.jpg 450w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/globetrotters\/wp-content\/uploads\/sites\/281\/2017\/05\/WA-2.jpg 566w\" sizes=\"auto, (max-width: 450px) 100vw, 450px\" \/><figcaption id=\"caption-attachment-2169\" class=\"wp-caption-text\">Parc national de la Jacques-Cartier<\/figcaption><\/figure>\n<ul>\n<li><strong>Rhyddid\u00a0:<\/strong> gallu gyrru i unrhyw le fel y mynnoch, mynd i siopa bwyd ayyb heb i\u2019r holl beth droi yn strach.<\/li>\n<\/ul>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<ul>\n<li><strong>Pasg:<\/strong> Mi dreuliais i\u2019r Pasg mewn chalet ar lan llyn heb fod yn bell o\u2019r man sg\u00efo enwog, Mont-Tremblant.<\/li>\n<\/ul>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<ul>\n<li><strong>YR EIRA :<\/strong> un noson mi yrrais adref o Qu\u00e9bec City i Saint-Georges pan oedd hi \u2018n bwrw eira rhyw fymryn. Ond, wedi rhyw hanner awr o ddreifio, roedd yr eira ar y briffordd yn rhy drwchus a gorfodwyd imi stopio. Mi ges i fy nychryn i\u2019r byd y noson honno gan fy mod i yn y car ar ben fy hun, a phan wnes i gymryd \u2018sortie\u2019 oddi ar y briffordd, yr oeddwn i bron methu dreifio\u2019r car drwy\u2019r eira. O\u2019r holl brofiadau dwi wedi eu cael yma, y noson honno yw\u2019r gwaethaf!<\/li>\n<\/ul>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<ul>\n<li><strong>TRIP MIS MAWRTH :<\/strong> Mi fyddai\u2019n cael rhyw syniadau weithiau, a dyma\u2019r syniad mwyaf CRAZY dwi wedi ei gael ers bod yma. Yn wir, mor wirion nes fy mod yn cael fy adnabod yn fy ysgol fel Elin-trip-mis-Mawrth. Felly, ai ati i egluro. Yng nghanol mis Mawrth, mi gawsom ni semaine de r\u00ealache fel rhyw hanner tymor. Wedi gorffen gwaith ar y nos Wener, mi wnes i a dau o\u2019m ffrindiau neidio i mewn i\u2019m car, ac off a ni. Ond i ble meddwch chi? Mi wnaethon ni yrru o Saint-Goerges i fyny i Qu\u00e9bec; dal i yrru heibio Rivi\u00e8re-du-Loup a chroesi i New Brunswick; Nova Scotia; dal cwch o Nova Scotia a chroesi i Newfoundland; cyn gyrru ar hyn yr ynys i gyrraedd St. John\u2019s; cyn gwneud yr un daith holl ffordd adref. 4,768km\u00a0 a 10 diwrnod yn ddiweddarach, sawl stop yn Tim Hortons ac mi wnaethon ni ei gwneud hi yn \u00f4l adref just cyn dechrau gwaith ar y dydd Mawrth wedyn. Wrth gwrs, mi wnaethon ni fynd dow dow a stopio mewn gwahanol ardaloedd er mwyn gweld mwy o\u2019r provinces maitimes a threulio tridiau yn St. John\u2019s.\u00a0 Yn wir, yn St. John\u2019s mi aethon ni i Cape Spear, y pwynt mwyaf dwyreiniol yng Ngogledd America.<\/li>\n<\/ul>\n<figure id=\"attachment_2168\" aria-describedby=\"caption-attachment-2168\" style=\"width: 450px\" class=\"wp-caption alignnone\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"size-medium wp-image-2168\" src=\"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/globetrotters\/wp-content\/uploads\/sites\/281\/2017\/05\/Picture1-450x224.png\" alt=\"y daith...\" width=\"450\" height=\"224\" srcset=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/globetrotters\/wp-content\/uploads\/sites\/281\/2017\/05\/Picture1-450x224.png 450w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/globetrotters\/wp-content\/uploads\/sites\/281\/2017\/05\/Picture1-768x382.png 768w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/globetrotters\/wp-content\/uploads\/sites\/281\/2017\/05\/Picture1-1024x509.png 1024w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/globetrotters\/wp-content\/uploads\/sites\/281\/2017\/05\/Picture1.png 1364w\" sizes=\"auto, (max-width: 450px) 100vw, 450px\" \/><figcaption id=\"caption-attachment-2168\" class=\"wp-caption-text\">y daith&#8230;<\/figcaption><\/figure>\n<ul>\n<li>OND BOBL, yr oedden ni dau ddiwrnod yn ychwanegol yn Newfoundland, oherwydd mi gawson ni storm eira yno, y storm waethaf ers 40 blynedd. Yr oedden ni\u2019n gaeth mewn rhyw bentref bach yng nghanol yr ynys gan y gorfodwyd inni stopio oherwydd yr holl eira. Ond, yn ychwanegol at yr eira, cawson ni wyntoedd hyd at 180km yr awr, felly nid oedd ein cwch yn hwylio. Mi dreuliasom ni oriau yn Tim Hortons (fel McDonalds) yn dechrau drysu. Yn wir, nid oedd modd mynd ar yr autoroute gan fod gymaint o eira. Mi gyrhaeddon ni Nova Scotia ar y bore Llun, a gorfodwyd inni ddreifio 15 awr er mwyn cyrraedd adref cyn gwaith ddydd Mawrth. Trip bythgofiadwy!<\/li>\n<\/ul>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>Felly dyma ddiwedd y blog, ac mi wn\u00e2i eich gadael chi gydag un cyngor : Os ewch chi byth i Qu\u00e9bec,\u00a0 prynwch gar ond peidiwch byth a mentro allan mewn eira yng nghanol gaeaf!<\/p>\n<p><strong>\u00a0<\/strong><\/p>\n<p><strong>Dyma rhai o ddywediadau qu\u00e9b\u00e9cois y defnyddiais yn ystod halibal\u0175 ein trip mis Mawrth :<\/strong><\/p>\n<ul>\n<li><strong>Ben Voyons Donc!: What the heck?<\/strong><\/li>\n<li><strong>C\u2019est le fun\u00a0: Mae hynny yn hwyl\/da<\/strong><\/li>\n<li><strong>Il fait frette\u00a0: Mae hi\u2019n freezing!<\/strong><\/li>\n<\/ul>\n<p><strong>\u00a0<\/strong><strong>Dwi\u2019n caru\u2019r iaith yma yn Qu\u00e9bec. Os fynnwch gopi, yr wyf i a&#8217;m disgyblion wedi creu llyfr gyda llawer iawn o ddywediadau qu\u00e9b\u00e9cois wedi eu hegluro yn Saesneg!<\/strong><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Bonjour o Qu\u00e9bec, C\u2019est Elin! Blog mis Mawrth oedd hwn i fod ond rhaid imi gyfaddef, yr oedd mis Mawrth yn brysur iawn imi, a\u2019r rheswm pennaf am hynny oedd [&hellip;]","protected":false},"author":1135,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_jetpack_newsletter_access":"","_jetpack_dont_email_post_to_subs":false,"_jetpack_newsletter_tier_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paywalled_content":false,"_jetpack_feature_clip_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paid_content":false,"footnotes":"","jetpack_publicize_message":"","jetpack_publicize_feature_enabled":true,"jetpack_social_post_already_shared":true,"jetpack_social_options":{"image_generator_settings":{"template":"highway","default_image_id":0,"font":"","enabled":false},"version":2},"jetpack_post_was_ever_published":false},"categories":[269],"tags":[200,228,230,273,229,277],"class_list":["post-2166","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-international-exchange","tag-british-council","tag-canada","tag-english-language-assistant","tag-north-america","tag-quebec","tag-working"],"jetpack_publicize_connections":[],"jetpack_sharing_enabled":true,"jetpack_shortlink":"https:\/\/wp.me\/p4QQbz-yW","jetpack-related-posts":[{"id":1675,"url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/globetrotters\/bwyd-a-diod\/","url_meta":{"origin":2166,"position":0},"title":"Qu\u00e9bec: Bwyd a Diod","author":"Elin Arfon","date":"January 23, 2017","format":false,"excerpt":"Yn gyffredinol, tebyg iawn yw\u2019r bwyd yn Qu\u00e9bec i\u2019r bwyd a gawn ni adref yng Nghymru, bwyd traddodiadol tatws a chig i fwyd tramor sushi a chyri. Ond mae yna tri pheth\u00a0 sy\u2019n angenrheidiol, hanfodol, hynod bwysig s\u00f4n amdanynt: maple syrup, Tim Hortons a poutine. \u00a0 Maple Syrup Mae yna\u2026","rel":"","context":"In &quot;International Placements&quot;","block_context":{"text":"International Placements","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/globetrotters\/category\/international-exchange\/"},"img":{"alt_text":"15698265_10211831578523927_5996140312021138861_n","src":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/globetrotters\/wp-content\/uploads\/sites\/281\/2017\/01\/15698265_10211831578523927_5996140312021138861_n-450x338.jpg?resize=350%2C200","width":350,"height":200},"classes":[]},{"id":2177,"url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/globetrotters\/quebec-diwrnodau-cenedlaethol\/","url_meta":{"origin":2166,"position":1},"title":"Qu\u00e9bec: Diwrnodau Cenedlaethol","author":"Elin Arfon","date":"May 18, 2017","format":false,"excerpt":"Bonjour eto, Y thema y tro hwn : diwrnodau cenedlaethol.\u00a0 Rhaid egluro rhywbeth cyn mynd ati i s\u00f4n am y thema hon. Y mae Qu\u00e9bec yn wahanol iawn i weddill Canada. Yn gyntaf, Ffrangeg yw iaith y dalaith. Yn ail, y mae eu hanes yn wahanol i weddill Canada sy\u2019n\u2026","rel":"","context":"In &quot;International Placements&quot;","block_context":{"text":"International Placements","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/globetrotters\/category\/international-exchange\/"},"img":{"alt_text":"download","src":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/globetrotters\/wp-content\/uploads\/sites\/281\/2017\/05\/download.jpg?resize=350%2C200","width":350,"height":200},"classes":[]},{"id":1672,"url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/globetrotters\/technoleg-a-chyfryngau-cymdeithasol\/","url_meta":{"origin":2166,"position":2},"title":"Qu\u00e9bec: Technoleg a Chyfryngau Cymdeithasol","author":"Elin Arfon","date":"January 23, 2017","format":false,"excerpt":"Felly, dyma gynnig cyntaf ar flogio...a'r teitl...technoleg a chyfryngau cymdeithasol. Gyda llaw, dwi yn Qu\u00e9bec, Canada ar fy mlwyddyn dramor yn dysgu mewn ysgol uwchradd, ac ydy, mae hi'n oer iawn iawn yma!! Ta waeth, yn\u00a0\u00f4l at y pwnc dan sylw. Nid oes fawr ddim yn wahanol o ran technoleg\u2026","rel":"","context":"In &quot;International Placements&quot;","block_context":{"text":"International Placements","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/globetrotters\/category\/international-exchange\/"},"img":{"alt_text":"","src":"","width":0,"height":0},"classes":[]},{"id":2174,"url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/globetrotters\/quebec-am-y-tro-olaf\/","url_meta":{"origin":2166,"position":3},"title":"Qu\u00e9bec, am y tro olaf&#8230;","author":"Elin Arfon","date":"May 19, 2017","format":false,"excerpt":"Salut, Dyma fy mlog olaf wrth imi ddod i ddiwedd fy nghyfnod fel monitrice d\u2019anglais yn Polyvalente Saint-Fran\u00e7ois, Beauceville (Qu\u00e9bec). Fodd bynnag, mi fyddaf yn aros yma dros yr haf er mwyn teithio a pharhau i ymarfer fy Ffrangeg. Dwi\u2019n caru Qu\u00e9bec a dydw i ddim eisiau gadael! Felly, cyn\u2026","rel":"","context":"In &quot;International Placements&quot;","block_context":{"text":"International Placements","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/globetrotters\/category\/international-exchange\/"},"img":{"alt_text":"St. John's, Newfoundland","src":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/globetrotters\/wp-content\/uploads\/sites\/281\/2017\/05\/IMG_7794-450x338.jpg?resize=350%2C200","width":350,"height":200},"classes":[]},{"id":339,"url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/globetrotters\/diwedd-semester-1\/","url_meta":{"origin":2166,"position":4},"title":"Diwedd Semester 1","author":"Elin Jones","date":"February 23, 2015","format":false,"excerpt":"Unwaith eto mae amser wedi hedfan heb i mi sylweddoli! Erbyn hyn dwi adra yn mwynhau 6 wythnos o wiliau cyn dychwelyd i Berlin am yr 2il Semester ar ddechrau mis Ebrill. Ers y blog diwethaf dwi wedi cael lot o brofiadau gwych a dwi\u2019n teimlo fy mod i\u2019n dechrau\u2026","rel":"","context":"In &quot;European Placements&quot;","block_context":{"text":"European Placements","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/globetrotters\/category\/europe\/"},"img":{"alt_text":"","src":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/globetrotters\/wp-content\/uploads\/sites\/281\/2015\/02\/DSCN9402-scaled.jpg?resize=350%2C200&ssl=1","width":350,"height":200,"srcset":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/globetrotters\/wp-content\/uploads\/sites\/281\/2015\/02\/DSCN9402-scaled.jpg?resize=350%2C200&ssl=1 1x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/globetrotters\/wp-content\/uploads\/sites\/281\/2015\/02\/DSCN9402-scaled.jpg?resize=525%2C300&ssl=1 1.5x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/globetrotters\/wp-content\/uploads\/sites\/281\/2015\/02\/DSCN9402-scaled.jpg?resize=700%2C400&ssl=1 2x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/globetrotters\/wp-content\/uploads\/sites\/281\/2015\/02\/DSCN9402-scaled.jpg?resize=1050%2C600&ssl=1 3x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/globetrotters\/wp-content\/uploads\/sites\/281\/2015\/02\/DSCN9402-scaled.jpg?resize=1400%2C800&ssl=1 4x"},"classes":[]},{"id":267,"url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/globetrotters\/267\/","url_meta":{"origin":2166,"position":5},"title":"Ich liebe Berlin","author":"Elin Jones","date":"December 7, 2014","format":false,"excerpt":"\u00a0 Fy enw i ydi Elin Jones, a dwi\u2019n astudio Almaeneg a Cherddoriaeth ym Mhrifysgol Caerdydd. Fel rhan o fy nghwrs mae hi\u2019n orfodol i fi dreulio blwyddyn yn yr Almaen yn gwella fy iaith. Mae hi\u2019n fis Rhagfyr! Sy\u2019n golygu fy mod i\u2019n byw yn Prenzlauer Berg, yn Nwyrain\u2026","rel":"","context":"In &quot;European Placements&quot;","block_context":{"text":"European Placements","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/globetrotters\/category\/europe\/"},"img":{"alt_text":"","src":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/globetrotters\/wp-content\/uploads\/sites\/281\/2014\/12\/Berliner-Dom-scaled.jpg?resize=350%2C200&ssl=1","width":350,"height":200,"srcset":"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/globetrotters\/wp-content\/uploads\/sites\/281\/2014\/12\/Berliner-Dom-scaled.jpg?resize=350%2C200&ssl=1 1x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/globetrotters\/wp-content\/uploads\/sites\/281\/2014\/12\/Berliner-Dom-scaled.jpg?resize=525%2C300&ssl=1 1.5x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/globetrotters\/wp-content\/uploads\/sites\/281\/2014\/12\/Berliner-Dom-scaled.jpg?resize=700%2C400&ssl=1 2x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/globetrotters\/wp-content\/uploads\/sites\/281\/2014\/12\/Berliner-Dom-scaled.jpg?resize=1050%2C600&ssl=1 3x, https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/globetrotters\/wp-content\/uploads\/sites\/281\/2014\/12\/Berliner-Dom-scaled.jpg?resize=1400%2C800&ssl=1 4x"},"classes":[]}],"meta_box":[],"jetpack_featured_media_url":"","_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/globetrotters\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2166","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/globetrotters\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/globetrotters\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/globetrotters\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1135"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/globetrotters\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=2166"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/globetrotters\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2166\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":2170,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/globetrotters\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2166\/revisions\/2170"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/globetrotters\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=2166"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/globetrotters\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=2166"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/globetrotters\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=2166"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}