Skip to main content

Oed darllenwyr: 12+

Ni’n Dau

27 Mawrth 2017

Teitl: Ni’n Dau. Awdur: Ceri Elen. Dyddiad Cyhoeddi: 2014. Gwasg: Y Lolfa. Sgor: 4/5.

Dolen Gwales: http://www.gwales.com/goto/biblio/en/9781847718426/

Nofel y gellir ei galw’n ymson estynedig yw ‘Ni’n Dau’ gyda’r ddau brif gymeriad yn adrodd o’u safbwyntiau nhw. Mae ffurf yr ymson yn ei gwneud hi’n fwy effeithiol wrth fynd i’r afael â themâu dwys gan gynnwys salwch meddwl. Cawn deimladau’r cymeriadau eu hunain sy’n cryfhau’r brif neges bod iselder yn bresennol ymysg pobl ifanc. Braf yw gweld themâu dwys yn cael mwy o sylw mewn llenyddiaeth i bobl ifanc. Teimlaf fod tueddiad ambell waith i awduron gadw at yr un ystrydebau cyffredin am bobl ifanc, felly cam ymlaen yn fy marn i yw’r sylw at themâu mwy dwys y mae llawer yn ofni eu trafod.

Nid yw ymdriniaeth yr awdur yn nawddoglyd, fodd bynnag. Mae’n delio â’r themâu mewn modd aeddfed. Portreadir yn glir yr hyn mae’r awdur eisiau ei ddweud gyda chystrawen hynod rwydd ei darllen, ond eto’n addas i bob oed er yr ysgrifennodd hi at gynulleidfa yn eu harddegau.

Cywir yw’r dyfyniad ar glawr y nofel yn datgan ‘stori emosiynol am fachgen a merch’ oherwydd dyna’n union ydyw. Mae pob math o emosiynau yn llwyddo i gael eu cyfleu trwy’r bachgen a’r ferch, ac mae’r ffordd mae eu llwybrau’n croesi yn binacl i’r holl emosiwn.

Un agwedd gwan ar y nofel fodd bynnag oedd y diweddglo yn fy marn i. Wedi ymdriniaeth mor aeddfed ar y cymeriadau a’r themâu trwy gydol y nofel, siomedig iawn yw’r diweddglo. Braidd yn ‘crinj’ i mi yw’r syniad y byddai dau berson ifanc yn eu harddegau yn cofleidio o flaen cannoedd o ddisgyblion. Mae’r paragraff olaf un yn trafod sefyllfa’r cymeriadau yn eu dyfodol – yn gorliwio’n ormodol yn fy marn i. Teimlaf mai diweddglo digonol oedd y ddau brif gymeriad yn darganfod hapusrwydd yn ei gilydd.

Ar y cyfan, dyma nofel bwerus sy’n mynd i’r afael â themâu pwysig. Mae’r naratif emosiynol yn cadw’r darllenydd i ddarllen, a gobeithiaf weld nofelau tebyg yn cael eu hargraffu i bobl ifanc yn y dyfodol agos.