{"id":529,"date":"2025-02-21T12:12:24","date_gmt":"2025-02-21T12:12:24","guid":{"rendered":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/creative-economy\/?p=529"},"modified":"2025-03-05T10:38:31","modified_gmt":"2025-03-05T10:38:31","slug":"ymchwilwyr-prifysgol-caerdydd-yn-datgelu-ffordd-newydd-o-fapior-ecosystem-greadigol-yng-nghymru","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/creative-economy\/cy\/ymchwilwyr-prifysgol-caerdydd-yn-datgelu-ffordd-newydd-o-fapior-ecosystem-greadigol-yng-nghymru\/","title":{"rendered":"Ymchwilwyr Prifysgol Caerdydd yn datgelu ffordd newydd o fapio\u2019r ecosystem greadigol yng Nghymru\u202f\u202f"},"content":{"rendered":"<p><span data-contrast=\"auto\">Heddiw, mae ymchwilwyr o Ganolfan yr Economi Greadigol ym Mhrifysgol Caerdydd wedi cyhoeddi ffordd newydd sbon o ddatgelu\u2019r rhwydwaith eang o fusnesau a gweithwyr llawrydd creadigol yng Nghymru.\u202f\u202f<\/span><span data-ccp-props=\"{}\">\u00a0<\/span><\/p>\n<p><span data-contrast=\"auto\">Mae Atlas Economi Greadigol Cymru wedi\u2019i ddatblygu gan Ganolfan yr Economi Greadigol ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae&#8217;n dilyn prototeip cynharach a gr\u00ebwyd yn 2020 yn rhan o raglen ymchwil a datblygu <\/span><i><span data-contrast=\"auto\">Clwstwr<\/span><\/i><span data-contrast=\"auto\"> (2018-2023). Ariannwyd y rhaglen hon, a oedd yn werth \u00a34m, gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a\u2019r Dyniaethau (AHRC). Yn 2023-2024, aeth y Ganolfan Economi Greadigol ati i ddiweddaru\u2019r Atlas a\u2019i ehangu gyda chymorth Cymru Greadigol a rhaglen Media Cymru.\u202f\u202f<\/span><span data-ccp-props=\"{}\">\u00a0<\/span><\/p>\n<p><span data-contrast=\"auto\">Gan ddefnyddio data a gyfunwyd o sawl ffynhonnell, mae&#8217;r \u201cAtlas Creadigol\u201d yn rhoi darlun daearyddol unigryw o ecosystem greadigol Cymru. Mae&#8217;r map rhyngweithiol yn caniat\u00e1u i ymwelwyr archwilio naw sector creadigol gwahanol a naw math o ofod creadigol. Ar ben hynny, mae\u2019n mapio mathau eraill o rwydweithiau creadigol ar draws Cymru. Gall ymwelwyr edrych yn fanylach ar ranbarthau a chodau post penodol drwy chwyddo\u2019r ddelwedd, neu ei ddad-chwyddo i gael syniad o ble mae gweithgarwch creadigol wedi&#8217;i glystyru ledled Cymru. Yn \u00f4l ymchwilwyr Canolfan yr Economi Greadigol, yr Atlas newydd hwn yw&#8217;r mwyaf cynhwysfawr o&#8217;i fath yn y DU. Mae\u2019n helpu i chwalu seilos data ar draws ecosystem greadigol Cymru i roi darlun cyflawn a chywir o&#8217;r diwydiannau creadigol ar draws Cymru.\u202f<\/span><span data-ccp-props=\"{}\">\u00a0<\/span><\/p>\n<p><span data-contrast=\"auto\">Bydd yr Atlas Creadigol yn parhau i esblygu ac yn ymgorffori unrhyw data newydd a ddaw i\u2019r amlwg. Canolfan yr Economi Greadigol, gyda chymorth 4Global, sy\u2019n rheoli cartref ar-lein yr Atlas.\u202f<\/span><span data-ccp-props=\"{}\">\u00a0<\/span><\/p>\n<p><b><span data-contrast=\"auto\">Dywedodd yr Athro Marlen Komorow<\/span><\/b><b><span data-contrast=\"auto\">s<\/span><\/b><b><span data-contrast=\"auto\">ki, Uwch-gymrawd Ymchwil i Media Cymru:\u202f\u202f<\/span><\/b><span data-ccp-props=\"{}\">\u00a0<\/span><\/p>\n<blockquote><p><span data-contrast=\"auto\">Yng Nghanolfan yr Economi Greadigol, mae wedi dod i\u2019r amlwg i ni pa mor bwysig yw\u2019r diwydiannau creadigol erbyn hyn o ran ysgogi twf yng Nghymru. Ac eto, oherwydd diffyg data hygyrch, nid yw hyn yn cael ei werthfawrogi o hyd i raddau helaeth.<\/span><\/p>\n<p><span data-contrast=\"auto\">Mae cymaint o arloesedd, talent a gweithgarwch yn digwydd ar draws y diwydiannau creadigol yng Nghymru, ond mae&#8217;r straeon anhygoel hyn yn aml yn parhau i fod heb eu hadrodd. Yr Atlas Creadigol yw ein hymateb ni i&#8217;r her hon &#8211; platfform unigol a hygyrch i chwalu seilos data a dangos y gwaith anhygoel sy&#8217;n cael ei wneud. Mae hefyd yn cynnig adnodd ymarferol ar gyfer y sector i amlygu mannau busnes, dod o hyd i gyfleoedd hyfforddi, neu gael gwybod am brosiectau ysbrydoledig.<\/span><\/p><\/blockquote>\n<p><span data-contrast=\"auto\">Ariannwyd yr Atlas Creadigol newydd yn rhannol gan Lywodraeth Cymru.\u00a0<\/span><span data-ccp-props=\"{}\">\u00a0<\/span><\/p>\n<p><b><span data-contrast=\"auto\">Dywedodd Joedi Langley, Pennaeth Dros Dro Cymru Greadigol:<\/span><\/b><\/p>\n<blockquote><p><span data-contrast=\"auto\">Mae&#8217;n wych gweld yr Atlas Creadigol yn cael ei lansio &#8211; casgliad o adnoddau hanfodol lle mae modd cael gafael ar wybodaeth hollbwysig mewn un lle. Yn ogystal \u00e2 chynnwys data gwerthfawr, mae hefyd yn adnodd defnyddiol i bobl a allai fod \u00e2 diddordeb mewn gwneud gwaith creadigol, gweithwyr llawrydd a darpar gwmn\u00efau sydd am wneud rhywfaint o fusnes yng Nghymru. Bydd yn parhau i dyfu a gwella dros amser, ac rydym yn edrych ymlaen at ei rannu \u00e2&#8217;n rhanddeiliaid.<\/span><\/p><\/blockquote>\n<p><a href=\"https:\/\/creativeatlas.cymru\/\"><span data-contrast=\"none\">Cliciwch i weld yr Atlas Creadigol newydd<\/span><\/a><span data-contrast=\"auto\">\u202f\u202f<\/span><span data-ccp-props=\"{}\">\u00a0<\/span><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Heddiw, mae ymchwilwyr o Ganolfan yr Economi Greadigol ym Mhrifysgol Caerdydd wedi cyhoeddi ffordd newydd sbon o ddatgelu\u2019r rhwydwaith eang o fusnesau a gweithwyr llawrydd creadigol yng Nghymru.\u202f\u202f\u00a0 Mae Atlas [&hellip;]","protected":false},"author":1774,"featured_media":531,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_jetpack_newsletter_access":"","_jetpack_dont_email_post_to_subs":false,"_jetpack_newsletter_tier_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paywalled_content":false,"_jetpack_memberships_contains_paid_content":false,"footnotes":""},"categories":[203,217,207,219],"tags":[],"class_list":["post-529","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-caerdydd-creadigol","category-canolfannau-creadigol","category-media-cymru-cy","category-polisi-ac-ymchwil"],"jetpack_sharing_enabled":true,"jetpack_shortlink":"https:\/\/wp.me\/pfHc5i-8x","meta_box":[],"jetpack_featured_media_url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/creative-economy\/wp-content\/uploads\/sites\/381\/2025\/02\/Creative-Atlas-screen-grab-.jpg","_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/creative-economy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/529","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/creative-economy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/creative-economy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/creative-economy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1774"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/creative-economy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=529"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/creative-economy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/529\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":530,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/creative-economy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/529\/revisions\/530"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/creative-economy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/531"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/creative-economy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=529"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/creative-economy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=529"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/creative-economy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=529"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}