Skip to main content

Oed darllenwyr: 12+Rhamant

Ni’n Dau

30 Ebrill 2014

Ni’n Dau

Ceri Elen

Dyddiad cyhoeddi: 2014

Gwasg: Y Lolfa

Sgor: 5/5

http://www.gwales.com/goto/biblio/en/9781847718426/?session_timeout=1

Mae hon yn nofel wych sy’n dod i’r afael â themau hynod ddwys. Mae gweld ymdriniaeth aeddfed o themau o’r fath mewn llenyddiaeth i blant yn chwa o awyr iach. O’m rhan i, mae’r nofel hon yn cynrychioli llawer mwy na dim ond nofel. Ymddengys, o’r diwedd, bod awduron wedi stopio’r arfer o ysgrifennu deunydd nawddoglyd ar gyfer plant ac wedi dechrau ysgrifennu deunydd sy’n ymdrin â themau mwy tywyll. Serch hynny, arddull ysgafn sydd iddi, sy’n ei gwneud hi’n nofel ddarllenadwy dros ben. Yr hyn sy’n drawiadol, ag sy’n dangos ôl nofel dda, yw ei bod hi’n apelio at ddarllenwyr o bob oedran er ei bod hi wedi ei hysgrifennu yn neulltiol ar gyfer plant.

Rwy’n dwli ar y disgrifiad fer sydd ar glawr y llyfr, ‘Stori emosiynol am fachgen a merch’, gan ei bod hi’n crynhoi’r nofel yn berffaith. Mae hi’n sicr yn emosiynol iawn i’w darllen, ac yn fynegiant personol iawn o deimladau dwys y cymeriadau, sy’n ein caniatau ni i uniaethu’n fawr â nhw fel darllenwyr. Mae’n arbennig fod yr awdur wedi rhoi cydnabyddiaeth i bobl ifainc sy’n dioddef o iselder hefyd. Mae Ceri Elen fel petai yn torri tabŵ wrth sôn am y pethau hyn mewn llenyddiaeth i blant.

Er ei bod hi’n stori syml iawn, mae ‘Ni’n dau’ yn un sy’n ein cadw ni i ddarllen hyd ei diwedd gan ei bod hi’n llawn tensiwn a chymhlethdodau meddyliol. Mae’r berthynas rhwng Hawys a Ben yn un arbennig iawn, sydd yn y pen draw yn eu hachub nhw rhag eu hunigrwydd. Erbyn diwedd y nofel, mae’r awdur wedi llwyddo i’n hysbrydoli ni i ymddiheurio i bobl ac i fod yn fwy ystyriol o bobl heb ein bod ni’n teimlo moeswers nawddoglyd, amlwg yn y stori.

Byddai’n dda iawn gen i pe bai mwy o nofelau fel ‘Ni’n Dau’ yn cael eu cyhoeddi yn y blynyddoedd nesaf. Mae’n marcio newid yn y ffordd mae awduron yn mynd ati i bortreadu pobl yn eu harddegau. Nid ydynt bellach yn rai di-glem, anghwrtais, diog, ond yn hytrach yn rai sy’n dioddef problemau ac anhwylusterau go iawn ar adegau. Mae hi’n gamp o nofel, ac am hynny rwy’n rhoi 5/5 iddi.