Un Noson Dywyll
27 Mawrth 2017Teitl y nofel: Un Noson Dywyll.
Awdur: T. Llew Jones.
Dyddiad cyhoeddi: 1973 [Argraffiad cyntaf]
Gwasg: Gwasg Gomer
Sgôr: 5/5
Gwales: http://www.gwales.com/goto/biblio/cy/1859021034
Yn ddiweddar rwyf wedi darllen nofel Gymraeg gan T. Llew Jones [awdur adnabyddus iawn ac un o awduron mwyaf poblogaidd llyfrau plant yng Nghymru] sef Un Noson Dywyll. Mae Un Noson Dywyll yn nofel antur. Gosodir y nofel yng Nghymru ond ceir sawl cyfeiriad at Iwerddon yn y nofel hefyd. Mae’r stori yn seiliedig ar stori baban o’r enw Arthur. Arthur yw etifedd ystâd Dôl-y-Brain yn ôl ewyllys diwethaf ei dad-cu. Fodd bynnag, nid yw pethau mor syml â hynny. Ceir rhwystr enfawr sy’n cadw Arthur rhag hawlio’r ystâd. Dau ddyn (John Mansel a’i fab Harold) sy’n ei rwystro. Mae’r ddau wedi cymryd yr ystâd a ddylai fod yn eiddo i Arthur. Nid yw’r ddau ddyn yn ymwybodol o’r ewyllys diwethaf felly maen nhw’n credu eu bod yn gyfrifol am reoli’r ystâd. Fodd bynnag, mae’r pethau ar fin newid i Arthur a’r ddau ddyn drygionus…
Mae sail y stori yn eithaf realistig yn ogystal â’r themâu y mae’n delio â hwy. Mae’n delio â themâu fel problemau sy’n gysylltiedig ag etifeddiaeth, cyfrifoldeb teuluol, gwrthdaro a chariad. Mae’r gwrthdaro rhwng y cymeriadau yn gwneud y stori yn gyffrous iawn. Mae’r gwrthdaro yn gwneud ichi eisiau parhau â darllen er mwyn gweld y canlyniad ar y diwedd. Hefyd, mae ieithwedd ac arddull y nofel yn addas a chlir iawn. Mae’r stori yn hawdd i’w dilyn.
Fel rhywun sydd wedi dysgu Cymraeg fel ail iaith yn yr ysgol cyn dod i’r Brifysgol, baswn i’n dweud bod y llyfr hwn yn arbennig o dda. O ganlyniad i’r ffaith bod y llyfr yn addas i blant, mae’n golygu bod yr iaith yn symlach. Roeddwn yn gallu ei ddeall yn llawer gwell o’i gymharu â rhai llyfrau Cymraeg i oedolion yr wyf wedi eu darllen. Mae’r profiad darllen yn fwy pleserus pan allwch ddeall popeth!
Byddwn yn argymell llyfrau fel hyn i fyfyrwyr neu oedolion sy’n dysgu’r Gymraeg. Er gwaethaf y ffaith i’r llyfr gael ei greu ar gyfer plant ac mae e wedi cael ei ddefnyddio gan athrawon mewn addysg cyfrwng Cymraeg, byddwn yn dweud ei fod yn llyfr sydd â photensial i apelio at bawb o ran cynnwys.
Y prif reswm imi ddarllen y llyfr hwn oedd er mwyn cwblhau tasg yn y Brifysgol ond mae’n rhaid imi gyfaddef nad oedd ef yn teimlo fel gwaith gosod o gwbl! Mwynheais i’r nofel gyda’r ei hyd! Nawr, byddaf yn darllen mwy o lyfrau fel hyn yn y dyfodol!