Olion Hen Elyn
29 Mawrth 2017
Edrychaf ar y llyfr ffantasi hwn o’r enw Olion Hen Elyn. Mae’n llyfr diddorol a ddengys delweddaeth o bobl ifainc, eu gweithredoedd a’u hagweddau at y byd o’u cwmpas mewn pentref yng Ngorllewin Cymru, Blaencelyn. Ysgrifennwyd gan Elgan Phillip Davies fel rhan o driawd, y llyfr hwn yw’r gyfrol gyntaf. Mae’n rhagorol sut mae’r awdur wedi cynnwys elfennau amrywiol; megis ffantasi, meddylfryd yr ieuenctid, hanes lleol, a golygfeydd golau/goruwchnaturiol. Ond er gwaethaf y cyferbyniadau sydd yn bodoli ochr yn ochr gyda’i gilydd, gwnaeth y awdur eu gweithio mewn cytgord fel modd am gynnal cysur y darllenydd, heb yn ei wrthdynnu at un thema benodol ond yn cadw ei sylw yn y cylch o’r themâu cyfunol.
Mae’r stori ei hunan am dri chymeriad penodol; Non, Cai a Graham pwy sy’n gyfeillion o’r dref ac mae angen arnynt am gwblhau prosiect dros wyliau’r haf ar hanes eu cynefin a’r Ysgoldy lleol ym Mlaencelyn. Mae Non a Cai am wneud y prosiect i safon da ond mae Graham yn gymeriad diog, esgeulus bron, ac mae’n well ‘da fe gwneud pethau yn ei amser ei hun.
Mae Non wedi newydd symud mas ei chartref, Tyddyn Gwyn, at dŷ newydd pan fo menyw newydd o’r enw Alice James wedi symud i mewn Tyddyn Gwyn. Dangosir elfen glasurol o rywun ifanc yn ystod y cyfnod yma, teimla Non yn siom am symud chartrefi ac mae hi’n genfigennus am drigolyn Tyddyn Gwyn newydd.
Yn fuan hwyrach yn y nofel, penderfyna’r tri chyfaill gwneud rhan eu prosiect ar Blas Alltlwyd, plasty ym Mlaencelyn. Ond mae diffyg o wybodaeth gyda nhw ac ar y we, felly maen nhw wedo holi pobl sef mam Non, taid Non a wedi ymchwilio ar y We. Ond ar ôl iddynt fethu dod o hyd i unrhyw wybodaeth o gwbl, penderfynom gwrdd â Seimon Morris, dyn newydd i’r ardal, pwy sydd gyda newyddion a gwybodaeth ddefnyddiol ynghylch prosiect Non, Cai a Graham.
Ar ôl drafodaethau wedi eu cynnal, aeth y criw yn cynnwys Seimon a’i gi o’r enw Gel, ar fath o daith i Ysgoldy lleol. Dinistriwyd yr Ysgoldy o flynyddoedd nôl ac yn darparu synnwyr o densiwn seicolegol ar y criw, ac ar y darllenydd. Nid oedd llawer o straeon cadarnhaol a ddaeth o’r Ysgoldy, dinistr a hanes uffernol yr ardal.
Esbonia Seimon Morris am ddigwyddiadau a gynhelwyd yr ardal hon, gyda’r adeiladau a’r bobl. Dysgwyd cymeriadau newydd o gyfnod cyn bywyd y criw, ac am gyfnod tywyll ym Mlaencelyn. Dyma hanes am ddrygioni a fwydwyd gan anghytundebau, casineb a gweithredoedd yn y celwyddydau du. Ar ôl y criw wedi clywed seinau, wedi gweld pethau yn y cysgodion ac yn darllen yn bellach i mewn hanes Blaencelyn. Dechreuom weld bod hanes yn ailadrodd ei hunan, gydag ofnau am y drygioni a oedd yn o iawn unwaith ym Mlaencelyn yn dod yn fyw unwaith eto…