Ymchwilio i’r Economi Greadigol: O syniadau i bolisïau- hanes byr yr economi greadigol
16 Ebrill 2024Datblygwyd y syniad o ‘ddiwydiant diwylliant’ dros 70 mlynedd yn ôl (Adorno a Horkheimer, 1947), ar adeg pan oedd llawer o ffurfiau diwylliannol poblogaidd yn dal i ddod i’r amlwg, a phan oedd beirniaid diwylliannol o wahanol safbwyntiau gwleidyddol yn gweld gwahaniaeth clir rhwng celf a masnach. Roedd gwerth diwylliannol yn cael ei weld fel rhywbeth a oedd yn cyfateb i chwaeth boblogaidd yn hytrach na bod yn rhan ohoni. Cafodd y gwahaniaeth hwn ei ymgorffori’n gyflym mewn olisïau cyhoeddus yn y DU ac mewn mannau eraill, boed hynny drwy fodelau Reithaidd o ddarlledu gwasanaeth cyhoeddus neu drwy ariannu’r celfyddydau’n gyhoeddus (Lewis, 1990).
Erbyn y 1960au, roedd twf diwylliant poblogaidd a’r gwyddorau cymdeithasol ar yr un pryd yn golygu nad oedd y syniad aruchel hwn o ddiwylliant yn gynaliadwy bellach. O’r 1960au i’r 1980au, dechreuodd nifer o ddamcaniaethwyr diwylliannol (fel Raymond Williams, Stuart Hall, Richard Hoggart a Pierre Bourdieu) gwestiynu systemau gwerth diwylliannol traddodiadol a oedd yn rhoi gwerth ar ddiwylliant ‘uchel’ ac yn anwybyddu diwylliant poblogaidd. Roeddent yn dadlau dros syniad llawer ehangach, mwy cynhwysol o ddiwylliant a chreadigrwydd, un a oedd wedi’i wreiddio ym mhrofiad bywyd dyddiol y rhan fwyaf o bobl.
Gosododd hyn y sylfaen ar gyfer dechrau proses o newid polisïau. Yn y 1980au, dechreuodd Cyngor Llundain Fawr, ochr yn ochr â Bwrdd Menter Llundain Fawr, ddychmygu sut olwg allai fod ar bolisi diwylliannol ehangach, mwy democrataidd, gan symud i ffwrdd o’r syniad mwy cyfyngedig o’r ‘celfyddydau’ tuag at y syniad ehangach o’r ‘diwydiannau creadigol’ (Mulgan a Worpole, 1986). Nid oedd ymyriadau polisi bellach yn ymwneud â diogelu’r ‘celfyddydau’ yn unig, ond â chael effeithiau cadarnhaol ar draws gofod diwylliannol llawer ehangach.
Ar ochr arall y byd, fe wnaeth Llywodraeth Paul Keating yn Awstralia fabwysiadu’r thema diwydiannau creadigol. Cymerodd adroddiad Cenedl Greadigol, a gyhoeddwyd ym 1994, gam pendant i ffwrdd o bolisi celfyddydau traddodiadol tuag at ddull mwy cynhwysol a oedd yn cynnwys ffilm a theledu, a hynny wrth ail-fframio diwydiannau creadigol Awstralia mewn termau economaidd yn ogystal â diwylliannol (Hawkins, 2014).
Fe wnaeth hyn baratoi’r ffordd i Lywodraeth Lafur y DU, ym 1997, fabwysiadu dull diwydiannau creadigol. Disodlwyd yr Adran Treftadaeth Genedlaethol (1992-97) gan yr Adran Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, a ddaeth i gynrychioli tirwedd economaidd newydd yn seiliedig ar arloesedd a chreadigrwydd, technoleg a diwydiannau cyfryngau byd-eang (Hesmondhalgh, Oakley, Lee a Nisbett, 2015). Dyma oes ‘Cool Britannia’, pan ystyriwyd bod y diwydiannau creadigol yn llywio ac yn diffinio diwylliant a hunaniaeth Brydeinig tra’n hybu economi’r DU.
Roedd llyfr John Howkins (2001) ar yr economi greadigol a thraethawd Richard Florida (2002) ar bwysigrwydd ‘y dosbarth creadigol’ – fel sbardun ar gyfer arloesedd a thwf economaidd mewn byd digidol – yn rhoi’r diwydiannau creadigol, a galwedigaethau creadigol yn fwy yn gyffredinol, wrth galon economïau’r 21ain ganrif. Roeddent yn dadlau bod creadigrwydd yn sbardun allweddol i ffyniant mewn byd lle mae asedau yn fwyfwy cysylltiedig ag eiddo deallusol yn hytrach nag eiddo ffisegol – mewn syniadau yn hytrach na gwrthrychau (yr ‘economi anniriaethol’). Yn ogystal â thyfu’n gynt na sectorau eraill, roedd y diwydiannau creadigol yn ganolog i ddatblygiad yr economi gyfan, ac roedd gweithwyr creadigol – fel dylunwyr a chrewyr cynnwys – yn gweithio yn y rhan fwyaf o sectorau diwydiannol.
Roedd y broses o adnabod – a dathlu – yr economi greadigol yn digwydd ar yr un pryd ag yr oedd gweithgynhyrchu ar draws y byd datblygedig yn dirywio. Roedd ardaloedd trefol a oedd yn awyddus i adfywio’u hunain – drwy greu diwylliant o ffurfio busnesau newydd a thrwy ddenu mewnfuddsoddiad – yn cofleidio’r syniad o ‘ddinas greadigol’. Yn ogystal â sbarduno arloesedd a thwf economaidd (Potts a Cunningham, 2008, t.10), roedd dinasoedd creadigol yn cael eu hystyried yn lleoedd mwy deinamig a deniadol i fyw ynddynt.
Yn 2013 cyhoeddodd Nesta eu Maniffesto ar gyfer yr economi greadigol, gan gyflwyno achos pwerus dros roi lle canolog i ddiwylliant a’r byd creadigol ym mholisïau’r llywodraeth. Yn yr un flwyddyn, datblygodd llywodraeth y DU, drwy’r Adran Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, fethodoleg ar gyfer nodi sectorau creadigol i gofnodi a mesur eu heffaith economaidd – Dyma’r adeg pan ddaeth y ‘diwydiannau creadigol’ i fodolaeth am y tro cyntaf fel categori economaidd adnabyddadwy.
Roedd maint, graddfa a thwf y diwydiannau diwylliannol a chreadigol bellach yn amlwg yn rhan sylweddol o economi’r DU (a’r economi fyd-eang). Yn 2017 comisiynodd Llywodraeth y DU Adolygiad Annibynnol o’r Diwydiannau Creadigol a roddodd y diwydiannau creadigol wrth galon yr economi ddigidol a oedd yn tyfu’n gyflym yn y DU. Un o’i argymhellion cryfaf oedd cefnogi clystyrau diwydiannau creadigol rhanbarthol ledled y DU.
Ymatebodd y Llywodraeth drwy ariannu Rhaglen Clystyrau Diwydiannau Creadigol gwerth £80 miliwn, a gefnogodd (drwy Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau) y gwaith o sefydlu naw clwstwr diwydiannau creadigol ledled y DU, ac roedd un ohonynt – Clwstwr – dan arweiniad Canolfan yr Economi Greadigol. Fe wnaeth llwyddiant y Rhaglen Clystyrau Diwydiannau Creadigol (Lewis et al, 2023) baratoi’r ffordd ar gyfer buddsoddiad pellach gan lywodraethau – dan arweiniad gwahanol bleidiau gwleidyddol – ar draws pedair gwlad y DU. Yn 2022, fe wnaeth yr UE, drwy’r Sefydliad Arloesedd a Thechnoleg Ewropeaidd, eu buddsoddiad cyntaf gwerth miliynau ewros mewn Cymuned Gwybodaeth ac Arloesedd diwylliant a chreadigrwydd.
Mae twf yr economi greadigol wedi dod law yn llaw â chorff cynyddol o graffu beirniadol. Er enghraifft, mae Philip Schlesinger (2017) yn dadlau, er bod y syniad o’r economi greadigol wedi bod yn bwysig yn wleidyddol, bod cost iddi: maes polisi lle mae diwylliant yn eilradd, ac yn cael ei drechu’n ddieithriad gan resymeg economeg. Mae Justin O’Connor (2023) yn datblygu’r feirniadaeth hon, gan ddadlau’n gryf o blaid ailddatgan gwerthoedd diwylliannol a chymdeithasol yn y broses greadigol.
Mae eraill wedi cwestiynu’r ffaith i’r ‘dosbarth creadigol’ gael ei gofleidio’n anfeirniadol fel grym cadarnhaol ar gyfer adfywio economaidd teg (Pratt, 2008; Haskel a Westlake, 2017). Mae’r diwydiannau creadigol, mewn sawl ffordd, wedi diffinio’r cynnydd yn yr ‘economi gìg’ sy’n llawn ansicrwydd, ynghyd â chyfres o arferion cyflogaeth (cyflogi drwy argymhelliad llafar, cyflogau isel ac oriau hir ar lefel mynediad) sy’n cyfyngu ar fynediad i gyflogaeth a sicrwydd swydd.
Mae hyn yn golygu ein bod wedi cyrraedd adeg ddiddorol. Mae twf aruthrol ochr yn ochr â nifer o fentrau polisi a arweinir gan ymchwil wedi gwneud yr economi greadigol yn gynnig cymhellol i lunwyr polisïau, tra mae beirniadaeth o’i ffurf a’i strwythur wedi dod yn fwyfwy cyffredin. Mae Canolfan yr Economi Greadigol ym Mhrifysgol Caerdydd yn ofod lle mae craffu beirniadol yn llywio datblygiad polisïau, gyda dealltwriaeth o’r economi greadigol sy’n ystyried ei hanes a’i chymhlethdodau. Mae ei maint a’i harwyddocâd yn bwysig, ond felly hefyd ei gallu i weithio er lles y bobl y mae’n eu cyflogi a’i chynulleidfaoedd, ac er lles ein hamgylchedd diwylliannol ehangach. Ein nod yw llywio mentrau polisi sy’n cyflawni gwerth cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd.
Ein cenhadaeth: tuag at economi greadigol werdd a theg
Rydym yn mabwysiadu diffiniad yr Adran Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon o’r economi greadigol, sy’n cynnwys y rhai a gyflogir yn y diwydiannau creadigol yn ogystal â phobl mewn galwedigaethau creadigol mewn sectorau eraill (pobl greadigol mewn sectorau eraill, fel dylunwyr neu bobl sy’n creu cynnwys). Felly er bod y diwydiannau creadigol yn ganolbwynt, maent yn is-set o economi greadigol fwy, mewn byd lle mae cyfathrebu a chynnwys creadigol yn rhan hollbresennol o fyd gwaith a byd hamdden.
Rydym yn gweld yr economi greadigol fel economi gymysg. Mae’n cynnwys sectorau (fel theatr a’r celfyddydau gweledol) sy’n cael cymorthdaliadau yn gyfnewid am fuddion diwylliannol, cymdeithasol neu economaidd canfyddedig, yn ogystal â’r diwydiannau diwylliannol mwy masnachol. Mynegir yr economi gymysg hon gan y term Diwydiannau a Sectorau Creadigol a Diwylliannol, sydd bellach yn cael ei fabwysiadu fwyfwy ar draws clystyrau creadigol yn Ewrop. Mae hwn yn gontinwwm yn hytrach na rhywbeth deuaidd syml: mae llawer o sefydliadau celfyddydol yn dibynnu ar arian cyhoeddus ond yn dal i godi refeniw masnachol, tra bod sectorau mwy masnachol, fel y sector cynhyrchu ffilmiau a theledu, yn cael cymorth gan y llywodraeth drwy gredydau treth a chymhellion eraill.
Er gwaethaf datblygiadau sylweddol, mae’r data sydd ar gael am yr economi greadigol yn parhau i fod yn anghyflawn, am ddau brif reswm. Yn gyntaf, oherwydd ei ddibyniaeth ar weithlu llawrydd mawr, sydd wedi’u heithrio o’r rhan fwyaf o setiau data’r DU. Yn ail, er bod gennym wybodaeth am raddfa’r diwydiannau creadigol (ac eithrio gweithwyr llawrydd), rydym yn gwybod llawer llai am natur y gweithlu creadigol sydd wedi’i wreiddio mewn sectorau eraill. Mae’r Ganolfan wedi datblygu dadansoddiad o setiau data sydd eisoes yn bodoli ac wedi creu setiau data newydd i ddatblygu ein dealltwriaeth o natur y diwydiannau a sectorau creadigol a diwylliannol. Felly, er enghraifft, rydym yn cyhoeddi Atlas Economi Greadigol rhyngweithiol o’r diwydiannau a sectorau creadigol a diwylliannol ledled Cymru, y mwyaf cynhwysfawr o’i fath yn y DU.
Yr hyn rydym yn ei wybod yw bod pwysigrwydd economaidd y diwydiannau creadigol yn y DU yn sylweddol ac yn tyfu. Mae un o bob wyth busnes yn y DU yn rhan o’r diwydiannau creadigol, a gyda’i gilydd fe wnaethant gyfrannu bron i £116 biliwn o werth ychwanegol gros yn 2019, gan dyfu bedair gwaith yn gynt na chyfradd economi’r DU yn ei chyfanrwydd (yr Adran Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, 2021). Yn 2018, rhagwelodd UNESCO y gallai’r diwydiannau creadigol a diwylliannol fod yn werth hyd at 10% o’r cynnyrch domestig gros byd-eang yn y blynyddoedd i ddod, gyda’r DU yn un o allforwyr mwyaf y byd o gynhyrchion a gwasanaethau creadigol (The Economist Intelligence Unit, 2021). Mae’r diwydiannau creadigol wedi dod yn fwyfwy pwysig i economi Cymru, yn enwedig ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd (Komorowski, Fodor a Lewis, 2021), gan ei wneud yn sector blaenoriaeth ar gyfer datblygu economaidd rhanbarthol.
Ar draws y continwwm diwylliannol hwn, mae’r diwydiannau creadigol yn chwarae rhan ganolog ym mywydau pobl. Gallant roi pleser ac ystyr, ac maent yn adrodd y straeon sy’n llywio ein hamgylchedd diwylliannol. Ond mae’r diwydiannau creadigol yn darparu swyddi, refeniw treth ac yn bresennol ym mron i bob sector diwydiannol arall. Mae’r ddau beth hyn yn bwysig: rhaid i unrhyw strategaeth ddiwylliannol gael ei hategu gan amodau economaidd sy’n ei gwneud yn bosibl.
Mae hyn hefyd yn golygu mynd i’r afael â’r ffyrdd niferus y mae polisïau economaidd yn llywio canlyniadau diwylliannol a chreadigol – neu’n cyfyngu arnynt. Os ydym am gael economi greadigol fwy cynhwysol a gwyrddach – un sy’n dathlu amrywiaeth o leisiau, yn cyfyngu ar niwed amgylcheddol ac yn creu sylfaen drethi leol gref ar gyfer ariannu gwasanaethau cyhoeddus – mae angen inni ddatblygu strategaethau a systemau sy’n gallu eu cyflawni.
Mae Canolfan yr Economi Greadigol yn defnyddio ymchwil amlddisgyblaethol, ymgysylltiol i ddadansoddi, cwestiynu, profi ac ehangu ein dealltwriaeth o werth creadigrwydd i’r ysbryd dynol ac o safbwynt ariannol. Mae ein gwaith yn llifo o fyrdd o gyd-gynyrchiadau gyda channoedd o bartneriaid yn y diwydiant creadigol yng Nghymru a ledled y byd. Mae’n canolbwyntio ar sut mae cydweithio, arloesi ac ymchwil yn galluogi creadigrwydd i ffynnu mewn economi greadigol decach, wyrddach a mwy llewyrchus.
Mae llawer o’n gwaith yn seiliedig ar le, gan ddatblygu ac archwilio deinameg clystyrau creadigol rhanbarthol. Un o fentrau mwyaf hirsefydlog y Ganolfan oedd creu a llywio Caerdydd Creadigol, sef rhwydwaith gyda mwy na 4000 o bwyntiau cyswllt gyda sefydliadau creadigol a gweithwyr llawrydd ar draws rhanbarth Caerdydd. Mae ymchwil a gwaith ymgysylltu Caerdydd Creadigol yn cefnogi proses deg o ddatblygu clystyrau creadigol yng Nghymru (e.e. Komorowski a Lewis, 2021, ar effaith Brexit ar y diwydiannau creadigol yng Nghymru), a thu hwnt, gan ddadansoddi gwerth rhwydweithiau a gofodau creadigol ledled y DU (Komorowski, Lupu, Lewis a Pepper, 2021) ac yn rhyngwladol (Komorowski, Fodor, Lewis a Pepper, 2023).
Gwnaeth sefydlu Caerdydd Creadigol roi llwyfan ar gyfer nifer o ymyriadau eraill yn seiliedig ar le, yn arbennig Clwstwr – rhaglen gwerth £10 miliwn, a gefnogir gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau a Llywodraeth Cymru, a sbardunodd arloesedd yn y diwydiannau a sectorau creadigol a diwylliannol yng Nghymru drwy guradu 120 o brosiectau ymchwil a datblygu gyda phartneriaid yn y diwydiant – a Media Cymru, sef consortiwm ymchwil, datblygu ac arloesedd gwerth £50 miliwn sy’n cefnogi twf teg, gwyrdd, byd-eang yn sectorau cyfryngau a sgrin yng Nghymru.
Mae’r mentrau hyn wedi sbarduno ymchwil i glystyrau creadigol rhanbarthol, gan ddatblygu modelau newydd ar gyfer ymchwil, datblygu ac arloesi, hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant a chynaliadwyedd amgylcheddol ar gyfer y diwydiannau a sectorau creadigol a diwylliannol (gweler, er enghraifft, Komorowski, Fodor, a Lewis, 2021; Lewis et al , 2023; Lupu et al, 2023; Komorowski a Lewis, 2023).
Mae’r ymchwil hon yn ceisio symud y tu hwnt i’r rhaniadau rhwng gwerth diwylliannol ac economaidd, neu rhwng nodau ariannol a chymdeithasol. Mae’r cwestiwn, i ni, yn syml: deall y ffordd fwyaf effeithiol i economïau creadigol weithio i gynhyrchu canlyniadau cadarnhaol a chynaliadwy.
Yr Athro Justin Lewis yw Cyd-gyfarwyddwr Canolfan yr Economi Greadigol ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae’n Athro Cyfathrebu a’r Diwydiannau Creadigol yn Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant Caerdydd, ac yn Gyfarwyddwr Clwstwr a Media Cymru.
Cyfeiriadau
Theodor Adorno a Max Horkheimer (1947) ‘The Culture Industry’ yn Dialectic of Enlightenment, cyfieithiad gan E. Jephcott. Stanford: Gwasg Prifysgol Stanford.
Hasan Bakshi, Ian Hargreaves a Juan Marteos-Garcia (2103) A Manifesto for the Creative Economy, Nesta.
Peter Bazalgette (2017) Independent Review of the Creative Industries, Llywodraeth y DU, https://www.gov.uk/government/publications/independent-review-of-the-creative-industries
Walter Benjamin (1935) ‘The Work of Art in the Age of Mechanical Reproduction’
Claudia Berger, Eliza Easton a Hasan Bakhshi (2021) Creative Places: Growing the creative economy across the UK, Creative Industries Policy and Evidence Centre, https://creative-pec.files.svdcdn.com/production/assets/publications/Creative-Places-PEC-Policy-Briefing-July-2021.pdf
Pierre Bourdieu (1984) Distinction: A Social Critique of the Judgement of Taste, Routledge
The Economist Intelligence Unit (2021) Creative industries: trade challenges and opportunities post pandemic, https://impact.economist.com/perspectives/sites/default/files/eiu_dit_creative_industries_2021.pdf
Richard Florida (2002) The Rise of the Creative Class: And How It’s Transforming Work, Leisure, Community and Everyday Life, Efrog Newydd: Basic Books.
Rosalind Gill, Andy Pratt a Tarek Virani (gol) (2019) Creative Hubs In Question: Lle, gofod a gwaith yn yr economi greadigol, Palgrave Macmillan
Jonathan Haskel a Stian Westlake (2017), Capitalism Without Capital: The Rise of the Intangible Economy, Gwasg Prifysgol Princeton.
Rebecca Hawkins (2014) Paul Keating’s Creative Nation: a policy document that changed us, The Conversation, https://theconversation.com/paul-keatings-creative-nation-a-policy-document-that-changed-us-33537
David Hesmondhalgh, Kate Oakley, David Lee a Melissa Nisbett (2015). Culture, Economy and Politics: The Case of New Labour, Palgrave Macmillan.
Marlen Komorowski, Mate Fodor, Justin Lewis (2021). Adroddiad Rhif 2 Clwstwr ar y Diwydiannau Creadigol: Sector y Cyfryngau ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd Adroddiad Prosiect. [Ar-lein]. Clwstwr. Ar gael yn: https://clwstwr.org.uk/cy/adroddiad-clwstwr-ar-y-diwydiannau-creadigol-rhif-2-gyrru-twf-economaidd-drwy-weithgareddau
Marlen Komorowski, Mate Fodor, Justin Lewis a Sara Pepper (2023) Creative hubs and intercultural dialogue—towards a new socio-economic narrative. Sustainability 15(10), rhif yr erthygl: 8282. (10.3390/su15108282)
Marlen Komorowski a Justin Lewis (2021) Briff Polisi Rhif 1 Clwstwr: Effaith (bosibl) Brexit ar fusnesau creadigol. Goblygiadau ar gyfer polisïau a busnesau yng Nghymru. Caerdydd: Ar gael yn: https://clwstwr.org.uk/sites/default/files/2020-07/Clwstwr%20Policy%20Brief%20No%201_Welsh_FINAL.pdf
Marlen Komorowski a Justin Lewis (2023) The creative and cultural industries: towards sustainability and recovery. Sustainability 15(13), rhif yr erthygl: 9923. (10.3390/su15139923)
Marlen Komorowski, Ruxandra Lupu, Justin Lewis a Sara Pepper (2021) Joining the dots—understanding the value generation of creative networks for sustainability in local creative ecosystems. Sustainability 13(22), rhif yr erthygl: 12352. (10.3390/su132212352)
Justin Lewis, (1990) Art, Culture and Enterprise, Routledge.
Justin Lewis, Marlen Komorowski, Mate Fodor, Ruxandra Lupu, Sara Pepper, Lee Walters a Kayleigh McLeod (2103) Clwstwr, Model ar gyfer
ymchwil, datblygiad ac arloesedd yn y diwydiannau creadigol, Canolfan yr Economi Greadigol
Lupu, R., Komorowski, M., Lewis, J., Mothersdale, G. a Pepper, S. (2023) Greening the audiovisual sector: towards a new understanding through innovation practices in Wales and beyond. Sustainability 15(4), rhif yr erthygl: 2975. (10.3390/su15042975)
Geoff Mulgan a Ken Worpole, Saturday night and Sunday morning, Comedia, 1986.
Justin O’Connor (2023) Culture is not an industry: reclaiming art and culture for the common good, Gwasg Prifysgol Manceinion.
Jason Potts a Stuart Cunningham (2008). “Four Models of the Creative Industries,” International Journal of Cultural Policy 14(3): 233‐247.
Andy Pratt (2008) Creative cities: the cultural industries and the creative class. Geografiska Annaler, Series B: Human Geography, 90 (2). tudalennau 107-117. ISSN 0435-3684
Philip Schlesinger (2017) ‘The creative economy invention of a global orthodoxy in Innovation’, The European Journal of Social Science Research 1:30.