Skip to main content

Oed darllenwyr: 7-11

Y Clwb Cysgu Cŵl yn Nhŷ Ffion

6 Mawrth 2014

Rose Impey, Addasiad Siân Lewis, 2000, Gwasg Gomer. http://www.gwales.com/intro/

Cyfres y Clwb Cysgu Cwl oedd un o fy hoff gyfresi llyfrau pan oeddwn yn iau, ac roedd cael y cyfle i ail-ymweld â’r llyfrau flynyddoedd yn ddiweddarach yn brofiad braf. Maent yn lyfrau gwych ar gyfer diwedd yr ysgol gynradd, pan rydych yn crefu ar eich rhieni i gael aros draw yn nhŷ eich ffrind, i aros yn effro tan oriau man y bore yn bwyta creision a fferins, tra’n chwerthin ar yr hyn ddigwyddodd yn yr ysgol y diwrnod cynt.

Cefais yr un mwynhâd yn darllen ‘Y Clwb Cysgu Cŵl yn Nhŷ Ffion’ ag a gefais yn ei ddarllen y tro cyntaf! Mae’r modd mae’r llyfr yn dechrau gyda gwahoddiad i’r Clwb Cysgu Cŵl yn nhŷ Ffion yn eich cynnwys yn yr anturiaethau o’r cychwyn cyntaf. Hanes pump o ferched, eu bywydau yn yr ysgol, a’u hanturiaethau fel rhan o’r Clwb Cysgu Cŵl a gawn. Y direidi a’r llanast maent yn ei achosi tra’n aros draw yn nhŷ Ffion un noson sydd i’w gael yn y llyfr hwn, a cawn ein cludo yn nghanol yr hwyl a’r helbul ar daith i fyd y sachau cysgu a’r gwleddoedd ganol nos. Mae’r stori yn ymdrin â themâu megis cyfeillgarwch ffrindiau, teulu, gwrthdaro â merched cas yr ysgol, a’r dymuniad i fod yn fwy annibynnol. Mae’r Clwb Cysgu Cŵl yn benderfynol i gael hwyl, ac er eu bod yn aml yn darganfod eu hunain ar ben stori direidus, maent yn gwybod sut i ddysgu gwers!

Drwy ei ail-ddarllen, cefais unwaith eto fy nghludo i fyd Ali, Sam, Sara, Ffion a Meleri, wrth i Ali rannu cyfrinachau a hanesion eu cyfarfod diwethaf drwy sgwrsio’n uniongyrchol gyda’r darllenwr, nes ein bod yn ysu erbyn diwedd y llyfr i gael cyfarfod gweddill ei ffrindiau, a chael darllen am fwy o’u hanturiaethau yn y Clwb Cysgu Cŵl.

Mae’r llyfr hwn yn lyfr direidus a doniol. Mae’n lyfr i’w fwynhau ac hefyd yn llwyddo i ddysgu sawl gwers i’w darllenwyr am fywyd ac am ffrindiau. Mae’r llyfr hwn yn flas ardderchog o’r hyn sydd ar gael yng nghweddill y gyfres, a drwy ei ddarllen rydw i yn edrych ymlaen i ail-ymweld ag anturiaethau pellach y ffrindiau. Rydw i’n sicr y byddwch chwithau hefyd yn ysu i gael bod yn ran o’r criw ar ôl darllen ‘Y Clwb Cysgu Cŵl yn Nhŷ Ffion’. Wrth ail-ddarllen y llyfr yma rwyf wedi sylweddoli nad ydych chi byth yn rhy hen i fod yn aelod o’r Clwb Cysgu Cŵl!