{"id":1334,"date":"2024-04-26T12:07:22","date_gmt":"2024-04-26T11:07:22","guid":{"rendered":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/complex-safeguarding-wales\/?p=1334"},"modified":"2024-04-26T13:17:02","modified_gmt":"2024-04-26T12:17:02","slug":"cefnogaeth-i-blant-sydd-a-phrofiad-byw-o-gaethwasiaeth-fodern","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/complex-safeguarding-wales\/cy\/cefnogaeth-i-blant-sydd-a-phrofiad-byw-o-gaethwasiaeth-fodern\/","title":{"rendered":"Cefnogaeth i blant sydd \u00e2 phrofiad byw o gaethwasiaeth fodern"},"content":{"rendered":"<p><strong>Post Gwadd gan Dr Anna Skeels, Cymrawd Ymchwil, SBARC, Prifysgol Caerdydd<\/strong><\/p>\n<p>Mae caethwasiaeth fodern plant yn gymhleth, yn aml yn gudd, ac yn tarfu&#8217;n eithafol ar ddiogelwch plant a&#8217;u hawliau.\u00a0 Mae caethwasiaeth fodern yn derm ymbar\u00e9l ar gyfer pob math o gaethwasiaeth, masnachu pobl ac ecsbloetio sy&#8217;n digwydd heddiw, ac mewn perthynas \u00e2 phlant, mae&#8217;n cynnwys cam-fanteisio&#8217;n rhywiol a throseddol, cynaeafu organau, llafur gorfodol a chaethwasanaeth ddomestig.<\/p>\n<p>Caiff plant y nodir eu bod yn ddioddefwyr caethwasiaeth fodern posibl yng Nghymru a Lloegr eu hatgyfeirio gan &#8216;ymatebwyr cyntaf&#8217; (er enghraifft gweithwyr cymdeithasol, yr heddlu) at system o&#8217;r enw&#8217;r Mecanwaith Atgyfeirio Cenedlaethol (NRM).\u00a0 Yna bydd llawer o&#8217;r plant hyn yn cael cymorth uniongyrchol un i un drwy Wasanaeth Gwarcheidwaid Masnachu Plant Annibynnol (ICTG) Barnardo\u2019s neu&#8217;n elwa&#8217;n anuniongyrchol wrth i&#8217;r Gwasanaeth weithio fel rhan o ddull amlasiantaethol.<\/p>\n<p>Ar hyn o bryd ceir bwlch tystiolaeth mewn perthynas \u00e2 phrofiadau plant o\u2019r gefnogaeth y maent wedi&#8217;i derbyn a&#8217;u barn am hynny, y manteision a&#8217;r cyfyngiadau arnynt ac ar eu bywydau a sut y gallai ddiwallu eu hanghenion yn fwyaf effeithiol. Er eu bod yn canolbwyntio ar eiriolaeth a rhoi llais i blant, mae gwerthusiadau allanol o&#8217;r Gwasanaeth ICTG naill ai heb ymgysylltu&#8217;n eang \u00e2&#8217;r plant eu hunain a\/neu wedi gwneud hynny drwy ddulliau mwy traddodiadol fel cyfweliadau.\u00a0 Mae&#8217;r dulliau hyn yn anaddas i blant bregus sydd wedi profi trawma ac o ganlyniad mae iddynt gyfyngiadau sylweddol.<\/p>\n<p><img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/complex-safeguarding-wales\/wp-content\/uploads\/sites\/649\/2024\/04\/YPAG-session-1-word-puzzle-scramble-scaled.jpg\" alt=\"\" \/><\/p>\n<p>Yn gynharach eleni, cefais fy nghomisiynu i ymgymryd ag ymchwil ar y cymorth sydd ar gael i blant \u00e2 phrofiad byw o gaethwasiaeth fodern fel rhan o Gymrodoriaeth naw mis a ariennir gan y <a href=\"https:\/\/modernslaverypec.org\/\">Ganolfan Polisi a Thystiolaeth Caethwasiaeth Fodern (M SPEC).<\/a>\u00a0 Diben yr ymchwil oedd edych ar y canlyniadau tymor hirach o ran diogelu, amddiffyn, llesiant ac adferiad i blant sy&#8217;n derbyn cymorth gan Wasanaeth ICTG Barnardo\u2019s. Gofynnwyd i mi ddefnyddio methodoleg arloesol a chyfranogol i gasglu data yn ddiogel ac ystyrlon <em>gan y plant eu hunain<\/em>, yn ogystal \u00e2 galluogi cyfranogiad pobl ifanc yn y broses ymchwil ei hun.\u00a0 Yn hyn o beth, nod yr ymchwil oedd mynd i&#8217;r afael \u00e2&#8217;r bwlch tystiolaeth a nodwyd, er mwyn cael sylfeini cryf yn canolbwyntio ar blant ac atebolrwydd pwrpasol i&#8217;r plant a&#8217;r bobl ifanc dan sylw.<\/p>\n<p>Un fethodoleg a ystyriwyd gen i a allai fod yn benthyg ei hun i&#8217;r astudiaeth hon gyda&#8217;r gr\u0175p hwn o blant a phobl ifanc yw &#8216;Methodoleg-Q&#8217;.\u00a0 Mae Methodoleg-Q (a elwir weithiau&#8217;n &#8216;Q&#8217;), yn ymagwedd weithredol, gyfranogol sy\u2019n gofyn am ddidoli a blaenoriaethu set o ddatganiadau ar fater penodol, a gallai fod \u00e2 manteision posibl ar gyfer ymchwil gyda phlant sy&#8217;n goroesi caethwasiaeth fodern sydd \u00e2 phrofiad o drawma ac sydd angen teimlo eu bod mewn rheolaeth.\u00a0 Dangoswyd bod y dull hwn yn arwain at greu patrymau, meysydd gwahaniaeth a chonsensws ar faes ffocws neu thema benodol. Mae Q yn arloesol yn y cyd-destun hwn gyda&#8217;r gr\u0175p targed felly rwyf am weld a allai yn wir fod yn hygyrch ac yn briodol ar gyfer ymgysylltu \u00e2&#8217;r plant a&#8217;r bobl ifanc hyn.<\/p>\n<p>Yn ogystal, rwyf i am ymchwilio a fyddai modd defnyddio Q mewn ffordd fyddai\u2019n golygu bod pobl ifanc \u00e2 phrofiad byw o gaethwasiaeth fodern yn gallu cymryd rhan yn y broses ymchwil ei hun. Er enghraifft, drwy roi cyngor ar gynllun y datganiadau a&#8217;u gwneud yn hygyrch i blant a phobl ifanc eraill, yn ogystal \u00e2 chreu allbwn addas i berson ifanc sy&#8217;n rhannu canlyniadau&#8217;r ymchwil gyda&#8217;u cyfoedion. Byddaf yn edrych ar hyn yn fy ymchwil.<\/p>\n<p><img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/complex-safeguarding-wales\/wp-content\/uploads\/sites\/649\/2024\/04\/Q-sort-statements-scaled.jpg\" alt=\"\" \/><\/p>\n<p>Byddaf hefyd yn tynnu ar y Fframwaith Canlyniadau Cadarnhaol sef set o ddatganiadau canlyniad sy&#8217;n seiliedig ar hawliau plant. Fe&#8217;i cynrychiolir yn weledol fel &#8216;blodyn&#8217; gyda gwahanol ganlyniadau ar bob &#8216;petal&#8217;. Gallai nifer ohonynt fod yn berthnasol i&#8217;r Gwasanaeth ICTG. Fe&#8217;i datblygwyd gyda phobl ifanc nad ydynt o&#8217;r DU gyda phrofiad byw o gaethwasiaeth fodern gan yr Athro Patricia Hynes ym Mhrifysgol Sheffield Hallam yn 2022. Mae&#8217;r Fframwaith Canlyniadau Cadarnhaol yn fan cychwyn cryf ar gyfer trafod gyda gr\u0175p ymgynghorol o bobl ifanc ac ar gyfer archwilio canlyniadau&#8217;r Gwasanaeth ICTG gyda phlant.<\/p>\n<p>Bellach ym mis Medi 2023, gyda chymeradwyaeth foesegol wedi&#8217;i sicrhau, rwy&#8217;n gweithio gyda Barnardo\u2019s i recriwtio gr\u0175p o bobl ifanc i ymgymryd \u00e2&#8217;r r\u00f4l ymgynghori ymchwil, a chynhelir y sesiwn ryngweithiol gyntaf gyda&#8217;r gr\u0175p yn ddiweddarach y mis hwn.\u00a0 Trwy &#8216;her&#8217; gr\u0175p bydd y bobl ifanc hyn yn bwydo&#8217;n \u00f4l ar berthnasedd a mynegiant datganiadau&#8217;r Fframwaith Canlyniadau Cadarnhaol ac yn eu treialu ar ran eu cyfoedion.\u00a0 Yna bydd ymarferwyr o bob rhan o&#8217;r gwasanaeth yn cynorthwyo plant unigol i gymryd rhan yn yr ymchwil ei hun, gydag o leiaf ddeg ar hugain o weithgareddau didoli un i un yn cael eu cynnal dros fis Awst a mis Medi, rhai wyneb yn wyneb a rhai ar-lein.\u00a0 Bydd dadansoddiad o ddata&#8217;r gweithgareddau ymchwil hyn yn ogystal \u00e2 data arall sy&#8217;n ymwneud \u00e2&#8217;r Gwasanaeth ICTG a&#8217;r canlyniadau ar gyfer plant yn digwydd ym mis Medi a Hydref gydag allbynnau terfynol yr ymchwil wedi&#8217;u hysgrifennu erbyn diwedd eleni.\u00a0\u00a0 Yna bydd y canlyniadau ar gael i&#8217;r cyhoedd yn gynnar yn 2024.<\/p>\n<p>Ar y pwynt hwn, gan adeiladu ar yr ymchwil gyda phlant a phobl ifanc a&#8217;r bartneriaeth sefydledig gyda Barnardo\u2019s ac MSPEC, y gobaith yw y bydd modd cataleiddio barn y plant er mwyn cyflymu effaith yr ymchwil ar draws meysydd ymarfer, proffesiynol a pholisi.\u00a0 Byddaf hefyd yn gallu myfyrio ar yr ymchwil, ar fanteision a heriau Q fel methodoleg yn y maes a ph&#8217;un a oedd yn wir yn fy ngalluogi i ymgysylltu \u00e2 phlant sydd \u00e2 phrofiad byw o gaethwasiaeth fodern mewn ffordd ddiogel, ystyrlon, yn seiliedig ar drawma.<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.modernslaverypec.org\/research-projects\/fellowship-support-for-children-with-lived-experience-of-modern-slavery\"> Darganfod mwy<\/a><\/p>\n<p><strong>CYFEIRNODAU<\/strong><\/p>\n<p>Ellingsen, I.T., St\u00f8rksen, I., a Stephens, P.\u00a0(2010)\u00a0Q methodology in social work research. International Journal of Social Research Methodology,\u00a013:5,\u00a0395-409.<\/p>\n<p>Goodwin, J. a Tiderington, E. (2022).\u00a0Building trauma-informed research competencies in social work education,\u00a0Social Work Education,\u00a041:2,\u00a0143-156.<\/p>\n<p>Hynes, P., Connolly, H., a Duran, L. (2022). Creating Stable Futures: Human Trafficking, Participation and Outcomes for Children. Final Report. Sheffield Hallam University.<\/p>\n<p>Kohli, R., Hynes, P., Connolly, H., Thurnham, A., Westlake, D., a D&#8217;Arcy, K. (2015). Evaluation of Independent Child Trafficking Advocates trial.\u00a0 Final Report.\u00a0 University of Bedfordshire.<\/p>\n<p>Kohli, R., Connolly, H., Stott, H., Roe, S., Prince, S., Long, J., Gordon-Ramsey, S. (2019). An evaluation of Independent Child Trafficking Guardians \u2013 early adopter sites. Final report. Research report 111, edn, London: Y Swyddfa Gartref<\/p>\n<p>Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS). Cyhoeddwyd 29 Mawrth 2022. <a href=\"https:\/\/www.ons.gov.uk\/\">Home &#8211; Office for National Statistics (ons.gov.uk)<\/a>. Statistical Bulletin. <a href=\"https:\/\/www.bing.com\/search?q=ons+child+victims+modern+slavery+2022&amp;qs=n&amp;form=QBRE&amp;sp=-1&amp;ghc=1&amp;lq=0&amp;pq=ons+child+victims+modern+slavery+2022&amp;sc=1-37&amp;sk=&amp;cvid=1C79004AA026476AA0731E1298829112&amp;ghsh=0&amp;ghacc=0&amp;ghpl=\">Child victims of modern slavery in the UK: Mawrth 2022<\/a><\/p>\n<p>Thorsen, A., a St\u00f8rksen, I. (2010. Ethical, methodological, and practical reflections when using Q methodology in research with young children.\u00a0Operant Subjectivity\u00a033.1\/2.<\/p>\n<p>Van Biileveld, G., Dedding, C. a Bunders-Aelen, J. (2013) Children&#8217;s and young people&#8217;s participation within child welfare and child protection services: a state-of-the-art review, Child and Family Social Work<\/p>\n<p>Watts, S. a Stenner, P. (2012) Doing Q methodological research: theory, method and interpretation. Sage: Llundain.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Post Gwadd gan Dr Anna Skeels, Cymrawd Ymchwil, SBARC, Prifysgol Caerdydd Mae caethwasiaeth fodern plant yn gymhleth, yn aml yn gudd, ac yn tarfu'n eithafol ar ddiogelwch plant a'u hawliau.\u00a0 [&hellip;]","protected":false},"author":7058,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[20,13],"tags":[],"class_list":["post-1334","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-ffrwd","category-uncategorized-cy"],"meta_box":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/complex-safeguarding-wales\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1334","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/complex-safeguarding-wales\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/complex-safeguarding-wales\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/complex-safeguarding-wales\/wp-json\/wp\/v2\/users\/7058"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/complex-safeguarding-wales\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=1334"}],"version-history":[{"count":3,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/complex-safeguarding-wales\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1334\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":1338,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/complex-safeguarding-wales\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1334\/revisions\/1338"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/complex-safeguarding-wales\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=1334"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/complex-safeguarding-wales\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=1334"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/complex-safeguarding-wales\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=1334"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}