{"id":584,"date":"2026-03-12T14:34:49","date_gmt":"2026-03-12T14:34:49","guid":{"rendered":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/creative-economy\/?p=584"},"modified":"2026-03-30T14:36:32","modified_gmt":"2026-03-30T14:36:32","slug":"degawd-o-arloesi-creadigol-sut-mae-caerdydd-creadigol-yn-llunio-dyfodol-creadigol-y-rhanbarth","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/creative-economy\/cy\/degawd-o-arloesi-creadigol-sut-mae-caerdydd-creadigol-yn-llunio-dyfodol-creadigol-y-rhanbarth\/","title":{"rendered":"Degawd o arloesi creadigol: Sut mae Caerdydd Creadigol yn llunio dyfodol creadigol y rhanbarth"},"content":{"rendered":"<p>Yn ddiweddar, mae Caerdydd Creadigol wedi dathlu deng mlynedd o gysylltu a hyrwyddo cymuned greadigol y rhanbarth, felly rydyn ni\u2019n manteisio ar y cyfle i dynnu sylw at y syniadau, y partneriaethau a&#8217;r arloesi sydd wedi siapio&#8217;r daith hon hyd yn hyn. Yn rhan o Ganolfan yr Economi Greadigol, mae ein gwaith wedi&#8217;i seilio ar gydweithrediad rhwng ymchwilwyr, pobl greadigol a byd diwydiant.\u00a0Gyda thema Caerdydd Creadigol mis Mawrth yn canolbwyntio ar &#8216;Hyrwyddo&#8217;ch hun a&#8217;ch gwaith&#8217;, mae&#8217;n teimlo&#8217;n amserol i dynnu sylw at sut mae ein gwaith wedi amlygu lleisiau, cefnogi arloesedd a chryfhau gwead creadigol Prifddinas-Ranbarth Caerdydd.<\/p>\n<p><img decoding=\"async\" src=\"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/creative-economy\/wp-content\/uploads\/sites\/381\/2026\/03\/Creative-Cardiff-10-Year-WMC-33-1-scaled.jpg\" alt=\"\" \/><\/p>\n<h3><strong>Fframweithiau arloesol i gynorthwyo clystyrau creadigol rhanbarthol\u00a0\u00a0<\/strong><\/h3>\n<p>Yn Caerdydd Creadigol, credwn fod sector creadigol cysylltiedig yn un sy\u2019n fwy arloesol a gwydn. Dros y degawd diwethaf, rydyn ni wedi cynorthwyo prosiectau sy&#8217;n cysylltu ymchwilwyr, pobl greadigol a chymunedau i arbrofi, profi ac ailddychmygu beth sy&#8217;n bosibl yn economi greadigol de-ddwyrain Cymru.<\/p>\n<p>Roedd Menter <a href=\"https:\/\/creativecardiff.org.uk\/projects\/un-dau-tri-steps-towards-developing-framework-support-regional-creative-clusters\">Canolfannau Clwstwr y Diwydiannau Creadigol<\/a> (CICH) (Gorffennaf 2023 \u2013 Mawrth 2024) yn brosiect peilot gwerth \u00a3200,000 o dan arweiniad Canolfan yr Economi Greadigol ym Mhrifysgol Caerdydd drwy rwydwaith Caerdydd Creadigol. Roedd y prosiect, a ariannwyd gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a&#8217;r Dyniaethau (AHRC) a&#8217;r Adran Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS), yn rhan o fuddsoddiad gwerth \u00a32.6 miliwn ledled y DU mewn prosiectau \u201cArddangoswr\u201d. Cynlluniwyd y prosiect i edrych ar sut y gallai clystyrau creadigol presennol dyfu, denu buddsoddiad a chael effaith.<\/p>\n<p>Drwy CICH, chwaraeodd Caerdydd Creadigol r\u00f4l allweddol wrth ehangu clwstwr creadigol Caerdydd drwy weithgaredd rhanbarthol ehangach. Gwnaethpwyd hyn drwy ddod \u00e2 busnesau creadigol lleol, ymchwilwyr ac awdurdodau lleol ynghyd yng Nghasnewydd, Sir Fynwy a Rhondda Cynon Taf i rannu\u2019r hyn a ddysgir ac amlygu potensial y diwydiannau creadigol ar draws Prifddinas-Ranbarth Caerdydd. Atgyfnerthodd y gwaith hwn statws a photensial Caerdydd a&#8217;r rhanbarth yn y dyfodol fel canolfan ar gyfer arloesedd creadigol yng Nghymru.<\/p>\n<p>Cafodd y cynllun peilot gryn effaith, gan gynhyrchu refeniw newydd, swyddi a chysylltiadau creadigol ar draws y rhanbarth. Fel y myfyriodd Jess Mahoney, cyn-Bennaeth Caerdydd Creadigol, Prif Swyddog Gweithredol presennol Sefydliad Cyfarthfa ac awdur yr adroddiad, dangosodd y gwaith faint o botensial sydd y tu hwnt i&#8217;r brifddinas wrth gynorthwyo pobl a lleoedd creadigol mewn modd ystyrlon:<\/p>\n<p>Wrth i glwstwr creadigol Caerdydd dyfu o ran maint ac enwogrwydd, daw&#8217;n gynyddol bwysig ein bod yn harneisio&#8217;r cyfoeth o dalent eginol ledled y rhanbarth ehangach i fanteisio ar gyfleoedd sy&#8217;n dod i&#8217;r amlwg, cynnull cymunedau newydd a chreu lleoedd creadigol llewyrchus a chynrychioliadol newydd. Mae Canolfannau Clwstwr y Diwydiannau Creadigol yn gam cyntaf tuag at gyflawni hyn.<\/p>\n<p>I ddangos pa mor eang yw\u2019r gwaith a&#8217;r cymunedau dan sylw, <a href=\"https:\/\/creativecardiff.org.uk\/projects\/un-dau-tri-steps-towards-developing-framework-support-regional-creative-clusters\">dyma rai o&#8217;r astudiaethau achos sydd wedi\u2019u datblygu drwy&#8217;r rhaglen.<\/a><\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p><span class=\"embed-youtube\" style=\"text-align:center; display: block;\"><iframe loading=\"lazy\" class=\"youtube-player\" width=\"640\" height=\"360\" src=\"https:\/\/www.youtube.com\/embed\/ssa3jaZ_IYA?version=3&#038;rel=1&#038;showsearch=0&#038;showinfo=1&#038;iv_load_policy=1&#038;fs=1&#038;hl=en-GB&#038;autohide=2&#038;wmode=transparent\" allowfullscreen=\"true\" style=\"border:0;\" sandbox=\"allow-scripts allow-same-origin allow-popups allow-presentation allow-popups-to-escape-sandbox\"><\/iframe><\/span><\/p>\n<h3><strong>Cysylltu&#8217;r Dotiau a mapio&#8217;r ecosystem: Deall gwerth rhwydweithiau creadigol\u00a0<\/strong><\/h3>\n<p>Roedd ein prosiect ymchwil Cysylltu\u2019r Dotiau yn 2021 yn ceisio deall sut mae rhwydweithiau creadigol fel Caerdydd Creadigol yn cynhyrchu gwerth, yn economaidd ac yn gymdeithasol.\u00a0\u00a0Gan ganolbwyntio ar gydweithio rhwng diwydiant, y byd academaidd, llunwyr polis\u00efau a&#8217;r cyhoedd i greu newid (y model helics pedrwbl), datgelodd y canfyddiadau r\u00f4l rhwydweithiau creadigol, sy&#8217;n aml yn cael ei hanwybyddu, wrth gryfhau ecosystemau ac econom\u00efau lleol. Mewn hinsawdd economaidd heriol, helpodd y gwaith hwn i amlygu manteision diriaethol ac anniriaethol cydweithio creadigol, o wybodaeth ac adnoddau a rennir i arloesedd a lles.\u00a0<a href=\"https:\/\/creativecardiff.org.uk\/joining-dots-research-report-understanding-value-generation-creative-networks\">Darllenwch yr adroddiad llawn yma.<\/a><\/p>\n<p>Mae datblygu <a href=\"https:\/\/creativecardiff.org.uk\/creative-economy-atlas-cymru\">Atlas Economi Greadigol Cymru<\/a> wedi bod yn garreg filltir bwysig arall o ran deall tirwedd greadigol Cymru. Gan adeiladu ar brototeip cynharach Clwstwr, datblygwyd yr Atlas ar ei newydd wedd gan Ganolfan yr Economi Greadigol gyda chymorth Cymru Greadigol a rhaglenni Clwstwr a Media Cymru.<\/p>\n<p>Mae&#8217;r Atlas yn rhoi darlun daearyddol cynhwysfawr o ecosystem greadigol Cymru. Mae\u2019n mapio naw sector creadigol, naw math o ofod creadigol, ac amrywiaeth o rwydweithiau ledled Cymru. Mae&#8217;r map rhyngweithiol yn caniat\u00e1u i ddefnyddwyr weld pa weithgareddau creadigol a gynhelir o lefel leol i lefel genedlaethol, gan olygu bod data ar gael i bawb ac yn datgelu prif leoliad egni creadigol. Mae ymchwilwyr yn disgrifio&#8217;r Atlas fel yr un mwyaf cynhwysfawr o&#8217;i fath yn y DU, ac yn offeryn a fydd yn parhau i esblygu wrth gael rhagor o ddata a dealltwriaeth.<\/p>\n<h3><strong>Creu mannau a chyfleoedd i artistiaid\u00a0<\/strong><\/h3>\n<p>Mae Caerdydd Creadigol wedi ymrwymo i greu cyfleoedd ystyrlon i&#8217;r gymuned greadigol dyfu. Mae llawer o&#8217;r gwaith hwn yn canolbwyntio ar gefnogi pobl greadigol sydd wedi&#8217;u tangynrychioli a chreu mannau lle gall lleisiau newydd ffynnu. Trwy DIVERGE, gofod cydweithio a rhwydweithio ar gyfer pobl greadigol niwrowahanol, a&#8217;n partneriaeth \u00e2 chwmni cynhyrchu celfyddydol Lone Worlds (a ddechreuodd gyda GORWEL ac sy&#8217;n parhau eleni gyda Cw\u00eer: Cymuned Greadigol) rydyn ni wedi helpu i ddatblygu mannau cynhwysol, sy&#8217;n canolbwyntio ar hunaniaeth ledled y ddinas. Er bod DIVERGE yn cynnig amgylchedd pwrpasol i bobl greadigol niwrowahanol gysylltu, cydweithio a chreu, mae Cw\u00eer yn adeiladu ar sylfeini GORWEL i gofleidio cymuned LHDTC+ ehangach drwy ddigwyddiadau, sesiynau rhannu sgiliau a gweithdai sy&#8217;n dathlu creadigrwydd cw\u00eer ac sy\u2019n meithrin cysylltiadau, dysgu a gwelededd.<\/p>\n<p>Ochr yn ochr \u00e2&#8217;r prosiectau hyn, mae AMDANI, ein gweithdai ysgrifennu a gyflwynir ar y cyd \u00e2 myfyrwyr o gwrs MA Ysgrifennu Creadigol Prifysgol Caerdydd, yn cynnig lle i awduron sy&#8217;n dod i&#8217;r amlwg arbrofi a magu hyder. Mae ein partneriaeth \u00e2 Hypha Studios hefyd wedi trawsnewid dwy uned fanwerthu wag ar Heol y Frenhines yng Nghaerdydd yn fannau creadigol dros dro, dewiswyd Future Arts Collective Cymru a PWSH a Neurospicy Play Date i ddefnyddio\u2019r unedau, gan gynnig lle ar gyfer cynhyrchu, arddangos ac ymgysylltu \u00e2&#8217;r cyhoedd. Drwy Gwyrddio Cathays, gwnaethom edrych ar sut y gall ymarfer creadigol ysgogi ymwybyddiaeth a lles amgylcheddol, mewn partneriaeth \u00e2 phrosiect Pharmabees Ysgol Fferylliaeth Prifysgol Caerdydd a gyda chefnogaeth gan Gyngor Dinas Caerdydd drwy&#8217;r Gronfa Ffyniant Gyffredin. Fe wnaethom gomisiynu saith artist i ddatblygu gwaith wedi&#8217;i ysbrydoli gan natur, peillio a chymuned, gan gyfrannu at y sgwrs ehangach am r\u00f4l y diwydiannau creadigol wrth adeiladu dyfodol gwyrddach a thecach.<\/p>\n<p>Yn fwyaf diweddar, mae Caerdydd Creadigol wedi cyflwyno Fforwm Cymunedol newydd. Mae hyn yn cynnwys gr\u0175p o bobl greadigol o bob rhan o Brifddinas-Ranbarth Caerdydd a fydd yn helpu i lunio&#8217;r hyn sydd nesaf i&#8217;r rhwydwaith. Bydd y fforwm yn chwarae rhan allweddol wrth ymhelaethu ar leisiau lleol, llywio ein rhaglenni a sicrhau bod ein gwaith yn adlewyrchu anghenion ac uchelgeisiau&#8217;r gymuned greadigol.<\/p>\n<figure id=\"post-575 media-575\" class=\"image align-none\"><img decoding=\"async\" src=\"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/creative-economy\/wp-content\/uploads\/sites\/381\/2026\/03\/20230601_PT-CreativeCardiff_58-scaled.jpg\" alt=\"\" \/><figcaption class=\"caption\"><\/figcaption><\/figure>\n<h3><strong>Edrych tua\u2019r dyfodol: Dyfodol cysylltiedig, creadigol\u00a0<\/strong><\/h3>\n<p>Yr hyn sy&#8217;n sefyll allan fwyaf o ddegawd cyntaf Caerdydd Creadigol yw p\u0175er cysylltiad. Y ffordd y mae syniadau&#8217;n tyfu pan fydd pobl (a chacen a chaffein) yn dod at ei gilydd i gydweithio, cwestiynu ac arbrofi. Fel rhan o Ganolfan yr Economi Greadigol o fewn Parc Ymchwil y Gwyddorau Cymdeithasol (SBARC), rydyn ni wedi&#8217;n lleoli mewn ecosystem unigryw lle gall ymchwilwyr, partneriaid diwydiant ac ymarferwyr creadigol edrych ar bosibiliadau newydd ochr yn ochr. Mae&#8217;r amgylchedd hwn yn ein galluogi i barhau i hyrwyddo arloesedd ar draws y rhanbarth, cefnogi talent greadigol a llywio sgyrsiau am ddyfodol economi greadigol Cymru.<\/p>\n<p>Wrth i ni gamu i&#8217;n pennod nesaf, rydyn ni wedi ymrwymo i gryfhau&#8217;r rhwydweithiau, y mannau a&#8217;r cyfleoedd sy&#8217;n helpu creadigrwydd i ffynnu ymhellach. Trwy ein Fforwm Cymunedol newydd, gan lansio prosiect newydd &#8216;Creadigrwydd yn Creu Cyfleoedd&#8217; i gefnogi sgiliau busnes o fewn y gymuned greadigol, a&#8217;n prosiectau parhaus, rydyn ni\u2019n edrych ymlaen at barhau i adeiladu dyfodol creadigol sy&#8217;n gynhwysol, teg, gwyrdd, ac wedi&#8217;i wreiddio yn y cymunedau rydyn ni\u2019n eu gwasanaethu.<\/p>\n<p><u>Rhagor o wybodaeth am ein gwaith<\/u>.<\/p>\n<p>Ysgrifennwyd gan John Evans, Caerdydd Creadigol (Digwyddiadau a Gweithrediadau)<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Yn ddiweddar, mae Caerdydd Creadigol wedi dathlu deng mlynedd o gysylltu a hyrwyddo cymuned greadigol y rhanbarth, felly rydyn ni\u2019n manteisio ar y cyfle i dynnu sylw at y syniadau, [&hellip;]","protected":false},"author":1774,"featured_media":578,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_jetpack_newsletter_access":"","_jetpack_dont_email_post_to_subs":false,"_jetpack_newsletter_tier_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paywalled_content":false,"_jetpack_memberships_contains_paid_content":false,"footnotes":""},"categories":[203],"tags":[],"class_list":["post-584","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-caerdydd-creadigol"],"jetpack_sharing_enabled":true,"jetpack_shortlink":"https:\/\/wp.me\/pfHc5i-9q","meta_box":[],"jetpack_featured_media_url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/creative-economy\/wp-content\/uploads\/sites\/381\/2026\/03\/Brand-Pack_glue.png","_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/creative-economy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/584","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/creative-economy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/creative-economy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/creative-economy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1774"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/creative-economy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=584"}],"version-history":[{"count":3,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/creative-economy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/584\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":587,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/creative-economy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/584\/revisions\/587"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/creative-economy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/578"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/creative-economy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=584"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/creative-economy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=584"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/creative-economy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=584"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}