{"id":524,"date":"2024-04-16T15:01:37","date_gmt":"2024-04-16T15:01:37","guid":{"rendered":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/creative-economy\/?p=524"},"modified":"2024-04-16T15:05:02","modified_gmt":"2024-04-16T15:05:02","slug":"ymchwilio-ir-economi-greadigol-o-syniadau-i-bolisiau-hanes-byr-yr-economi-greadigol","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/creative-economy\/cy\/ymchwilio-ir-economi-greadigol-o-syniadau-i-bolisiau-hanes-byr-yr-economi-greadigol\/","title":{"rendered":"Ymchwilio i&#8217;r Economi Greadigol: O syniadau i bolis\u00efau- hanes byr yr economi greadigol"},"content":{"rendered":"<p>Datblygwyd y syniad o &#8216;ddiwydiant diwylliant&#8217; dros 70 mlynedd yn \u00f4l (Adorno a Horkheimer, 1947), ar adeg pan oedd llawer o ffurfiau diwylliannol poblogaidd yn dal i ddod i&#8217;r amlwg, a phan oedd beirniaid diwylliannol o wahanol safbwyntiau gwleidyddol yn gweld gwahaniaeth clir rhwng celf a masnach. Roedd gwerth diwylliannol yn cael ei weld fel rhywbeth a oedd yn cyfateb i chwaeth boblogaidd yn hytrach na bod yn rhan ohoni. Cafodd y gwahaniaeth hwn ei ymgorffori\u2019n gyflym mewn olis\u00efau cyhoeddus yn y DU ac mewn mannau eraill, boed hynny drwy fodelau Reithaidd o ddarlledu gwasanaeth cyhoeddus neu drwy ariannu\u2019r celfyddydau\u2019n gyhoeddus (Lewis, 1990).<\/p>\n<p>Erbyn y 1960au, roedd twf diwylliant poblogaidd a&#8217;r gwyddorau cymdeithasol ar yr un pryd yn golygu nad oedd y syniad aruchel hwn o ddiwylliant yn gynaliadwy bellach. O&#8217;r 1960au i&#8217;r 1980au, dechreuodd nifer o ddamcaniaethwyr diwylliannol (fel Raymond Williams, Stuart Hall, Richard Hoggart a Pierre Bourdieu) gwestiynu systemau gwerth diwylliannol traddodiadol a oedd yn rhoi gwerth ar ddiwylliant &#8216;uchel&#8217; ac yn anwybyddu diwylliant poblogaidd. Roeddent yn dadlau dros syniad llawer ehangach, mwy cynhwysol o ddiwylliant a chreadigrwydd, un a oedd wedi&#8217;i wreiddio ym mhrofiad bywyd dyddiol y rhan fwyaf o bobl.<\/p>\n<p>Gosododd hyn y sylfaen ar gyfer dechrau proses o newid polis\u00efau. Yn y 1980au, dechreuodd Cyngor Llundain Fawr, ochr yn ochr \u00e2 Bwrdd Menter Llundain Fawr, ddychmygu sut olwg allai fod ar bolisi diwylliannol ehangach, mwy democrataidd, gan symud i ffwrdd o\u2019r syniad mwy cyfyngedig o\u2019r \u2018celfyddydau\u2019 tuag at y syniad ehangach o&#8217;r &#8216;diwydiannau creadigol&#8217; (Mulgan a Worpole, 1986). Nid oedd ymyriadau polisi bellach yn ymwneud \u00e2 diogelu&#8217;r &#8216;celfyddydau&#8217; yn unig, ond \u00e2 chael effeithiau cadarnhaol ar draws gofod diwylliannol llawer ehangach.<\/p>\n<p>Ar ochr arall y byd, fe wnaeth Llywodraeth Paul Keating yn Awstralia fabwysiadu\u2019r thema diwydiannau creadigol. Cymerodd adroddiad Cenedl Greadigol, a gyhoeddwyd ym 1994, gam pendant i ffwrdd o bolisi celfyddydau traddodiadol tuag at ddull mwy cynhwysol a oedd yn cynnwys ffilm a theledu, a hynny wrth ail-fframio diwydiannau creadigol Awstralia mewn termau economaidd yn ogystal \u00e2 diwylliannol (Hawkins, 2014).<\/p>\n<p>Fe wnaeth hyn baratoi\u2019r ffordd i Lywodraeth Lafur y DU, ym 1997, fabwysiadu dull diwydiannau creadigol. Disodlwyd yr Adran Treftadaeth Genedlaethol (1992-97) gan yr Adran Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, a ddaeth i gynrychioli tirwedd economaidd newydd yn seiliedig ar arloesedd a chreadigrwydd, technoleg a diwydiannau cyfryngau byd-eang (<strong>Hesmondhalgh, Oakley, Lee a Nisbett, 2015)<\/strong>. Dyma oes &#8216;Cool Britannia&#8217;, pan ystyriwyd bod y diwydiannau creadigol yn llywio ac yn diffinio diwylliant a hunaniaeth Brydeinig tra&#8217;n hybu economi&#8217;r DU.<\/p>\n<p>Roedd llyfr John Howkins (2001) ar yr economi greadigol a thraethawd Richard Florida (2002) ar bwysigrwydd \u2018y dosbarth creadigol\u2019 \u2013 fel sbardun ar gyfer arloesedd a thwf economaidd mewn byd digidol \u2013 yn rhoi\u2019r diwydiannau creadigol, a galwedigaethau creadigol yn fwy yn gyffredinol, wrth galon econom\u00efau&#8217;r 21<sup>ain<\/sup> ganrif. Roeddent yn dadlau bod creadigrwydd yn sbardun allweddol i ffyniant mewn byd lle mae asedau yn fwyfwy cysylltiedig ag eiddo deallusol yn hytrach nag eiddo ffisegol \u2013 mewn syniadau yn hytrach na gwrthrychau (yr &#8216;economi anniriaethol&#8217;). Yn ogystal \u00e2 thyfu\u2019n gynt na sectorau eraill, roedd y diwydiannau creadigol yn ganolog i ddatblygiad yr economi gyfan, ac roedd gweithwyr creadigol \u2013 fel dylunwyr a chrewyr cynnwys \u2013 yn gweithio yn y rhan fwyaf o sectorau diwydiannol.<\/p>\n<p>Roedd y broses o adnabod \u2013 a dathlu \u2013 yr economi greadigol yn digwydd ar yr un pryd ag yr oedd gweithgynhyrchu ar draws y byd datblygedig yn dirywio. Roedd ardaloedd trefol a oedd yn awyddus i adfywio\u2019u hunain \u2013 drwy greu diwylliant o ffurfio busnesau newydd a thrwy ddenu mewnfuddsoddiad \u2013 yn cofleidio\u2019r syniad o \u2018ddinas greadigol\u2019. Yn ogystal \u00e2 sbarduno arloesedd a thwf economaidd (Potts a Cunningham, 2008, t.10), roedd dinasoedd creadigol yn cael eu hystyried yn lleoedd mwy deinamig a deniadol i fyw ynddynt.<\/p>\n<p>Yn 2013 cyhoeddodd Nesta eu Maniffesto ar gyfer yr economi greadigol<em>, <\/em>gan gyflwyno achos pwerus dros roi lle canolog i ddiwylliant a\u2019r byd creadigol ym mholis\u00efau\u2019r llywodraeth. Yn yr un flwyddyn, datblygodd llywodraeth y DU, drwy\u2019r Adran Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, fethodoleg ar gyfer nodi sectorau creadigol i gofnodi a mesur eu heffaith economaidd &#8211; Dyma\u2019r adeg pan ddaeth y &#8216;diwydiannau creadigol&#8217; i fodolaeth am y tro cyntaf fel categori economaidd adnabyddadwy.<\/p>\n<p>Roedd maint, graddfa a thwf y diwydiannau diwylliannol a chreadigol bellach yn amlwg yn rhan sylweddol o economi\u2019r DU (a\u2019r economi fyd-eang). Yn 2017 comisiynodd Llywodraeth y DU Adolygiad Annibynnol o\u2019r Diwydiannau Creadigol a roddodd y diwydiannau creadigol wrth galon yr economi ddigidol a oedd yn tyfu\u2019n gyflym yn y DU. Un o\u2019i argymhellion cryfaf oedd cefnogi clystyrau diwydiannau creadigol rhanbarthol ledled y DU.<\/p>\n<p>Ymatebodd y Llywodraeth drwy ariannu <a href=\"https:\/\/creativeindustriesclusters.com\/\">Rhaglen Clystyrau Diwydiannau Creadigol<\/a> gwerth \u00a380 miliwn, a gefnogodd (drwy Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a\u2019r Dyniaethau) y gwaith o sefydlu naw clwstwr diwydiannau creadigol ledled y DU, ac roedd un ohonynt \u2013 <a href=\"https:\/\/clwstwr.org.uk\/\">Clwstwr<\/a> \u2013 dan arweiniad Canolfan yr Economi Greadigol. Fe wnaeth llwyddiant y Rhaglen Clystyrau Diwydiannau Creadigol (Lewis et al, 2023) baratoi\u2019r ffordd ar gyfer buddsoddiad pellach gan lywodraethau \u2013 dan arweiniad gwahanol bleidiau gwleidyddol \u2013 ar draws pedair gwlad y DU. Yn 2022, fe wnaeth yr UE, drwy\u2019r Sefydliad Arloesedd a Thechnoleg Ewropeaidd, eu buddsoddiad cyntaf gwerth miliynau ewros mewn Cymuned Gwybodaeth ac Arloesedd diwylliant a chreadigrwydd.<\/p>\n<p>Mae twf yr economi greadigol wedi dod law yn llaw \u00e2 chorff cynyddol o graffu beirniadol. Er enghraifft, mae Philip Schlesinger (2017) yn dadlau, er bod y syniad o\u2019r economi greadigol wedi bod yn bwysig yn wleidyddol, bod cost iddi: maes polisi lle mae diwylliant yn eilradd, ac yn cael ei drechu\u2019n ddieithriad gan resymeg economeg. Mae Justin O&#8217;Connor (2023) yn datblygu&#8217;r feirniadaeth hon, gan ddadlau&#8217;n gryf o blaid ailddatgan gwerthoedd diwylliannol a chymdeithasol yn y broses greadigol.<\/p>\n<p>Mae eraill wedi cwestiynu\u2019r ffaith i\u2019r &#8216;dosbarth creadigol&#8217; gael ei gofleidio\u2019n anfeirniadol fel grym cadarnhaol ar gyfer adfywio economaidd teg (Pratt, 2008; <em>Haskel a Westlake, 2017<\/em>). Mae\u2019r diwydiannau creadigol, mewn sawl ffordd, wedi diffinio\u2019r cynnydd yn yr \u2018economi g\u00ecg\u2019 sy\u2019n llawn ansicrwydd, ynghyd \u00e2 chyfres o arferion cyflogaeth (cyflogi drwy argymhelliad llafar, cyflogau isel ac oriau hir ar lefel mynediad) sy\u2019n cyfyngu ar fynediad i gyflogaeth a sicrwydd swydd.<\/p>\n<p>Mae hyn yn golygu ein bod wedi cyrraedd adeg ddiddorol. Mae twf aruthrol ochr yn ochr \u00e2 nifer o fentrau polisi a arweinir gan ymchwil wedi gwneud yr economi greadigol yn gynnig cymhellol i lunwyr polis\u00efau, tra mae beirniadaeth o\u2019i ffurf a\u2019i strwythur wedi dod yn fwyfwy cyffredin. Mae Canolfan yr Economi Greadigol ym Mhrifysgol Caerdydd yn ofod lle mae craffu beirniadol yn llywio datblygiad polis\u00efau, gyda dealltwriaeth o\u2019r economi greadigol sy\u2019n ystyried ei hanes a\u2019i chymhlethdodau. Mae ei maint a&#8217;i harwyddoc\u00e2d yn bwysig, ond felly hefyd ei gallu i weithio er lles y bobl y mae&#8217;n eu cyflogi a\u2019i chynulleidfaoedd, ac er lles ein hamgylchedd diwylliannol ehangach. Ein nod yw llywio mentrau polisi sy&#8217;n cyflawni gwerth cymdeithasol, diwylliannol <strong>ac<\/strong> economaidd.<\/p>\n<figure id=\"post-519 media-519\" class=\"image align-none\"><img decoding=\"async\" src=\"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/creative-economy\/wp-content\/uploads\/sites\/381\/2024\/04\/clwstwrverse.png\" alt=\"A panel at Clwstwrverse\" \/><\/figure>\n<h2><strong>Ein cenhadaeth: tuag at economi greadigol werdd a theg<\/strong><\/h2>\n<p>Rydym yn mabwysiadu diffiniad yr Adran Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon o&#8217;r economi greadigol, sy&#8217;n cynnwys y rhai a gyflogir yn y diwydiannau creadigol yn ogystal \u00e2 phobl mewn galwedigaethau creadigol mewn sectorau eraill (pobl greadigol mewn sectorau eraill, fel dylunwyr neu bobl sy\u2019n creu cynnwys). Felly er bod y diwydiannau creadigol yn ganolbwynt, maent yn is-set o economi greadigol fwy, mewn byd lle mae cyfathrebu a chynnwys creadigol yn rhan hollbresennol o fyd gwaith a byd hamdden.<\/p>\n<p>Rydym yn gweld yr economi greadigol fel economi gymysg. Mae\u2019n cynnwys sectorau (fel theatr a\u2019r celfyddydau gweledol) sy\u2019n cael cymorthdaliadau yn gyfnewid am fuddion diwylliannol, cymdeithasol neu economaidd canfyddedig, yn ogystal \u00e2\u2019r diwydiannau diwylliannol mwy masnachol. Mynegir yr economi gymysg hon gan y term Diwydiannau a Sectorau Creadigol a Diwylliannol, sydd bellach yn cael ei fabwysiadu fwyfwy ar draws clystyrau creadigol yn Ewrop. Mae hwn yn gontinwwm yn hytrach na rhywbeth deuaidd syml: mae llawer o sefydliadau celfyddydol yn dibynnu ar arian cyhoeddus ond yn dal i godi refeniw masnachol, tra bod sectorau mwy masnachol, fel y sector cynhyrchu ffilmiau a theledu, yn cael cymorth gan y llywodraeth drwy gredydau treth a chymhellion eraill.<\/p>\n<p>Er gwaethaf datblygiadau sylweddol, mae\u2019r data sydd ar gael am yr economi greadigol yn parhau i fod yn anghyflawn, am ddau brif reswm. Yn gyntaf, oherwydd ei ddibyniaeth ar weithlu llawrydd mawr, sydd wedi\u2019u heithrio o\u2019r rhan fwyaf o setiau data\u2019r DU. Yn ail, er bod gennym wybodaeth am raddfa\u2019r diwydiannau creadigol (ac eithrio gweithwyr llawrydd), rydym yn gwybod llawer llai am natur y gweithlu creadigol sydd wedi\u2019i wreiddio mewn sectorau eraill. Mae&#8217;r Ganolfan wedi datblygu dadansoddiad o setiau data sydd eisoes yn bodoli ac wedi creu setiau data newydd i ddatblygu ein dealltwriaeth o natur y diwydiannau a sectorau creadigol a diwylliannol. Felly, er enghraifft, rydym yn cyhoeddi <a href=\"https:\/\/clwstwr.org.uk\/cy\/atlas-economi-greadigol-cymru\"><strong>Atlas Economi Greadigol <\/strong><\/a>rhyngweithiol o\u2019r diwydiannau a sectorau creadigol a diwylliannol ledled Cymru, y mwyaf cynhwysfawr o\u2019i fath yn y DU.<\/p>\n<p>Yr hyn rydym yn ei wybod yw bod pwysigrwydd economaidd y diwydiannau creadigol yn y DU yn sylweddol ac yn tyfu. Mae un o bob wyth busnes yn y DU yn rhan o\u2019r diwydiannau creadigol, a gyda\u2019i gilydd fe wnaethant gyfrannu bron i \u00a3116 biliwn o werth ychwanegol gros yn 2019, gan dyfu bedair gwaith yn gynt na chyfradd economi\u2019r DU yn ei chyfanrwydd (yr Adran Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, 2021).\u00a0Yn 2018, rhagwelodd UNESCO y gallai\u2019r diwydiannau creadigol a diwylliannol fod yn werth hyd at 10% o\u2019r cynnyrch domestig gros byd-eang yn y blynyddoedd i ddod, gyda\u2019r DU yn un o allforwyr mwyaf y byd o gynhyrchion a gwasanaethau creadigol (The Economist Intelligence Unit, 2021). Mae\u2019r diwydiannau creadigol wedi dod yn fwyfwy pwysig i economi Cymru, yn enwedig ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd (Komorowski, Fodor a Lewis, 2021), gan ei wneud yn sector blaenoriaeth ar gyfer datblygu economaidd rhanbarthol.<\/p>\n<p>Ar draws y continwwm diwylliannol hwn, mae&#8217;r diwydiannau creadigol yn chwarae rhan ganolog ym mywydau pobl. Gallant roi pleser ac ystyr, ac maent yn adrodd y straeon sy&#8217;n llywio ein hamgylchedd diwylliannol. Ond mae&#8217;r diwydiannau creadigol yn darparu swyddi, refeniw treth ac yn bresennol ym mron i bob sector diwydiannol arall. Mae\u2019r ddau beth hyn yn bwysig: rhaid i unrhyw strategaeth ddiwylliannol gael ei hategu gan amodau economaidd sy\u2019n ei gwneud yn bosibl.<\/p>\n<p>Mae hyn hefyd yn golygu mynd i\u2019r afael \u00e2\u2019r ffyrdd niferus y mae polis\u00efau economaidd yn llywio canlyniadau diwylliannol a chreadigol &#8211; neu\u2019n cyfyngu arnynt. Os ydym am gael economi greadigol fwy cynhwysol a gwyrddach \u2013 un sy\u2019n dathlu amrywiaeth o leisiau, yn cyfyngu ar niwed amgylcheddol ac yn creu sylfaen drethi leol gref ar gyfer ariannu gwasanaethau cyhoeddus \u2013 mae angen inni ddatblygu strategaethau a systemau sy\u2019n gallu eu cyflawni.<\/p>\n<p>Mae Canolfan yr Economi Greadigol yn defnyddio ymchwil amlddisgyblaethol, ymgysylltiol i ddadansoddi, cwestiynu, profi ac ehangu ein dealltwriaeth o werth creadigrwydd i&#8217;r ysbryd dynol ac o safbwynt ariannol. Mae ein gwaith yn llifo o fyrdd o gyd-gynyrchiadau gyda channoedd o bartneriaid yn y diwydiant creadigol yng Nghymru a ledled y byd. Mae\u2019n canolbwyntio ar sut mae cydweithio, arloesi ac ymchwil yn galluogi creadigrwydd i ffynnu mewn economi greadigol decach, wyrddach a mwy llewyrchus.<\/p>\n<p>Mae llawer o\u2019n gwaith yn seiliedig ar le, gan ddatblygu ac archwilio deinameg clystyrau creadigol rhanbarthol. Un o fentrau mwyaf hirsefydlog y Ganolfan oedd creu a llywio <a href=\"https:\/\/creativecardiff.org.uk\/\"><strong>Caerdydd Creadigol<\/strong><\/a>, sef rhwydwaith gyda mwy na 4000 o bwyntiau cyswllt gyda sefydliadau creadigol a gweithwyr llawrydd ar draws rhanbarth Caerdydd. Mae ymchwil a gwaith ymgysylltu Caerdydd Creadigol yn cefnogi proses deg o ddatblygu clystyrau creadigol yng Nghymru (e.e. Komorowski a Lewis, 2021, ar effaith Brexit ar y diwydiannau creadigol yng Nghymru), a thu hwnt, gan ddadansoddi gwerth rhwydweithiau a gofodau creadigol ledled y DU (Komorowski, Lupu, Lewis a Pepper, 2021) ac yn rhyngwladol (Komorowski, Fodor, Lewis a Pepper, 2023).<\/p>\n<figure id=\"post-520 media-520\" class=\"image align-none\"><img decoding=\"async\" src=\"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/creative-economy\/wp-content\/uploads\/sites\/381\/2024\/04\/Networking-event-.png\" alt=\"\" \/><\/figure>\n<p>Gwnaeth sefydlu Caerdydd Creadigol roi llwyfan ar gyfer nifer o ymyriadau eraill yn seiliedig ar le, yn arbennig <a href=\"https:\/\/clwstwr.org.uk\/\"><strong>Clwstwr<\/strong><\/a> &#8211; rhaglen gwerth \u00a310 miliwn, a gefnogir gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a\u2019r Dyniaethau a Llywodraeth Cymru, a sbardunodd arloesedd yn y diwydiannau a sectorau creadigol a diwylliannol yng Nghymru drwy guradu 120 o brosiectau ymchwil a datblygu gyda phartneriaid yn y diwydiant \u2013 a <a href=\"https:\/\/media.cymru\/\"><strong>Media Cymru<\/strong><\/a>, sef consortiwm ymchwil, datblygu ac arloesedd gwerth \u00a350 miliwn sy\u2019n cefnogi twf teg, gwyrdd, byd-eang yn sectorau cyfryngau a sgrin yng Nghymru.<\/p>\n<p>Mae\u2019r mentrau hyn wedi sbarduno ymchwil i glystyrau creadigol rhanbarthol, gan ddatblygu modelau newydd ar gyfer ymchwil, datblygu ac arloesi, hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant a chynaliadwyedd amgylcheddol ar gyfer y diwydiannau a sectorau creadigol a diwylliannol (gweler, er enghraifft, Komorowski, Fodor, a Lewis, 2021; Lewis et al , 2023; Lupu et al, 2023; Komorowski a Lewis, 2023).<\/p>\n<p>Mae&#8217;r ymchwil hon yn ceisio symud y tu hwnt i&#8217;r rhaniadau rhwng gwerth diwylliannol ac economaidd, neu rhwng nodau ariannol a chymdeithasol. Mae\u2019r cwestiwn, i ni, yn syml: deall y ffordd fwyaf effeithiol i econom\u00efau creadigol weithio i gynhyrchu canlyniadau cadarnhaol a chynaliadwy.<\/p>\n<p><strong>Yr Athro Justin Lewis yw Cyd-gyfarwyddwr Canolfan yr Economi Greadigol ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae\u2019n Athro Cyfathrebu a\u2019r Diwydiannau Creadigol yn Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant Caerdydd, ac yn Gyfarwyddwr Clwstwr a Media Cymru. <\/strong><\/p>\n<h3>Cyfeiriadau<\/h3>\n<p>Theodor Adorno a Max Horkheimer (1947) &#8216;The Culture Industry&#8217; yn <em>Dialectic of Enlightenment<\/em>, cyfieithiad gan E. Jephcott. Stanford: Gwasg Prifysgol Stanford.<\/p>\n<p>Hasan Bakshi, Ian Hargreaves a Juan Marteos-Garcia (2103) <em>A Manifesto for the Creative Economy<\/em>, Nesta.<\/p>\n<p>Peter Bazalgette (2017) <em>Independent Review of the Creative Industries<\/em>, Llywodraeth y DU, <a href=\"https:\/\/www.gov.uk\/government\/publications\/independent-review-of-the-creative-industries\">https:\/\/www.gov.uk\/government\/publications\/independent-review-of-the-creative-industries<\/a><\/p>\n<p>Walter Benjamin (1935) \u2018The Work of Art in the Age of Mechanical Reproduction\u2019<\/p>\n<p>Claudia Berger, Eliza Easton a Hasan Bakhshi (2021) <em>Creative Places: Growing the creative economy across the UK<\/em>, Creative Industries Policy and Evidence Centre, <a href=\"https:\/\/creative-pec.files.svdcdn.com\/production\/assets\/publications\/Creative-Places-PEC-Policy-Briefing-July-2021.pdf\">https:\/\/creative-pec.files.svdcdn.com\/production\/assets\/publications\/Creative-Places-PEC-Policy-Briefing-July-2021.pdf<\/a><\/p>\n<p>Pierre Bourdieu (1984) <em>Distinction: A Social Critique of the Judgement of Taste,<\/em> Routledge<\/p>\n<p>The Economist Intelligence Unit (2021) <em>Creative industries: trade challenges and opportunities post pandemic<\/em>,\u00a0 <a href=\"https:\/\/impact.economist.com\/perspectives\/sites\/default\/files\/eiu_dit_creative_industries_2021.pdf\">https:\/\/impact.economist.com\/perspectives\/sites\/default\/files\/eiu_dit_creative_industries_2021.pdf<\/a><\/p>\n<p>Richard Florida (2002) <em>The Rise of the Creative Class: And How It&#8217;s Transforming Work, Leisure, Community and Everyday Life, <\/em>Efrog Newydd: Basic Books.<\/p>\n<p>Rosalind Gill, Andy Pratt a Tarek Virani (gol) (2019) <em>Creative Hubs In Question: Lle, gofod a gwaith yn yr economi greadigol<\/em>, Palgrave Macmillan<\/p>\n<p><em>Jonathan Haskel a Stian Westlake (2017),\u00a0<\/em><a href=\"https:\/\/press.princeton.edu\/titles\/11086.html\"><em>Capitalism Without Capital: The Rise of the Intangible Economy<\/em><\/a><em>, Gwasg Prifysgol Princeton. <\/em><\/p>\n<p>Rebecca Hawkins (2014) <em>Paul Keating\u2019s Creative Nation: a policy document that changed\u00a0us<\/em>, The Conversation, <a href=\"https:\/\/theconversation.com\/paul-keatings-creative-nation-a-policy-document-that-changed-us-33537\">https:\/\/theconversation.com\/paul-keatings-creative-nation-a-policy-document-that-changed-us-33537<\/a><\/p>\n<p>David Hesmondhalgh, Kate Oakley, David Lee a Melissa Nisbett (2015). <em>Culture, Economy and Politics: The Case of New Labour<\/em>, Palgrave Macmillan.<\/p>\n<p>Marlen Komorowski, Mate Fodor, Justin Lewis (2021). <a href=\"https:\/\/orca.cardiff.ac.uk\/146602\">Adroddiad Rhif 2 Clwstwr ar y Diwydiannau Creadigol: Sector y Cyfryngau ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd<\/a> Adroddiad Prosiect. [Ar-lein]. Clwstwr. Ar gael yn: <a href=\"https:\/\/clwstwr.org.uk\/clwstwr-creative-industries-report-no-2-media-sector-cardiff-capital-region-driving-economic-growth\">https:\/\/clwstwr.org.uk\/cy\/adroddiad-clwstwr-ar-y-diwydiannau-creadigol-rhif-2-gyrru-twf-economaidd-drwy-weithgareddau<\/a><\/p>\n<p>Marlen Komorowski, Mate Fodor, Justin Lewis a Sara Pepper (2023) <a href=\"https:\/\/orca.cardiff.ac.uk\/160252\">Creative hubs and intercultural dialogue\u2014towards a new socio-economic narrative<\/a>. Sustainability 15(10), rhif yr erthygl: 8282. (<a href=\"http:\/\/dx.doi.org\/10.3390\/su15108282\">10.3390\/su15108282<\/a>)<\/p>\n<p>Marlen Komorowski a Justin Lewis (2021) <a href=\"https:\/\/orca.cardiff.ac.uk\/146632\">Briff Polisi Rhif 1 Clwstwr: Effaith (bosibl) Brexit ar fusnesau creadigol. Goblygiadau ar gyfer polis\u00efau a busnesau yng Nghymru<\/a>. Caerdydd: Ar gael yn: <a href=\"https:\/\/clwstwr.org.uk\/sites\/default\/files\/2020-07\/Clwstwr%20Policy%20Brief%20No%201_FINAL.pdf\">https:\/\/clwstwr.org.uk\/sites\/default\/files\/2020-07\/Clwstwr%20Policy%20Brief%20No%201_Welsh_FINAL.pdf<\/a><\/p>\n<p>Marlen Komorowski a Justin Lewis (2023) <a href=\"https:\/\/orca.cardiff.ac.uk\/160921\">The creative and cultural industries: towards sustainability and recovery<\/a>. Sustainability 15(13), rhif yr erthygl: 9923. (<a href=\"http:\/\/dx.doi.org\/10.3390\/su15139923\">10.3390\/su15139923<\/a>)<\/p>\n<p>Marlen Komorowski, Ruxandra Lupu, Justin Lewis a Sara Pepper (2021) <a href=\"https:\/\/orca.cardiff.ac.uk\/145605\">Joining the dots\u2014understanding the value generation of creative networks for sustainability in local creative ecosystems<\/a>. Sustainability 13(22), rhif yr erthygl: 12352. (<a href=\"http:\/\/dx.doi.org\/10.3390\/su132212352\">10.3390\/su132212352<\/a>)<\/p>\n<p>Justin Lewis, (1990) Art, Culture and Enterprise, Routledge.<\/p>\n<p>Justin Lewis, Marlen Komorowski, Mate Fodor, Ruxandra Lupu, Sara Pepper, Lee Walters a Kayleigh McLeod (2103) <em>Clwstwr, <\/em>Model ar gyfer<br \/>\nymchwil, datblygiad ac arloesedd yn y diwydiannau creadigol<em>, <\/em>Canolfan yr Economi Greadigol<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/clwstwr.org.uk\/sites\/default\/files\/2023-06\/Clwstwr_A%20model%20for%20research%2C%20development%20and%20innovation%20in%20the%20creative%20industries_Web.pdf\">https:\/\/busnes.senedd.cymru\/documents\/s137544\/Adroddiad%20Clwstwr%20Model%20ar%20gyfer%20ymchwil%20datblygiad%20ac%20arloesedd%20yn%20y%20diwydiannau%20creadigol%20-%202023.pdf<\/a><\/p>\n<p>Lupu, R., Komorowski, M., Lewis, J., Mothersdale, G. a Pepper, S. (2023) <a href=\"https:\/\/orca.cardiff.ac.uk\/156551\">Greening the audiovisual sector: towards a new understanding through innovation practices in Wales and beyond<\/a>. Sustainability 15(4), rhif yr erthygl: 2975. (<a href=\"http:\/\/dx.doi.org\/10.3390\/su15042975\">10.3390\/su15042975<\/a>)<\/p>\n<p>Geoff Mulgan a Ken Worpole, <em>Saturday night and Sunday morning, <\/em>Comedia, 1986.<\/p>\n<p>Justin O\u2019Connor (2023) <em>Culture is not an industry<\/em>: reclaiming art and culture for the common good, Gwasg Prifysgol Manceinion.<\/p>\n<p>Jason Potts a Stuart Cunningham (2008). \u201cFour Models of the Creative Industries,\u201d <em>International Journal of Cultural Policy<\/em> 14(3): 233\u2010247.<\/p>\n<p>Andy Pratt (2008) <em>Creative cities: the cultural industries and the creative class. <\/em>Geografiska Annaler, Series B: Human Geography, 90 (2). tudalennau 107-117. ISSN 0435-3684<\/p>\n<p>Philip Schlesinger (2017)<strong><em> \u2018<\/em><\/strong>The creative economy invention of a global orthodoxy in Innovation\u2019, <em>The European Journal of Social Science Research<\/em> 1:30.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Datblygwyd y syniad o 'ddiwydiant diwylliant' dros 70 mlynedd yn \u00f4l (Adorno a Horkheimer, 1947), ar adeg pan oedd llawer o ffurfiau diwylliannol poblogaidd yn dal i ddod i'r amlwg, [&hellip;]","protected":false},"author":634,"featured_media":518,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_jetpack_newsletter_access":"","_jetpack_dont_email_post_to_subs":false,"_jetpack_newsletter_tier_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paywalled_content":false,"_jetpack_memberships_contains_paid_content":false,"footnotes":""},"categories":[203,217,205,207,219],"tags":[],"class_list":["post-524","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-caerdydd-creadigol","category-canolfannau-creadigol","category-clwstwr-cy","category-media-cymru-cy","category-polisi-ac-ymchwil"],"jetpack_sharing_enabled":true,"jetpack_shortlink":"https:\/\/wp.me\/pfHc5i-8s","meta_box":[],"jetpack_featured_media_url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/creative-economy\/wp-content\/uploads\/sites\/381\/2024\/04\/city-of-the-unexpected.png","_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/creative-economy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/524","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/creative-economy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/creative-economy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/creative-economy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/634"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/creative-economy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=524"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/creative-economy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/524\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":525,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/creative-economy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/524\/revisions\/525"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/creative-economy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/518"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/creative-economy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=524"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/creative-economy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=524"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/creative-economy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=524"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}