{"id":217,"date":"2025-12-18T12:53:59","date_gmt":"2025-12-18T12:53:59","guid":{"rendered":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/funded-research-impact\/?p=217"},"modified":"2026-08-03T13:04:14","modified_gmt":"2026-08-03T12:04:14","slug":"wasterebuilt-dull-cylchol-o-drawsnewid-tywod-gwastraff-yn-adnodd-ar-gyfer-yr-amgylchedd-adeiledig","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/funded-research-impact\/cy\/wasterebuilt-dull-cylchol-o-drawsnewid-tywod-gwastraff-yn-adnodd-ar-gyfer-yr-amgylchedd-adeiledig\/","title":{"rendered":"WasteReBuilt: dull cylchol o drawsnewid tywod gwastraff yn adnodd ar gyfer yr amgylchedd adeiledig"},"content":{"rendered":"<h3>Concrit yw&#8217;r deunydd adeiladu a ddefnyddir mwyaf eang yn y byd, ond mae un o\u2019i gynhwysion allweddol yn dod yn adnodd naturiol cynyddol werthfawr. Ar wah\u00e2n i dd\u0175r, tywod adeiladu addas yw&#8217;r adnodd naturiol a echdynnir fwyaf, gyda&#8217;r galw byd-eang yn parhau i gynyddu. Felly, mae dod o hyd i opsiynau eraill sy\u2019n lleihau gwastraff ac yn diogelu adnoddau naturiol yn dod yn her bwysig i\u2019r diwydiant adeiladu.<\/h3>\n<p>Wedi\u2019u cefnogi gan Gyfrif Cyflymu Effaith (IAA) Cyngor Ymchwil Peirianneg a&#8217;r Gwyddorau Ffisegol Prifysgol Caerdydd, mae <strong>Dr Riccardo Maddalena<\/strong>, Uwch-ddarlithydd Peirianneg Sifil, a Joseph Pugh, Cydymaith Ymchwil Peirianneg Sifil, wedi bod yn ymchwilio i ganfod a all tywod ffowndri gwastraff ffowndri o\u2019r diwydiant metel bwrw ddisodli tywod newydd mewn concrit mewn ffordd ddiogel.<\/p>\n<p>Drwy weithio\u2019n agos gyda phartneriaid yn y diwydiant, mae\u2019r prosiect hwn yn helpu i ddangos y ffordd y gall deunyddiau gwastraff gefnogi economi fwy cylchol wrth leihau tirlenwi a diogelu adnoddau naturiol gwerthfawr.<\/p>\n<figure id=\"post-218 media-218\" class=\"image align-none\"><img decoding=\"async\" src=\"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/funded-research-impact\/wp-content\/uploads\/sites\/684\/2025\/12\/WasteReBuilt-Stok-Images.jpg\" alt=\"\" \/><\/figure>\n<p>Nod WasteReBuilt oedd dangos y gall tywod ffowndri gwastraff o\u2019r diwydiant metel bwrw ddisodli tywod gwyryf mewn concrit, gan leihau defnydd o safleoedd tirlenwi a diogelu adnoddau naturiol. Edrychodd y prosiect ar ymarferoldeb defnyddio hyd at 100% tywod gwastraff, gan herio\u2019r safonau presennol sy\u2019n caniat\u00e1u 30% yn unig.<\/p>\n<p>Gwnaethon ni nodweddu tywod gwastraff, cynhyrchu a phrofi cymysgeddau concrit, ac asesu gwydnwch ac effaith amgylcheddol. Rhannwyd canlyniadau mewn cynadleddau cenedlaethol a rhyngwladol, gan gynnwys y prif gyflwyniad yn y Gynhadledd Ryngwladol gyntaf ar Dywod Ffowndri a Ddisbyddwyd ym Mrasil yn 2025, a chawson nhw eu cynnwys yng nghyfryngau\u2019r diwydiant.<\/p>\n<p>Gwnaeth gweithdy gyda phartneriaid yn y diwydiant \u2013 gan gynnwys Weir Ltd, Cemex, MPA, Knights Brown ymhlith eraill \u2013 hwyluso\u2019r broses o drosglwyddo technoleg. Mae un papur wedi cael ei gyhoeddi mewn cyfnodolyn ac mae un arall yn y wasg. Sicrhaodd y prosiect hefyd ysgoloriaethau PhD a ariennir ar y cyd i ddatblygu\u2019r dechnoleg.<\/p>\n<p>Gwnaeth cyllid gan IAA alluogi profion cysyniad, ymgysylltiad \u00e2\u2019r diwydiant a gwelededd mewn digwyddiadau allweddol. Mae&#8217;r prosiect hefyd wedi elwa ar gyllid Partneriaethau Cyfnewid Gwybodaeth IAA. Cyflymodd hyn yr effaith drwy brawf ar safle yn y byd go iawn ac ymgysylltiad \u00e2\u2019r diwydiant.<\/p>\n<p>Mae\u2019r camau nesaf yn cynnwys symud i fyny i TRL6-7 drwy gyllid gan Innovate UK a\u2019r UE, gan ddylanwadu ar bolisi drwy weithdai i randdeiliaid, a chyhoeddi canfyddiadau er mwyn cefnogi astudiaeth achos y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil. Nod y t\u00eem yw denu buddsoddiad busnes ac integreiddio egwyddorion yr economi gylchol yn safonau adeiladu.<\/p>\n<p>Mae prosiect WasteReBuilt yn dangos y ffordd y gall ymchwil ar y cyd helpu\u2019r diwydiant i ddod o hyd i atebion ymarferol i heriau amgylcheddol mawr. Drwy gyfuno ymchwil peirianneg ag arbenigedd diwydiant, mae\u2019r t\u00eem yn cefnogi datblygiad deunyddiau adeiladu mwy cynaliadwy ac yn helpu i leihau\u2019r galw am adnoddau naturiol newydd.<\/p>\n<p>Darllenwch ragor am y prosiectau yma: <a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/cy\/community\/our-local-community-projects\/community-projects-in-wales-and-further-afield\/2023-projects\/wasterebuilt-a-circular-approach-to-transform-waste-sand-into-resource-for-the-built-environment\">https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/cy\/community\/our-local-community-projects\/community-projects-in-wales-and-further-afield\/2023-projects\/wasterebuilt-a-circular-approach-to-transform-waste-sand-into-resource-for-the-built-environment<\/a><\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Concrit yw'r deunydd adeiladu a ddefnyddir mwyaf eang yn y byd, ond mae un o\u2019i gynhwysion allweddol yn dod yn adnodd naturiol cynyddol werthfawr. Ar wah\u00e2n i dd\u0175r, tywod adeiladu [&hellip;]","protected":false},"author":7183,"featured_media":215,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[303,301],"tags":[],"class_list":["post-217","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-epsrc-cy","category-yr-ysgol-peirianneg"],"meta_box":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/funded-research-impact\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/217","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/funded-research-impact\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/funded-research-impact\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/funded-research-impact\/wp-json\/wp\/v2\/users\/7183"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/funded-research-impact\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=217"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/funded-research-impact\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/217\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":219,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/funded-research-impact\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/217\/revisions\/219"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/funded-research-impact\/wp-json\/wp\/v2\/media\/215"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/funded-research-impact\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=217"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/funded-research-impact\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=217"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/funded-research-impact\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=217"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}